Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

creawdwr

creawdwr

iii) i ddatblygu credo a ategai mai Duw yw creawdwr y byd, a dilysrwydd ymgnawdoliad Crist.

Y mae caniata/ u i fwg ein ffatrioedd wenwyno'r awyr a dad- ddeilio'r coed ac i'w helifiant lygru'r afonydd yn drosedd yn erbyn y Creawdwr.

'Rwy'n sicr na wnaeth y Creawdwr ystyried digon am wendidau ei ddynolryw ynglŷn â meddiant a thrachwant a phwer.

Ond nid rheolwr ei weithredoedd a chrewr ei ffawd ei hun oedd dyn yn awr, eithr creadur nwyd, creawdwr cyffro.

Os dywedwch, "Yr wyf yn credu yn Nuw'r Creawdwr", yr ydych yn datgan eich ffydd.

A rhoi'r peth yn nhafodiaith ein hoes ni, y mae gofal am yr amgylchfyd yn gyfrifoldeb sylfaenol a osodwyd arnom gan y Creawdwr.

Iesu ydyw fy Nghreawdwr -Creawdwr uffern, dae'r a ne' Y cwbl hefyd oll a wnaethpwyd Er gogoniant iddo Fe; Ynddo'r cyfan sydd yn sefyll, Ei fysedd yn eu cynal sy; Fy enaid, dyma'r Un a hoeliwyd Draw ar fynydd Calfari.

Plygwn ger dy fron, y Creawdwr hollalluog, gan ryfeddu at dy nerth a'th ddoethineb.

Ryw noson, a Rondol ar waelod y grisiau cefn heb yr un ddima i godi'r glicied, fe gredai yn y cyflwr hwnnw mai yn ei wylltineb y creodd y Creawdwr gors Bodwrog, ond ei fod wedi dod ato'i hun pan greodd feysydd haidd yr ardal, a esgorodd ar y wyrth o fedru gwneud cwrw; ac fe gydsyniodd a fo'i hun nad oedd yn iawn fod yr hyn a elwir yn ddim yn medru sefyll rhyngddo fo a'i beint.

Ac efallai, megis yr anogai yr Arglwydd Iesu dlodion dydd ei ymgnawdoliad i ystyried y lili ac ehediaid y nefoedd rhag gorofalu am ddillad a phorthiant, nad amhriodol yw i'r digartref feddwl am y crwbanod a'r malwod a chreaduriaid eraill y darparodd y Creawdwr a'r Cynhaliwr mor ddigonol ar gyfer eu problem tai.

Pa bryd bynnag y cynhelir hi, y mae'r wyl yn gyfle inni gydnabod Duw fel Creawdwr a Chynhaliwr.

Fy enaid, gwêl i ben Calfaria Draw, rhyfeddod mwya' erioed, Creawdwr nefoedd wen yn marw A'r ddraig yn trengi tan ei droed...

Ond y mae Cristionogion am ychwanegu fod tarddiad yr arweddau amrywiol yn lleferydd y Creawdwr.