Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

credai

credai

Am eiliad, credai fod y cŵn wedi ymosod ar ei dad.

Tra credai'r clasurydd Eliot na ellid llenyddiaeth fawr heb awdurdod allanol traddodiad yn sail iddi, mynnai Murry mai cydwybod yr unigolyn oedd yr unig faen prawf dibynadwy mewn llenyddiaeth ac ym mhob cylch arall o fywyd: Nid oedd gan Eliot ddim i'w ddweud wrth awdurdod mor wamal a chyfnewidiol.

credai'r gweithgor fod yma ddeunyddiau rhagorol i'w defnyddio mewn ysgolion yn y dyfodol fel adnodd yn enghreifftio a safoni'r cwricwlwm cenedlaethol.

Roedd Jabas wrthi'n brysur yn tynnu lluniau, a chyda'r lens sbienddrychol diweddara a gafodd gan Ab Iorwerth credai ei fod yn cael lluniau gwych o hen simne'r gwaith yn syth uwchben yr ogof ar y clogwyn.

credai'r gweithgor fod y llyfryn enghreifftiol o waith disgyblion o'r ysgolion fu'n cyn- dreialu'r gweithgareddau yn werthfawr fel canllaw pellach ar gyfer asesu ac ar gyfer safoni.

Credai cynifer o Gymry'r cymoedd diwydiannol hyn fod y Gymraeg yn isradd, yn hen ffasiwn, yn annigonol ac yn amherthnasol i anghenion y byd sydd ohoni.

Credai'n ffyddiog y byddai'r Tywysog Albert yn ymroi i ddysgu 'iaith Gomer', fel y gweddai i'r sawl a hanai o dras Llywelyn Fawr.

Credai'r gwirfoddolwyr mai dod ag addysg o dan ddylanwad yr Eglwys Wladol oedd nod y Llywodraeth, tra dadleuai'r garfan honno a oedd yn barod i dderbyn grantiau, fod y Cymry'n rhy dlawd i gynnal eu hysgolion a'u colegau eu hunain, ac y dylid manteisio ar y cymorth.

Credai ef mai gweithred o eiddo rhagluniaeth oedd y Diwygiad Protestannaidd ­ edrychai ar Eglwys Loegr fel adran o'r wir eglwys, a bu'n locs iddo ddarganfod fod Newman mor feirniadol o'r Diwygiad â Hurrell Froude.

Gan y credai Dr, Tom mai eiddo'r coleg oeddynt rhoesai label y coleg arnynt.

Credai Dr Tom yn bendant iawn ei fod wedi prynu'r casgliadau hyn a sicrhau'r coleg ym Mangor, ond y ffaith amdani yw na newidiodd Ward Williams mo'r siec amdanynt.

Yn ychwanegol at hynny credai amryw nad oedd angen addysg academi na choleg ar bregethwyr a wasanaethai'r ardaloedd gwledig.

Credai'r hen bobl ei fod yn gwarchod aelwydydd rhag drygioni.

Yn anad dim, credai'r gwrthwynebwyr mai amcanion strategol pellgyrhaeddgar a'r angen am gynllun economaidd i ddiogelu marchnadoedd cyfoethog Gorllewin Ewrop ar draul gwledydd tlotaf y byd oedd yn ysbrydoli gwladweinwyr y Gymuned.

Credai ef fod crefft y stori fer wedi mynd yn 'ail natur' iddi ac nad oedd ganddi'r un afael ar grefft y nofel.

Dywedodd wrthyf y credai y câi ei hiacha/ u pe bawn i yn ei bendithio.

Credai'r Gweithgor y gallai'r Athrawon Bro gynnig arweiniad i'r athrawon ail iaith yn y dosbarth.

Credai rhai pobl y gellid gwella plant oedd yn dioddef o dorgest (rupture) a'r llechau (rickets), drwy ddefnyddio coeden onnen ifanc.

Credai'r prifathro i'r fellten ddigyn i'r ddaear yn ymyl yr ysgol ac i dipyn o'i grym fynd i waith metel y rheiddiaduron gan beri iddo neidio ar ei draed yn bur sydyn mewn sioc.

Credai ei bod yn dal i feddwl am y dynion a'i dilynodd.

Ymddengys y medrai'r halen wella dyn hefyd, oherwydd credai fy nhad yn gryf iawn yn yr halen Epsom, ac fe gymerai Iwyaid ohono cyn gynted ag y teimlai'r oerfel yn disgyn arno.

Credai L Chr Stern fod beirdd Cymru yn y ddeuddegfed ganrfi a'r drydedd ar ddeg yn gwybod am y farddoniaeth a oedd yn ei bri yn Ffrainc, a'u bod wedi dod dan ei dylanwad; a pharthed Dafydd ap Gwilym, efallai nad oedd yn uniongyrchol ddyledus iddynt, ond am ei ddyled anuniongyrchol nid oedd dim amheuaeth.

Credai nifer o athrawon nad oedd fawr werth i atgynhyrchu arholiadau a oedd eisoes yn bod, yn enwedig pan ymddangosai'r rheiny'n llai a llai perthnasol i anghenion yr ysgol uwchradd newydd.

Credai Jason fod Graham wedi torri pob cysylltiad gydag ef ac Emma ar ôl iddo adael Diane.

Credai 82% fod arwyddion dwyieithog yn syniad da.

Credai'r Meddygon fod gan y dderwen rinweddau arbennig.

Dyma 'Eisteddfod y Sgandal'. Credai W. J. Gruffydd mai Bobi Jones oedd Efnisien yn y gystadleuaeth, ac ni fynnai roi'r Goron iddo.

Credai Kate Roberts iddi roi gormod o bwyslais ar y diweddglo yn ei stori%au cynnar ac mae'n cyfaddef iddi roi'r 'gorau i dreio bod yn glyfar' a chwilio am ddiwedd trawiadol yn null O'Henry a'i debyg ar ôl darllen ysgrif Saunders Lewis yn Y Faner.

Credai Aristotle mai o fwd y crewyd hwy.

Dychymyg a rhamant eraill roddodd fod i'r gred mai o wlith trwm bore o Fai yr epilient, ac eto credai eraill mai o flewyn hir cynffon ceffyl y deuent i'r byd.

Credai pawb fod y ffermdy wedi mynd â'i ben iddo.

Credai fod Gadaffi yn wahanol i bawb arall, a bod rhywbeth mawr o'i le arno.

Credai Saunders Lewis fod 'ymwybod o bechod' yn angenrheidiol i lenyddiaeth.

Credai na fyddai neb yn eu gweld nac yn talu unrhyw sylw iddynt.

Serch cyfrifoldebau'r urddau sanctaidd a osodwyd arno credai fod bywyd, o flaen pob ystyriaeth arall, yn brofiad i'w fwynhau.

Credai'n ddiau nad lle nofelydd oedd cynhyrfu'r dyfroedd politicaidd, ac mai nofel sal fyddai honno a ddarluniai bethau yn ol rhyw ideoleg wleidyddol ddu-a-gwyn.

Credai y dylid gorseddu gobaith mewn emynau, er mwyn eu gwneud yn llais gwirioneddol i brofiad eu hoes: Y mae yr Eglwys Gymreig heddyw yn byw yn helaeth ar emynyddiaeth y gorphenol.

Credai llawer yng nghyfnod fy machgendod i mai cyfeirio at y wyrth hon a wnâi'r rhigwm:

Hoffai weiddi o bennau'r tai, meddai, 'mai anaml y cyferfydd y ddwy ddawn yn yr un person.' Mewn nofel, fel gyda'r stori fer, credai Kate Roberts mai rhywbeth a ofalai amdano'i hun oedd techneg, cyn belled â bod gan yr awdur rywbeth i'w ddweud, er iddi fynnu nad oedd hynny'n caniata/ u blerwch arddull.

Credai hefyd - fel y dywedodd wrthyf droeon - ei fod wedi darganfod y gymdeithas ddelfrydol ymysg ffermwyr Sir Benfro - lle'r oedd cyd-weithio a chyd-lawenhau, heb sôn am gyd-ddioddef, wedi ei gwneud yn gymdeithas glos, lawen a chydweithredol.

Yr oedd yn ŵr manwl, fel y dywedais, ac ni allai oddef harum scarum o broffeswr; ond gan nad beth a fyddai colledion a diffygion dyn, os credai Abel ei fod yn onest, cydymdeimlai'n ddwfn ag ef.

Weithiau credai ei fod yn clywed sŵn metel yn taro yn erbyn metel.

Dechreuai siarad ag ef am Iesu Grist gyda'r geiriau, "Wel, hen ddyn..." Yna âi rhagddo i gyhoeddi'r efengyl Credai'n bendant y dylid cadw'r Sul yn sanctaidd.

Credai fod yn rhaid cael chwyldro, nid yn unig ym mhob un o'r gwledydd Arabaidd, ond ledled y byd - am fod y gwledydd Arabaidd wedi cael eu difetha gan imperialwyr.

Credai mai morwyn oedd, ond ni chymerodd y ddau ddyn unrhyw sylw ohoni.

Credai'r ffermwr y talai'r ffordd i roi pâr o bedolau dan y ceffyl gan y byddai'r pedolau yn ei helpu i gerdded yn ysgafnach a sicrach ar ffyrdd celyd.

Iddo ef neges seml oedd yr Efengyl a gallai fod yn bur bigog ynglyn â diwinyddion a oedd yn sefyll yng ngoleuni gwrandawyr trwy hollti blew'n fympwyol."Take heed", meddai, "of sophisticating the Gospel." Fel y Ficer Prichard, credai Wroth fod gwerth mewn llunio penillion ar batrwm y cwndidau i wneud hanfodion y Ffydd yn gofiadwy i'w bobl.

Credai W J Gruffydd, fel y dengys y cyfeiriad at y ffynonellau Ffrangeg yn y dyfyniad uchod, for yr Anglo-Normaniaid yng Nghymru, yn arbennig yn Neau Cymru, wedi noddi beirdd o Gymry a beirdd o Norman- Ffrancwyr, fod y ddau ddosbarth o feirdd wedi dylanwadu ar ei gilydd, ac mai'r prif ddylanwad a ddaeth ar y Cymry ydoedd dylanwad y mudiad barddonol a reiddiodd allan o Ddeau Ffrainc, hynny yw, dylanwad y mudiad trwbadwraidd.

Er enghraifft, credai fod cyfiawnhad tros gynnal pregethu gyda chymorth arian cyhoeddus a phan ddaeth Deddf y Taenu i rym ymunodd pobl Llanfaches gyda brwdfrydedd yn y gweithgarwch.

Fel Mazzini, credai mai nod angen gwareiddiad yw gosod dyletswydd o flaen hawl.

Gwyddai ei fod e yn ei chael hi'n ddeniadol a gobeithiai, ymhen amser, y tyfai'n hoff ohoni, ond credai na fyddai byth yn ei charu gan y cant : ddim ymhen deng niwrnod na deng mis na deng mlynedd.

Credai Dafydd fod fy nhad yn torri'r cerrig yr oedd yn eu darparu i mi eu trin yn rhy fawr.

Yr un pryd credai'n bendant nad ymatebai Llywodraeth Prydain i hawl gyfiawn y Cymry i'w rheoli eu hunain heb iddi gael ei gorfodi gan amrywiol amgylchiadau i wneud hynny, yn y pendraw.

Credai pawb yn yr ardal fod gwell blas ar frithyll Afon Ddu na physgod unrhyw afon arall.

Credai'r Gymdeithas fod yr hen ganllawiau yn rhy amwys a'u bod yn ddi-werth oherwydd y diffyg arweiniad a gynigiwyd i'r awdurdodau cynllunio.

Credai Hussain fod y bêl wedi taro'r bat cyn taro'i goes.

Credai ef y byddai'r gyfrol yn debygol o barhau'r ddadl a ddeilliodd o'r sylwadau ynglŷn â chyffelybiaethau'r awdures.