Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

crechwenu

crechwenu

Wrth gyflwyno'r gwaith gyda cherddoriaeth ledrithiol a'r masgiau, wrth olygu o Ifans i'r doliau'n syllu neu'n crechwenu arno, roedd hi'n bosibl ymateb yn llawn i'r ffaith mai llun i'w ddehongli oedd yma ac nid trafodaeth ymenyddol.

Mae ei wŷr yn crechwenu ac yn ei oganu ymhlith ei gilydd, ond maent yn grwgnach hefyd wrth wedd clod y llys ac enillion y twrnameintiau'n diflannu.

Heledd yn crechwenu'n ddwl yng ngafael y ddiod, Heledd yn wylo'n ddilywodraeth a hyll, yn nadu fel anifail mewn poen, a neb yn gallu torri drwy gylch ei hing i'w chysuro.

Yn ddisymwth daeth wyneb Betsan yn fyw unwaith eto o flaen ei lygaid, y rhychau melyn yn diferu â dþr Wnion, yr amrantau trwm yn cau allan y casineb a'r gwarth a'r crechwenu dieflig o'r chwmpas.