Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cras

cras

Yna gwenodd i'r tywyllwch wrth glywed chwerthiniad cras o gyfeiriad y ddau filwr.

Clywodd nhw'n dechrau gweiddi mewn lleisiau cras a dwfn a stampio'u traed ar lawr.

Byseddodd defnydd cras ei drowsus a cheisiodd ddychmygu mai jîns oedd ganddo am ei goesau.

Cyn iddo ymddangos fel epa mawr o ganol y coed roedd y ddau wedi adnabod llais cras Williams y Cipar.

Cofiaf noson o aeaf yn y gegin fawr, a'r llu wynebau chwilfrydig, wedi eu goleuo gan fflamau'r tân, yn gwrando ar lais cras Owen Owens.

Mae cordiau'r llais yn tynhau a'r unig sŵn y maen nhw'n medru ei gynhyrchu yw chwyrnu cras, tebyg i sŵ n blaidd.

"Mae'r cena yma yn rhywle," ebe llais cras.

Roedd llais cras, haerllug Owen Owens yn swyno pawb ohonom.

Ac a fydd yno rywun ar ôl i sôn wrthynt am yr 'hen ffyddlondeb' a ddangoswyd iddynt yn yr 'anial cras' ac a barodd iddynt anghofio'r cyfyngdera' 'wrth foliannu nerth ei ras'?

Yn sydyn, torrwyd ar y sgwrs gan lais cras yn galw o fuarth yr ysgol.

"Mi glywaid i fod yna wledd i bawb yn y plwyf yma heno," meddai'r cardotyn mewn llais cras.

daw llais cras: 'Love ...' Sut i ddifetha ffilm dda.

"Ac yn y fan yma mae anrheg Monsieur Leblanc i'r gelyn." Trawodd Henri ei fys ar y map mor wyllt fel y bu bron iddo dorri twll yn y papur cras.

Pysgodyn cras yw'r penhwyaden wrth gwrs, ac fel ob pysgodyn arall o'r grwp, y mae'n epilio ddiwedd gwanwyn.

Ni rydd hyn gyfle i'r glaswellt orwedd mewn un cyfeiriad arbennig ac felly lleiheir y posibilrwydd i'r gweiriach cras ddatblygu.