Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

creithiau

creithiau

'Roedd tirlun Cymru yn ogystal ag economi a diwylliant y wlad yn newid, a gwlad y creithiau, nid gwlad y gweithiau, oedd hi bellach.

Mae'n anodd amgyffred faint ddioddefodd pobl Kampuchea yn ystod cyfnod Pol Pot, ond roedd hi'n amlwg fod y creithiau'n dal heb eu gwella.

Creithiau ar wyneb y tir oedd y chwareli bellach a di-waith oedd nifer fawr o'r chwarelwyr.

Ni fu farw neb yn Hu%nxe, ond cael a chael oedd hi fod dau blentyn o Libanus wedi byw, ar ôl iddynt gael eu llosgi'n ddifrifol, ac fe fydd y creithiau ganddynt am byth.

Erys colofnau creithiau'r caledwaith yn y cloddiau, y cwteri a'r chwareli, gyda chaib a rhaw, bwyell a phladur, cyllell a llwy, heb sôn am fwa saeth y rhai o'u blaen hwy; ac eto fe fynnwyd rhoi amser i'r Achos a'r achosion.

Roedd ei wallt hir a'i farf drwchus yn hanner cuddio'i wyneb a'r creithiau arno'n dangos iddo fod mewn ymladd ffyrnig.