Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

copa

copa

Felly, fy annwyl gyd-derfysgwyr cawn eich gweld yng Nghyfarfod Cyffredinol y flwyddyn nesaf os na fydd pob copa walltog ohonom yn y carchar wrth gwrs.

Dilyn rhaeadrau oedd fy ngwaith yr ochr draw, saith milltir o raeadrau rhwng copa'r bwlch a phentref bach Susauna, a milltir ar ben milltir arall o raeadr a phistyll yn ymuno a phrif afon y cwm o grognentydd clasurol, o'r pantiau eira disglair y tu ol i'r cymylau, ac o lasierau cudd Piz Vadret.

Cymro ar y Copa - Emrys Roberts (Tud.

Hawdd iawn yw codi breichiau mewn arswyd at y ffaith fod copa'r Wyddfa ar werth.

Bwrw dwy awr neu well ar y copa, ac yna disgyn yn ochelgar dros y graig eilwaith, gan mai'r peth rhwyddaf yn y byd oedd colli golwg ar y llwybr i waered, heb sôn am ysigo sawdl neu dorri coes.

Rhaid dringo tipyn eto i gyrraedd yr uchaf o'r tri llyn, Glaslyn, sy'n swatio'n glos yng nghesail copa'r Wyddfa.

Rhannodd y Kloteniaid eu cawl a'u tegell a mi a'm rhybuddio fod cymaint trwch anarferol o eira newydd ansefydlog ar grib uchaf Piz Lischana nes bod y ddau dad wedi gorfod troi yn eu holau y bore hwnnw cyn cyrraedd y copa: yn sicr nid oedd y mynydd mewn cyflwr priodol i alleinganger.

Roedd yn reid wefreiddiol ond cododd ofn arna' i ar brydiau, ac roeddwn i'n falch i gyrraedd y copa.

Sylwch ar haenau'r graig o gwmpas hafn gysgodol y Twll-du, y gwaelodion gwreiddiol yw'r copa%on bellach, dyma ran synclein yr Wyddfa, effaith plygiadau'r ddaear dan bwysedd anfeidrol bore'r byd.

Creigiau duon sydd ym mhobman wrth i'r gadwyn o ddringwyr ddilyn yr arweinydd i'r copa.

Mae yn edrych yn gul ar y copa, ond mae yno lecyn hollol wastad ar y pen; yn wir mi allasech wneud cae pêl- droed yno ond ichwi glirio ychydig o gerrig.

Mae'n debyg fod pob copa walltog ohonom wedi gorfod benthyca ceiniog neu ddwy rywbryd yn ystod ein hoes ar gyfer rhyw ddiben neu'i gilydd.

Caf esgus i loetran yn hamddenol yn hytrach na bustachu tua'r copa pan ddof ffordd hyn ganol haf i chwilota am blanhigion yng nghysgod y creigiau, wrth ffrydiau neu ar ymylon y pyllau mawn.

Roedd John Moriarty Owen o Stryd y Ffynnon, Gerlan, a Iolo Jones o Stryd Brynteg yn bwriadu rhedeg i fyny ac i lawr pedwar copa ar ddeg o fynyddoedd Eryri er mwyn codi arian i brynu offer arbenigol i Steffan Wyn, mab bychan Kevin a Meinir Thomas, Stryd John, Bethesda.

Edmund Hilary a Tensing yn cyrraedd copa Everest.

Yno roedden nhw ar hyn o bryd, a gofid am ei mam oedd wedi peri iddi aros mor hir ar y copa.

Tu draw iddo y dechreua'r dringo o ddifrif os am gyrraedd copa'r Wyddfa.

Mynd o amgylch y gwersyll i ofyn i bob copa am unrhyw gân, neu ran o gân a gofiai, a gofyn iddo ei hysgrifennu.