Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cosb

cosb

Rhag ofn, wrth gwrs, fod pwyntiau cosb eisoes wedi eu marcio ar y drwydded, a bod y gyrrwr, o'r herwydd, ar dir i'w cholli.

O ie, y gosb am ein twyllo, fe ddylen ni sôn am hynny' 'Cosb am dwyllo?' 'Ie, os byddi di'n cymryd arnat dy fod wedi cyflawni tasg, ond heb neud hynny, mi fydd yna gosb.' 'A be fydd honno?' 'Sypreis, was.

Doedd dim modd i Gymru ddarganfod y rhythmau ar tempo cyflym on nhw am eu cael oherwydd y dyfarnu; 22 - 8 o blaid y tîm cartre oedd cyfanswm y cicie cosb ac fe ddaeth hanner rhai Cymru yn y chwarter olaf.

Ychwanega'r wybodaeth hon at chwerwder eu cosb.

Yr oedd cael bod mewn hanner-tywyllwch a byw ar fara-a-dþr am dridiau fel cosb am geisio edrych ar ferch yn ddigrif i Fyrddin Tomos.

Mae'n bosibl mai rhan o ffurf gynharach ar yr hanes yw'r orfodaeth i adrodd ei stori wrth bob un sy'n dod i'r llys ac yna cynnig ei ddwyn ar ei chefn, neu, fel y dangosodd y Dr Brynley Roberts, fe all fod yn ffurf o gosb gynnar, cosb a ddarostyngai'r troseddwr yn boenus ac y gwyddai'r awdur amdani.

Efallai ei fod wedi derbyn y dyrniad yna fel cosb garedig am suddo'r rafft.

Mi fyddent yn cael cosb drom petai'r Gwylwyr yn gwybod am y llyfrau.

Fydd yna ddim cosb i unrhyw un o chwaraewyr De Affrica yn dilyn honiadau gan Loegr o chwarae brwnt gan y tramorwyr.

Yn yr ymarfer heddiw byddwn yn edrych ar y ciciau cosb a roddwyd yn ein herbyn.

Ysbrydolwyd y cerddor o'r Ariannin, Ariel Ramirez, i'w gyfansoddi ar ôl cael ei ysgwyd gan yr hanes am ddewrder lleianod yn bwydo 800 o Iddewon newynnog yn yr Almaen adeg y rhyfel gan wybod mai eu crogi fyddai eu cosb o gael eu dal gan y Natsiaid.

Tybed a oedd yna mewn bywyd ryw ddeddf anhyblyg ar waith oedd yn pennu cosb ar gyfer pob drwgweithredwr?