Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

crefft

crefft

Nid bod cyfraniad cerddorol yr Eglwys yn ddisylw gan fod organ a chôr eglwys gadeiriol neu abaty yn sicr o fod yn hyfrydwch i glust pwy bynnag a'u clywai Ond yr oedd crefft y telynor a'r crythor proffesiynol yn dai yn hynod fyw a derbyniol, a pharch mawr yn cael ei ddangos tuag at feistri'r re/ pertoire traddodiadol helaeth a chywrain, sydd bellach wedi llithro bron yn llwyr o'n gafael.

Mae'n arwyddocaol mai'r sgwrs hon oedd yr un gyntaf yn y gyfres 'Crefft y Stori Fer' .

Crefft sy'n allweddol i ymchwil o'r fath yw honno o dyfu crisialau.

Maent yn feistri ar eu crefft, ac yn ysgrifennu'r Gymraeg yn raenus a chyhyrog.

100,000 o lowyr Cymru yn mynd ar streic am 20 diwrnod i gadw'r gwahaniaeth cyflog rhwng gweithwyr crefft a'r di-grefft.

Pan yw'n gwneud gosodiadau cyffredinol am lenyddiaeth, ei duedd yw pwysleisio elfennau fel crefft a deall, ond wrth drafod llenorion unigol, y maent yn aml yn ei gario ar donnau angerdd nes ei fod yn traethu ar ddwyster eu gweledigaeth o fywyd.

Rwyf fi'n llenydda am fy mod i'n caru crefft llenydda, yn caru geiriau a rhythm geiriau; felly rwy'n tristau'n arw wrth feddwl y gellir fy ngalw - a hynny'n gyfiawn - yn ddieithryn yn fy ngwlad fy hun.

Os na fedrwn ni heddiw hawlio'r un adnabyddiaeth gyfeillgar o gymeriadau'r Hen Destament, mae maniffesto taith Y Gohebydd yn crynhoi llawer o hanfodion crefft y gohebydd tramor.

Credai ef fod crefft y stori fer wedi mynd yn 'ail natur' iddi ac nad oedd ganddi'r un afael ar grefft y nofel.

Weithiau, yn wir, roedd crefft barddoniaeth fel petai'n bod er ei mwyn ei hun.

'Dwi'n mynd i'r chwarel i ddysgu crefft fy nhad - gwneud setia'!'

Gwelir ynddo, bid sicr, rai pethau sy'n gyffredin i modernismo Sbaen yn yr un blynyddoedd: ymdeimlad newydd a harddwch geiriau, hoffter at grefft gan gynnwys crefft y gynghanedd, yr un synwyrusrwydd hefyd.

Ac yr oedd crefft y cyfieithwyr rhyddiaith, yn enwedig ym maes testunau crefyddol, yn dal mor fywiol a chynhyrchiol ag erioed pan aned Dafydd ap Gwilym.

Mae cyfraniad Harvinder Sangha - a gyfrannodd hefyd i Hen Wlad Fy Mamau rai blynyddoedd yn ôl - yn un pwysig i lif y gân gyda'r bît ethnig yn amlwg ac yn sicr yn un o uchelbwyntiau'r albwm sy'n dangos yn eglur faint o feistri ar eu crefft ydy Llwybr Llaethog, yn gosod y llais mewn mannau allweddol yn y cyfoeth o gerddoriaeth.

Yn nhai bwyta'r gwestai, saif goruchwylwyr o Sbaen i sicrhau bod y bobl leol yn dysgu eu crefft yn iawn.

Dydy hi ddim yn rhwydd - falle bod hi'n rhwydd iddo fo, ond dwi'n siwr mai crefft yn cuddio crefft ydy hi yn ei hanes o.

Ond does gan y nofelwyr mo'u gild crefft yn mynd yn ol i'r Oesoedd Canol, na'r un Ymennydd Mawr i fod yn apolegydd drostynt.

Yr unig gwyn sydd gennyf yw fod y darluniau at ei gilydd yn siomedig ac yn ymddangos braidd yn gyntefig o ystyried fel y mae crefft ffotograffio wedi ei pherffeithio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Awdl delynegol ei naws, a rhai cwpledi ac englynion syfrdanol ynddi o ran crefft a chynnwys.

Wrth drin y deunydd hwn yr oedd yn medru ymarfer crefft y nofelydd yn feistrolgar, ond hyd yn oed yn y fan hon fe weithiai o dan un anfantais fawr.

Yn y cyfamser bu'n frenin llwyfan yr Eisteddfod, a chafodd gyfle o flwyddyn i flwyddyn i gadw'n gyson o flaen llygaid y beirdd bwysigrwydd pethau cyntaf eu crefft - urddas arddull, glendid ymadrodd, a phurdeb iaith.

Mae arnaf i eisio iti gael crefft.' 'Mi faswn i'n leicio bod yn saer ym Mhenmaenmawr' Roedd yna siop saer fawr pryd hynny yn perthyn i Hugh Williams, ac fe aeth Mam ato i holi a oedd ganddo le i brentis.

Roedd Thomas a Gomer wedi clymu'r waliau yn ei gilydd yn grefftus ond roedd hyd yn oed eu crefft hwy'n annigonol i rwystro ambell grac rhag amlygu'i hun.

Yr oedd trydedd haen, sef y croesaniaid neu'r beirdd ysbyddaid, ond ni chadwyd dim o'u gwaith hwy: y mae'n bur sicr mai dychangerddi bras eu cynnwys ac amrwd eu crefft oedd y rhan fwyaf ohono.

Ar y llaw arall cytunir mai gwerin amaethyddol fu'n trigiannu yma ers cantoedd, a honno yn ymdroi yn niwydiant hynaf dynolryw, ac yn gofyn am gynhorthwy crefft a dawn.

Y tebyg yw felly mai "golosg", "charcoal" yw ystyr glo yn yr enw Cwm-y- glo a bod yr enw yn cyfeirio at grefft golosgi - crefft a oedd yn bwysig ac yn weddol gyffredin yng Nghymru gynt.

Mae rhaglen wedi ei threfnu am y tymor yn cynnwys cwrs cymorth cyntaf, crefft, trin gwallt, cwis a helfa drysor i enwi ond ychydig.