Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cothi

cothi

O ystyried fod Lewis Glyn Cothi'n fardd nodedig o dduwiol, mae absenoldeb unrhyw sylw ynghylch tynged enaid ei fab yn drawiadol iawn.

MARGAM A NEDD: William Corntwn oedd y cyntaf o abadau Margam y cadwyd canu iddo, hyd y gwyddys - a bwrw mai dyma'r William Abad y canodd Dafydd Nant a Lewis Glyn Cothi iddo.

Ceid Cymry ymhlith lladmeryddion y syniadau radicalaidd - pobl fel Richard Price, Morgan John Rhys,Tomos Glyn Cothi, David Williams a David Davies, Treffynnon.

Ymysg yr artistiaid fydd yn ymuno ag o dros y tri diwrnod mae Michael Ball a Sian Cothi.

Ar ben hynny daeth llawer mwy o gopi%wyr proffesiynol ymlaen i gwrdd â'r galw, megis y beirdd Gutun Owain a Lewis Glyn Cothi.

Dolur a achosir gan fath arall o gariad sy'n gwneud i Lewis Glyn Cothi alw ar Ddwynwen cariad tad tuag at fab a fu farw'n ifanc (gweler erthygl Dr Dafydd Johnston yn y rhifyn hwn - Gol.):

Yn yr un orsedd darllenodd Tomos Glyn Cothi 'Cywydd ar Wybodaeth'.

Caiff croeso'r abad ei ganmol drachefn gan Lewis Glyn Cothi yn y cywydd marwnad a ganodd iddo: bu Margam yn ysbyty a Rhufain i Gymru oll odsano medd y bardd, 'A'n pab fu Wiliam Abad'.

Ymysg y beirdd a wahoddwyd i orsedd gyntaf y Fro roedd Edward Evan (lorwerth Gwynfardd Morganwg) o Aberdâr, Edward Williams (Gwilym Fardd Glas) o Ferthyr a'r Bont-faen, William Moses (Gwilym Glan Taf) o Ferthyr a Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi).

Ond mae'n rhaid cofio mai bardd proffesiynol oedd Lewis Glyn Cothi, yn ennill ei fywoliaeth trwy ganu cerddi am dâl.

Ni wyddom y nesaf peth i ddim am Lewis Glyn Cothi heblaw'r hyn y gellir ei gasglu o'i gerddi, ond awgryma'i enw mai fforest Glyn Cothi ym mhlwyf Llanybydder yng ngogledd sir Gaerfyrddin oedd ei ardal enedigol.