Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

credoau

credoau

Efallai nad ydym yn sylweddoli mai llên gwerin yw yr hyn y byddaf yn ei drafod, ond cawn weld fod yr un hanfodau yn perthyn i'r credoau a'r straeon cyfoes hyn, ac a berthyn i lên gwerin traddodiadol.

Ond mae Nowa Juta yn gartref hefyd i ddwy eglwys Gatholig enfawr sydd yn symbolau o gryfder credoau'r Pwyliaid.

Gyda'r Dadeni yr oedd yr unigolyn wedi ymysgwyd o'i ofn a'i ofergoelion ynghylch credoau absoliwt.

Ymlaen â ni felly i drafod y Llên Gwerin Cyfoes yma, a hynny drwy edrych ar rai o'r straeon a'r credoau sydd yn cael eu hadrodd a'u sgrifennu heddiw, yn aml iawn o dan fantell straeon newyddion - (a pheidied neb â dweud fod golygyddion a gohebwyr yn ymarfer y ddawn o greu llên gwerin i werthu eu cyhoeddiadau).

Mae'n wir fod rhai o'r credoau y daethom ar eu traws yn ymddangos yn ddigon diniwed, megis y gred gyffredin fod maes magnetig y ddaear yn peryglu iechyd pobl ar ddiwrnodau penodol ym mhob mis, a'i bod hi'n well peidio a gweithio'n rhy galed bryd hynny.

Ond a'n gwaredo ni, ym myd theatr plant, rhag gwthio ein diwylliant, rhag dyrchafu ein credoau a'n hargyhoeddiadau fel y rhai gorau a'r rhai mwyaf gwaraidd, ar draul rhai eraill.

Edrychwch ymhellach ar y themâu sydd yn esbonio peth ar apêl y stori hon - elfennau o'r stori ydynt sydd yn cadarnhau rhai credoau cyffredin yn ein cymdeithas, ac felly yn taro tant â'r gwrandawr a'r storiwr (i) Y gūr yn dial ar y wraig anffyddlon - drwy ryw hawl foesol.

Mae'n debyg y bydd y darllenydd lleyg - o safbwynt seiciatreg - yn cael rhannau o'r gwaith yn ddyrys ac weithiau'n anghredadwy; yn enwedig felly, hwyrach, pan fo seiciatryddion yn ymarfer eu credoau ynglŷn â gwadu ac amwysedd sy'n golygu y gellir maentumio mai'r gwrthgyferbyniol a amlygir neu a arddangosir gan yr hyn sydd fel pe bai'n gwrth- ddweud eu damcaniaethau.

Rydym wedi etifeddu credoau'r tadau yn gwbwl ddiarwybod i ni - a'r un mor ddiarwybod yn eu trosglwyddo i'n plant.