Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

colegau

colegau

Fel y gwyddys, pur amheus oedd y Methodistiaid Calfinaidd o werth colegau a'r addysg a gyfrennid ynddynt.

Gan ystyried pwysigrwydd y sylwadau hyn, cytunwyd mai'r nod o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd oedd: "rhoi amrywiaeth o brofiadau addysgol yn y Gymraeg am gyfnod helaeth o bob dydd, o'r flwyddyn gyntaf yn yr ysgol gan gymryd i ystyriaeth gyraeddiadau gwahaniaethol y disgyblion" Cytunwyd: a) bod angen rhagor o fyfyrwyr yn y Colegau Addysg â diddordeb mewn dysgu ail iaith; b) bod angen trochiant llwyr yn yr ail iaith mor gynnar â phosibl ac nad yw ugain munud y dydd o ddysgu ail iaith yn ddigonol; c) bod angen gosod lefelau cyrhaeddiad graddedig a fyddai'n sicrhau dilyniant a chynnydd.

Nid yw'r un o'r papurau ymgynghori yn cyfeirio at ddyfodol hyfforddiant mewn swydd, nac yn enwedig sut y gellir darparu digon o athrawon (a darlithwyr mewn colegau addysg bellach ac uwch) a fydd yn medru gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn medru cyflwyno'r Gymraeg fel ail iaith i'r holl ddisgyblion a myfyrwyr eraill yng Nghymru.

Ond y colegau enwadol a gyfrannodd fwyaf o ddigon at hyfforddi'r athrawon.

Croesdoriad yn cynrychioli nifer o asiantau oedd yno: awdurdodau addysg, adrannau gwasanaethau cymdeithasol, colegau addysg bellach, colegau hyfforddi, y cyfryngau, maes Cymraeg i Oedolion, y sector wirfoddol, cymdeithasau rhieni.

Y maent yn ariannu cyrsiau/colegau per capita, hynny yw, yn rhoi arian ar gyfer pob myfyriwr/wraig sydd wedi cofrestru.

Dyma'r colegau yr ydym yn son amdanynt felly.

Dyma'r cyfnod pan gollodd Cymru gannoedd o'i phobl ieuainc ddisgleiriaf, y bechgyn a'r genethod a ddaeth allan o'n colegau a'n prifysgolion, ac a orfodwyd i fynd dros y ffin i Loegr i chwilio am swyddi am nad oedd gwaith ar eu cyfer yng Nghymru.

Son yr oedd am yr hysbysfwrdd mawr hwnnw y tu allan i ddinas y colegau, gyda'r geiriau hyn arno: ....

Colegau Addysg Bellach, Awdurdodau Addysg Leol a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr sy'n gyfrifol am y cyrsiau darnynol, tra bo'n sefydliadau addysg uwch yn darparu cyrsiau dwys a chyrsiau uwch.

Credai'r gwirfoddolwyr mai dod ag addysg o dan ddylanwad yr Eglwys Wladol oedd nod y Llywodraeth, tra dadleuai'r garfan honno a oedd yn barod i dderbyn grantiau, fod y Cymry'n rhy dlawd i gynnal eu hysgolion a'u colegau eu hunain, ac y dylid manteisio ar y cymorth.

[Cynhwysir enghraifft o holiadur ar gyfer llunio Audit Staffio yn Atodiad ] Cyrsiau - audit a fyddai'n cynnwys gwybodaeth am y posibiliadau o ddatblygu gwahanol agweddau ar addysg Gymraeg yn yr ysgolion a'r colegau; Er mwyn sicrhau addysgu effeithiol byddai angen ymchwil i feysydd hyfforddiant a thechnegau dysgu ar batrwm yr awgrymiadau canlynol: - llunio cynllun hyfforddiant i gymhwyso athrawon i ddysgu Cymraeg fel pwnc a thrwy gyfrwng y Gymraeg; - archwilio strategaethau dysgu er mwyn adnabod y rhai mwyaf effeithiol ar gyfer dysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg ar batrwm Ysgolion ar Waith a Primary schools: some aspects of good practice; - archwilio'r posibilrwydd o greu strategaethau dysgu gwahanol a newydd yn ôl y galw, ee grwpiau bychain, dysgu o bell.

'Mae un coleg wedi'i droi'n ganolfan weinyddol i'r Gwarchodwyr a'r llall yn ganolfan addysg i rai dethol a fydd yn do arall o Warchodwyr.' 'Ond beth am y colegau eraill?'

Bydd yn gymorth efallai enwi'r colegau dan sylw.

Yn y cyfnod hwn y duedd oedd i'r prifeirdd ddod o gefndir academaidd y colegau; cymharol ddiaddysg oedd Hedd Wyn, ac yn erbyn ei ewyllys yr ymunodd â'r Fyddin.

Mae yna sawl un sydd o'r farn fod hogia Bangor wedi gwella'n aruthrol yn ystod y misoedd diwethaf ac felly mi edrychwn ni ymlaen rwan at gael clywed eu sesiwn ar raglenni Gang Bangor yn y dyfodol agos gan mai dyna oedd y wobr yr oedd grwpiau colegau Cymru yn cystadlu amdani.

Y colegau sy'n cymryd rhan ydy Coleg Glannau Dyfrdwy, Coleg Llandrillo, Coleg Llysfasi, Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Menai, Athrofa Gogledd Cymru, Prifysgol Cymru Bangor, Coleg Garddwriaeth Cymru, Coleg Harlech a Choleg Iâl.

Ychydig o Gymraeg sydd yna mewn colegau trydyddol.

Fel y mae'r ganrif yn cerdded rhagddi gwelwn fod rhai ohonynt wedi bod mewn colegau heblaw'r rhai enwadol a diwinyddol.

Er enghraifft, bu Owen Prys yn y Coleg Normal, Bangor, a Herber Evans yn y Coleg Normal, Abertawe, ac yn naturiol at ddiwedd y ganrif daw colegau Prifysgol Cymru i'r darlun.

* Cyngor Cyllido Addysg Bellach sy'n darparu cyrsiau mewn colegau chweched dosbarth, colegau trydyddol a cholegau addysg bellach; darparu cymorth i sefydliadau addysg gymunedol gan gynnwys Mudiad Addysg y Gweithwyr (WEA) ac i gyrff gwirfoddol addysg a gwaith ieuenctid gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru a Mudiad Ffermwyr Ifainc;

Ers tair blynedd mae'r colegau addysg bellach ac uwch wedi bod yn cydweithio ar y cynllun.

Braf cael gwahoddiad gan fod nifer o athrawon tramor mewn colegau eraill yn cael eu hanwybyddu.

Mae hyn, yn amlwg, yn hybu cystadleuaeth rhwng colegau ac yn gorfodi'r colegau i gystadlu yn erbyn ei gilydd i gael myfyrwyr (sydd yn golygu arian) a llenwi eu cyrsiau, yn hytrach na chyd-weithio er mwyn darparu'r addysg orau bosib.

gobeithiaf y bydd hwn yn helpu siaradwyr cymraeg i fynd i'r afael a'r her hon ychwanegodd y bydd y swyddfa gymreig yn annog colegau a chyflogwyr i gydweithio a menter a busnes.

Tudur Jones - Diwylliant Colegau Ymneilltuol y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.

* Cyngor Cyllido Addysg Uwch sy'n darparu cyrsiau mewn athrofeydd, colegau (ac ysgolion) hyfforddi athrawon a phrifysgolion (gan gynnwys adrannau efrydiau allanol);

Llongyfarchiadau i'r bobl ifanc a lwyddodd yn eu arholiadau yn yr ysgol a'r Colegau ar ddiwedd tymor yr haf.

Gosodwyd y brotest i fyny ar fyrddau hysbysebu'r colegau, er mwyn rhybuddio'r myfyrwyr rhag y Traethawd.

Swyddogaeth PDAG yw cynnig arweiniad i'r system ar sut i hwyluso'r fath ddarpariaeth gyd-lynus, ar gyfer plant yn eu blynyddoedd cynnar trwy'r system statudol a'r colegau, i'r addysg barhaus ar gyfer oedolion yn eu cymunedau.

Casglwyd arian y gweithiwr o Gymro at y colegau prifysgol.

Petai gofyn iddynt, rhesymol fyddai disgwyl iddynt sefydlu rhwydweithiau lleol i gyflawni'r gwaith - yn achos ysgolion os nad y colegau - a dyna union swyddogaeth awdurdodau lleol!

Ymhen wythnos daeth penaethiaid y colegau at ei gilydd, ac heb aros am eglurhad gan yr awdur, cytunasant i gondemnio'r Traethawd a'i alw'n anonest.

Mae yna gydweithio rhwng y colegau, yr adran addysg o'r cyngor sir a'r gerddi er mwyn creu swyddi ac mae hynny yn beth da i ardal wledig, meddai'r Cynghorydd Huw John.

dywedodd hefyd : bydd y ganolfan yn galluogi colegau a chyflogwyr i ddarparu addysg a hyfforddiant busnes a rheolaeth amlieithog safon uchel.

Ac yn ail iddynt, colegau enwadol Lloegr.

Bu Cell Colegau Aberystwyth am dro o amgylch banciau a chymdeithasau adeiladu'r dref ychydig yn ôl (Dydd Mercher, Tachwedd y 1af) i weld os oeddynt yn gweithredu polisiau dwyieithog llawn.

Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn siarad Urmyceg ac yn yn gweithio mewn colegau ac ysgolion a'r capeli drafftiog rheini y soniwyd amdanynt.

Felly, gwaith amhosibl i'r colegau oedd sicrhau dim byd tebyg i safon unffurf ac uchel wrth dderbyn myfyrwyr.

Arweiniodd y newid hwn, er enghraifft, i ddryswch yn barod ymhlith staff colegau, swyddogion y Cyd-Bwyllgor Addysg a swyddogion y Cynghorau Cyllido.

Oblegid bod ganddynt draddodiad a hwnnw'n amlwg yn eu gwaith, gwedir eu hawl i weledigaeth.' Un rheswm am y dibrisio hwn, meddai, oedd y modd y dysgid Cymraeg yn y colegau: rhoddid pwyslais ar eirfa a chystrawen yr hen gywyddwyr, ond anwybyddid eu myfyrdodau ar y byd.

Y mae'r broses o gynhyrchu deunyddiau dysgu cenedlaethol yn Gymraeg yn digwydd yn bennaf yn y canolfannau adnoddau (CAA, CAI, Adran Gymraeg CBAC, Yr Uned Iaith Genedlaethol, MEU Cymru, CGAG), ond digwydd hefyd mewn rhai colegau ac awdurdodau unigol.

Mae sylwadau'r Gymdeithas yn arbennig o berthnasol gan ein bod ar ganol ymgyrch o weithredu uniongyrchol i sicrhau fod y colegau addysg bellach yng ngorllewin Cymru yn dod yn sefydliadau cwbwl ddwyieithog.

Ond nis cydnabyddid felly bellach gan benaethiaid y colegau.

'Rhoes ei geiniog brin at godi'r coleg' er mwyn i'w fab ei hunan beidio â medru nac iaith ei dad nac ystorïau'i dadau na gwybod dim am 'adlais cerddi ei ieuenctid pell'. Mynych y dywedwyd mai'r gwahaniaeth rhwng colegau Prifysgol Cymru a phrifysgolion dinasoedd masnachol a diwydiannol Lloegr yw mai meistri masnach a diwydiant a greodd y sefydliadau Seisnig ond ceiniogau'r werin a gododd golegau Cymru.

Diddorol yw nodi fod cyfartaledd uwch o staff colegau'r Annibynwyr yn Aberhonddu a'r Bala wedi'u haddysgu yng Nghymru'n unig ac na chafodd unrhyw athro gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ei addysg yng Nghymru'n unig mwy na staff colegau'r Bedyddwyr yn y De ddwyrain.

A hithau'n ysgolhaig eang ei gwybodaeth, diau y gall y gyfrol hon fod yn fan cychwyn trafodaeth ddwys mewn colegau ac ymhlith ysgolheigion - o'u safbwynt hwy bydd yn ychwanegiad buddiol at - ac yn grynhoad gwerthfawr o'r drafodaeth a fu hyd yn hyn.

Mae pwysau'r farchnad yn amlwg yn effeithio ar y Colegau a'r addysg a gynigir.

Erbyn cyrraedd colegau Prifysgol Cymru dyw pethau ddim wedi gwella ers y pumdegau a'r chwedegau, fe gewch chi wneud Cymraeg, Hanes, Ysgrythur a Daearyddiaeth os ydych chi'n lwcus, drwy gyfrwng y Gymraeg a dyna ni.

Yn bennaf agwedd geidwadol athrawon y colegau diwinyddol, fel y cefais i nhw, onid e?