Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

consensws

consensws

Aed ati felly i sicrhau consensws wrth baratoi'r strategaeth, a gwnaed ymdrech fwriadus i gyflawni hynny yn y broses ymgynghorol.

Ond pa mor hir fydd yr hyder newydd yn para a Mr Redwood yn dadbwytho'r consensws brau?

Gyda methiant y canol i greu consensws o fewn gwlad sy'n prysur ymffurfio'n rhanbarthau economaidd a diwylliannol, nid yw'n destun syndod y bydd y pleidiau rhanbarthol yn chwarae rhan allweddol yn y senedd newydd.

Mae'r strategaeth felly yn symbol o'r consensws newydd sy'n bodoli ym myd busnes a datblygu economaidd yng Nghymru ac yn Ewrop ac sy'n anwybyddu'r hen wrthgyferbyniad rhwng y 'Wladwriaeth' a'r 'Farchnad' a lywiodd gymaint o'r trafod yn yr wythdegau, a hynny trwy osod nod strategol sy'n ymgais i gyfuno buddiannau pawb yn y gymdeithas ar lefel ranbarthol.