Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

corachod

corachod

Mewn ymdrech i geisio'u dal, aeth rhai o'r corachod ar draws eu llwybrau ond cafodd y rheiny eu sathru gan garnau'r ceffylau wrth iddyn nhw garlamu'n anweledig i ffwrdd.

Y corachod arfog.' A phoerodd mewn diflastod.

Daeth rhai o'r corachod at yr hafn, yn barod i fentro drwyddi, heb weld y tri milwr a safai yno.

Gallai glywed y cerrig yn atseinio'r tu ôl iddo wrth i'r corachod ymysgwyd yn rhydd.

Cyn iddyn nhw ateb dechreuodd y corachod neidio i fyny ac i lawr gan eu gwawdio.

Yn union wedi i Caradog gyrraedd diogelwch, dechreuodd yr hollt gau gan foddi sŵn ubain y corachod.

Dechreuodd y corachod daro'u traed yn erbyn y ddaear wrth weld eu gwobr yn diflannu o flaen eu llygaid ond gan alw ar y lleill ac ysbarduno'i ferlyn, arweiniodd Caradog y ffordd heibio iddyn nhw.

Corachod ydyn nhw, a rheini'n rhai blin iawn.

'Rydyn ni'n rhydd,' gwaeddodd Morlais wrth glywed lleisiau'r corachod yn gwanhau y tu ôl iddyn nhw.

Dynesodd y corachod o un i un a gorfodi'r milwyr i dynnu ar afwynau'r meirch, ond roedd gormod o elynion o'u cwmpas iddyn nhw feddwl am wneud dim.

Wrth iddo ddechrau dringo'r grisiau, gwyddai ei fod bron cyrraedd diogelwch, ond erbyn hyn roedd rhai o'r corachod wrth ei sodlau.

Clywodd sŵn carreg yn atseinio yn erbyn carreg a syllodd ar y corachod.

Roedd y corachod wedi llwyddo i ddod allan o'r ogof ac wedi bod yn gorffwys yn lluoedd ar fin y coed, yn aros, fel y lleill, i'r wawr dorri.