Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

craff

craff

Ceir cerddi sy'n disgrifio pellafoedd byd; fel Fietnam ac Efrog Newydd gyda Menna yn llwyddo i droi ei sylwadau craff ar y brodorion yn farddoniaeth apelgar.

Da iawn nhw, mae nhw ddigon craff i sylweddoli na fedr tai ddim siarad, ond mae mynd gam ymhellach a sylweddoli fod y bobl sydd yn byw mewn tai yn siarad â'i gilydd y tu hwnt i'r bobl yma.

Craff a gofalus yr arddangosodd y beirniad hwn, sut bynnag, mai yn y gyfres ryfedd hon o sonedau 'y ceir y mynegiad mwyaf trwyadl a brawychus yn Gymraeg o thema'r briodas rhwng serch ac angau.'

Yr oedd Jacob yn olygydd craff ei lygad a main ei glust, ac nid âi dim o bwys heibio heb iddo dynnu sylw ato, a rhoi ei farn arno, heb flewyn ar ei dafod.

Yr oedd yn ŵr diwylliedig, craff, ac yr oedd yn athronydd wrth natur.

Nid oedd yn anodd i'r darllenydd craff gyferbynnu'r estheteg a barodd dramgwydd i Gruffydd yn ei adolygiad a 'Gwrthryfel ac Adwaith' yn yr un rhifyn o'r llenor, lle y traethwyd y gred mewn 'Gwrthryfel cynhyddol yn erbyn awdurdod....twf personoliaeth a lleihad cyfundrefn':

'Doedd ei llygaid craff hi ddim wedi ei bradychu.

Ymdriniaeth ymarferol ydyw gan wr craff sy'n deall techneg amaethu tan amodau arbennig ei fro, ei hinsawdd, ei gwyntoedd cyson a natur ei phriddoedd, (ceir yma un o'r enghreifftiau cynharaf o fap priddoedd), ac y mae ganddo gynghorion wedi'u seilio ar arbrofion cemegwyr y Gymdeithas Frenhinol.

Barn derfynol y dadansoddwr craff hwn yw:

Enw'r tŷ oedd Tangerine House - y perchennog yn ddigon craff i wybod beth allai ddigwydd petai'n rhoi enw cywir lliw y tŷ - oren!

Bridio a Mudo Mae ceiliogod y pincod yn rhai craff iawn, neu mae'r iâr braidd yn gysetlyd gan mai hi sydd yn adeiladu'r nyth ac yn deor yr wyau.

Ni thalai i'r llygad fod yn rhy orfoleddus wrth ben llyfrau rhag ofn i'r Doctoriaid craff ddarganfod imi sicrhau rhywbeth na ddigwyddasai iddynt hwy eu gweld.

Dyw dwster a Sheryl ddim yn taro deuddeg rhywsut, ond os na fydd dwster i fyny'i llawes, credwch chi, fe fydd rhyw gynllun craff fydd yn diddanu'r gwylwyr a thrigolion Pobol y Cwm.

Nid oes rhaid edrych ymhellach na chatalog Sioe Frenhinol Cymru i weld tystiolaeth o ddawn ac ymdrech bridwyr craff.

Dyna'r dynged bosib sy'n destun pryder i rai Gwyddyl craff, ac yn eu profiad mae gwers i ninnau hefyd, a gwers y mae llawer ohonom am ei dysgu.