Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

creodd

creodd

Un sylw ar gyfer yr academyddion cyn symud ymlaen - y mae pwysigrwydd neilltuol i lên gwerin cyfoes am ei fod yn cael ei astudio yng nghyd-destun y gymdeithas a'i creodd, ac felly yn ei gwneud hi'n haws i ddarganfod amcan neu bwrpas y stori neu'r gred - a thrwy hynny ddeall rhyw gymaint am ein cymdeithas a ni'n hunain ac am rôl llên gwerin drwy'r oesoedd.

Yr ydwyt yn ein deffro ni i ymhyfrydu yn dy foliant, oblegid Ti a'n creodd ni i Ti dy Hun, ac anniddig yw ein calon nes gorffwyso ynot Ti.

Tydi a'n creodd ni; arnat Ti yr ydym yn dibynnu bob eiliad o'n hoes.

Creodd y capeli hyn gymdeithas a oedd, er ei mynych wendidau amlwg, yn urddasol a diwylliedig.

Yn ddi-os, creodd Asquith argraff wael ar yr undebwyr, fel pe b;,i rl eu bvgwth.

Creodd Gwydion geffylau, cŵn a chyfrwyau drwy hud a lledrith er mwyn twyllo Pryderi a dwyn ei foch.

Oblegid creodd gatrodau o feirchfilwyr arfog, a wibiai'n gyflym ar draws gwlad gan beri dinistr i filwyr traed araf y Saeson.

Hwyrach mai dyna sy'n esbonio pam y mae'r dilyniant yn aeddfetach nofel na'r un gychwynnol; rhyw ffureta o gwmpas a wnâi Harri'r myfyriwr yn ymhe/ l â maes nad oedd yntau'n fwy na'r nofelydd a'i creodd yn gwbl o ddifri ynglŷn ag ef.

Ym mis Awst, creodd y math o ddelwedd gosod ffiniau/ trwyddedau teithio/ gwrth-Seisnig o'r blaid a fu'n bastwn hwylus yn nwylo beirniaid di-ddeall byth ers hynny.

Dyna'r gwir heddiw am y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru; a Chymru Gymraeg a'i creodd hi, ei chynnal hi, dotio ar ei graddau anrhydeddus hi, a bodloni mai gradd diraddiad y Gymraeg yw diploma ei hanrhydedd hi.

Ar unwaith creodd y Blaid Bwyllgor Amddiffyn yn Y Bala gyda Mrs Morovietz, a aned yng Nghapel Celyn yn ferch i Watcyn o Feirion, yn ysgrifennydd hynod o effeithiol a gweithgar, a Dafydd Roberts o Gaefadog yn Nghwm Tryweryn yn gadeirydd.

Ryw noson, a Rondol ar waelod y grisiau cefn heb yr un ddima i godi'r glicied, fe gredai yn y cyflwr hwnnw mai yn ei wylltineb y creodd y Creawdwr gors Bodwrog, ond ei fod wedi dod ato'i hun pan greodd feysydd haidd yr ardal, a esgorodd ar y wyrth o fedru gwneud cwrw; ac fe gydsyniodd a fo'i hun nad oedd yn iawn fod yr hyn a elwir yn ddim yn medru sefyll rhyngddo fo a'i beint.

Creodd y bryddest hon gryn drafodaeth oherwydd ei bod yn cyfleu safbwynt gwahanol i'r safbwynt a goleddai gwrthwynebwyr y mewnfudo i gefn gwlad Cymru a welwyd ers yr Ail Ryfel Byd.

Creodd Duw Adda o'r ddaear forwynol, yn un a allai ddwyn delw Duw, ac yn llawn potensial ar gyfer dynoliaeth.

Y thema yw'r modd y creodd yr Ysbryd Dwyfol fywyd a bydysawd, hynny yw, Duw fel arloeswr, a'r Ysbryd wedyn yn creu Crist.

Creodd yr olygfa syndod a dychryn i'r rhai oedd yn bresenol.

Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Cyffuriau ym mis Tachwedd, creodd yr adran Addysg y gyfres Know Your Poison, sydd wedi derbyn canmoliaeth o sawl ffynhonnell ers hynny am ei thriniaeth realistig o gyffuriau, cyfreithlon ac anghyfreithlon.

Creodd pobl ifainc o Gaerdydd a Phenrhys gerddoriaeth newydd ar gyfer ffilm gan Terry Chinn i nodi agor Canolfan y Celfyddydau Gweledol yng Nghaerdydd.