Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

crafu

crafu

Sŵn crafu bach rhyfedd oedd o.'

Am ddyddiau wedyn bu pawb, ac eithrio Ann, yn crafu tipyn - ac yn syllu'n wyliadwrus ar yddfau merched Ethiopia!

Cadernid ei gorff; breichia yn gneud imi deimlo'n ddiogel; 'i farf undydd yn crafu 'ngwynab i a'n 'sgwydda, a'r gwefusa 'na'n gwefreiddio 'nghlustia i a'n llygaid wrth i'w law gofleidio 'mhen-ôl i!

Yn yr un modd, yn Gaeaf yn Nrws y Coed, a'r eira yn blanced wen yn gorchuddio'r byd, gwelir ambell i ddafad yn crafu am welltyn glas ac yn llwyddo i gyfleu y ddelwedd gydnabyddedig o'r ddelfryd o'r gaeaf.

Mae pobol yn dweud nad oes gynnyn nhw ddim help pan maen nhw'n tisian, ond dwi ddim yn 'u credu nhw.' Roedd Modryb yn ailddrechrau mynd i hwyliau pregethu eto, ac wedi anghofio am y tro am y sŵn crafu o'r llofft chwarae.

Cefais hwyl garw yn gwrando arno'n traethu am ei ddyddiau yn Llanrwst - ond yr oedd rhai agweddau ar y sioe yn crafu, braidd.

Fel rheol arferaf blannu tatws yn yr ardd allan yn ystod yr wythnos gyntaf neu ail o Fawrth ond nid oedd cyflwr y pridd yn ddigon sych eleni i ganiata/ u gwneud hynny felly bu ymarfer ymenydd (gwell ymadrodd na 'crafu pen') i geisio dull o ddod dros ben hynny.

Y tro nesaf y byddwch chi'n crafu eich pen ac yn methu a dod o hyd i'r ateb, beth am fentro draw i'ch llyfrgell?

Lle digon diffaith oedd Nant y Gors a'r sôn oedd mai crafu bywoliaeth a wnâi Ham, ond ni welais i erioed neb hapusach.

Crafu fuodd hi i ennill o ddeuddeg pwynt i naw.

Nid oherwydd ei bod yn haws crafu'r pridd sydd eisoes wedi'i droi neu ei balu y dewisir lleoliad o'r fath ond oherwydd nad oes drywydd ar bridd felly ac na all gelyn sy'n dibynnu ar ei ffroen ddilyn trywydd o'r ganolfan i'r llecyn magu.

Mae o'n gwasgu'i wyneb i'r ffenest ac yn crafu'i ewinedd hyd y gwydr.

Tybed a fyddai 'Crafu'r Gwaelod' wedi cael ei lansio ym Mangor petai Sam yn dal wrth y llyw?

Nid cyfnod Tomi a Nedw sydd yma chwaith- nid blynyddoedd y tlodi sur a'r crafu byw i deuluoedd mawr .

Temtasiwn i ohebydd yn crafu am ei fara menyn fyddai defnyddio'r hen dric o lunio stori negyddol wedi ei seilio ar wadiad ffaith neu honiad dychmygol.

Unwaith inni weld sut un ydyw a'r math o anawsterau y mae'n eu hwynebu yn feunyddiol wrth geisio crafu bywoliaeth yna daw yn gyfaill inni, neu o leiaf yn rhywun sydd oherwydd ei ymdrech i gael dau ben llinyn ynghyd yn haeddu ein cydymdeimlad a'n cymorth.

Roeddem ar Iwybr y rhewlif fu'n crafu a rhwygo'i ffordd yn ara deg o Gwm Idwal i foddi ei hun yn y brif rewlif yn Nant Ffrancon.

Y tro hwn, yn fwy nag erioed ers i Henry gyrraedd Cymru, mae'r pwysau arno i brofi'r ffydd hwnnw - ac efallai na fydd crafu buddugoliaeth yn ddigon da y tro hwn.

Crafu am dipyn.

Cwynodd honno ar unwaith fod Guto a Rhodri wedi crafu blaenau eu hesgidiau newydd ond ni ddywedodd air o gymeradwyaeth am yr olwg sbriws oedd ar ddillad y tri, canlyniad ymdrechion Mali i'w cadw'n lân.

Rhedodd Belka i'r fan lle y diflannodd ei meistr a dechrau crafu'r eira oddi yno gyda'i phawenau.

Eithr heno, wrth syllu i fyw llygad y fenyw-ddweud- ffortiwn hon ni chanfyddai Wil ddim oll namyn hen ddynes dlawd a diymadferth yn ceisio crafu ychydig o sylltau at ei gilydd drwy adrodd chwedlau ystrydebol a threuliedig wrth hen ferched anymwthgar ac wrth wŷr gweddw go deimladwy.

Crafu dipyn mwy.

Braidd yn siomedig oedd gweld dwy sengl newydd y grwp ond yn crafu eu ffordd i'r deg uchaf yr wythnos diwethaf ond does yna ddim amheuaeth er hynny y bydd eu chweched albym, Know Your Enemy, yn mynd yn syth i rif un yn siart y recordiau hir.

Rwyt yn rhedeg nerth dy draed drwy'r goedwig â changhennau'r coed yn chwipio ac yn crafu dy wyneb.

Crafu byw'r oedd y bobl pan gyrhaeddon ni ac, er nad oedden nhw lawer mwy cyfforddus eu byd pan adawon ni, ni fyddai neb yn marw o newyn na syched.

'Hy, dwi'n ei gofio fo'n dwad yma i chwilota am waith ar ôl crafu drwy'i din i ennill gradd yn Aber.

Gan wneud s n crafu mawr agorodd y drws yn sydyn.

Yma mae gewin y rhew yn crafu'n genfigenllyd o dan gesail y barrug pan fyn yr eira