Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

confensiynol

confensiynol

Gan yr ymddengys ei fod wedi camddeall diben y brotest, bydd llythyr arall yn cael ei anfon ato - ar ffurf mwy confensiynol - er mwyn iddo ddeall yn iawn beth yw gofynion y Gymdeithas.

Dibynna'r drydedd dybiaeth, sef mai'r incwm gwladol sy'n pennu treuliant, ar egwyddor cyfranrediad, egwyddor sy'n ganolog i astudiaethau macro-economeg confensiynol.

Mae'r ddau achos hyn o newid rhywiau yn enghreifftiau da o'r modd y bydd rhai awduron yn ystumio deunydd crai eu profiad wrth ei droi'n ffuglen er mwyn gwneud iddo gydymffurfio'n well a phatrymau confensiynol eu byd.

Yn lle bod tro confensiynol (yn null arferol Mihangel Morgan) i'w gael yn unig yn y stori, fe geir hefyd, yn y chwedl anacronistig, Sionyn â'r Ddraig, yr awdur, ie, yr awdur, yn ddigon annisgwyl, yn siarad â'r darllenydd.

Dylid nodi hefyd bod i'r Gymdeithas ei nodweddion confensiynol ochr yn ochr â'r awydd i dorri cwysi newydd.

Syniai Saussure am iaith fel chwarae gwyddbwyll, lle y bo i'r darnau eu gwerth a'u swyddogaeth a lle y bo'n rhaid eu symud yn ôl rheolau arbennig; bod dwy wedd ar astudio iaith, sef y wedd syncronig, disgrifiad o gyfansoddiad iaith, ei sieniau, ei geiriau a'i gramadeg mewn cyfnod arbennig, a'r wedd ddeiacronig, y cyfnewidiadau sy'n digwydd i iaith dros gyfnod o amser; a bod rhai gwahaniaethau rhwng Langage, gallu cynhenid yr hil ddynol i gyfathrebu trwy gyfrwng arwyddion llafar confensiynol, la langue, y system ieithyddol fel y mae'n bod yn meddwl pawb sy'n defnyddio'r iaith, a la parole, arferion llafar ac ysgrifenedig y siaradwyr, yr unig wedd y gellir ei hastudio.

Yn wir, teimlai nad oedd yn gwneud unrhyw ystyr confensiynol o gwbl iddo ef, o bawb, fod yn barod i beidio â dal dig wrth feddwl am y berthynas arbennig a oedd rhyngddo ef a Marie.

Rhoes y gorau i arlunio confensiynol er mwyn datblygu ei dawn arbennig at greu baneri protest allan o ddefnydd lliwgar.

Mae'n wir, fel y dywedodd Dafydd Glyn Jones eto, fod holl 'elfennau confensiynol rhamant yng ngolygfa'r dianc i briodi, ond nid yw hynny, wrth gwrs, yn gyfystyr a dweud mai dehongliad arferol y cyfnod rhamantaidd o'r nwyd ei hun sydd yma.

Yr oedd y dulliau hynny, a moesoldeb a chrefyddolder confensiynol yr oes, yn ddigon i'r mwyafrif mawr o'r nofelwyr Cymraeg eraill .

Ac wrth ei dawnsio, llaesodd pob un o'r dawnswyr hynny o foesau confensiynol oedd ar ôl ganddynt.

Yn amlach na pheidio rhoddai Powell fwy o groeso i ateb anghywir a oedd yn ffrwyth meddwl neu ddychymyg nag i ateb cywir confensiynol a di-fflach.

Felly tuedda'u gweithiau i fod yn fwy confensiynol na'r realiti y maent yn honni ei gynrychioli.

Nid oedd y byd confensiynol yn barod eto i wrando ar lais yr aderyn hwn, a ddieithrwyd gan brosesau hanes.

Radicalaidd-anghydffurfiol) o'r Eglwys yn y ddeunawfed ganrif, gan bortreadu Theophilus fel esiampl o fywiogrwydd eglwyswyr yn y cyinod hwnnw; mae'n mynd hefyd y tu hwnt i lawer o'n syniadaeth confensiynol ni a dangos sut oedd modd yn y cyfnod hwnnw gydblethu Cymreictod a Phrydeindod gydag arddeliad.

Cyfrwng i fynegi teimladau personol yw barddoniaeth i ni heddiw, ac felly gallwn ymateb yn haws o lawer i gerdd fel hon nag i'r cerddi mawl confensiynol.