Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

crewyd

crewyd

Crewyd hanes diwylliannol wrth i BBC Cymru lansio'r darllediad Cymraeg cyntaf erioed o'r Teletubbies. Yn ôl pob sôn, mae plant ifanc wrth eu bodd gyda'u ffrindiau hollddysgedig newydd.

Teletubbies Felly, maen swyddogol: mae Tinci Winci, Dipsi, La La a Po yn Gymry! Crewyd hanes diwylliannol wrth i BBC Cymru lansior darllediad Cymraeg cyntaf erioed o'r Teletubbies.

Crëwyd perthynas newydd gyda'r bobl syn mynychu cyngherddau yn sgîl y gyfres hon o wyth cyngerdd, gan roi gwerth eithriadol am arian yn ogystal â digwyddiadau cyn neu ar ôl cyngherddau am ddim.

Yn stori garu hudol a doniol Donizetti, L'Elisir D'Amore (cynhyrchiad gan RM Associates i BBC Cymru) crewyd cyffro o wahanol fath gan y par gyda'u dehongliad iasol o'r darn hyfryd hwn a ddangoswyd ar BBC Two.

Wedi'r cwbl, os ydi'r Beibl yn dweud bod 'Oen Duw' yn gallu gwneud 'hyd yn oed i'r gwynt a'r môr ufuddhau iddo', pwy ydan ni i feddwl mai dim ond ar gyfer dynol ryw y crewyd neges y Nadolig.perygl yn sbaen bob eynon tud.

Os derbynnir y modd y crewyd ac y cychwynnwyd bywyd yma ar y Ddaear yn ol tystiolaeth ddiweddaraf seryddwyr a biolegwyr, yna rhaid inni hefyd dderbyn y gosodiad hwn: sef, os yw'r un amodau yn bod yn rhywle arall yn y gofod yna mae posibilrwydd fod bywyd yno yn ogystal.

Crewyd databas ar gyfer bwydo'r atebion i'r cyfrifiadur, ac wedi dadansoddi'r ffigyrau yn y databas, defnyddiwyd meddalwedd taenlenni (spreadsheet) Works i greu'r graffiau a'r siartiau.

O ganlyniad i'r newidiadau mawr a ddilynodd gau'r Gors yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, crewyd rhwydwaith gymhleth o sianelau geometrig.

Crëwyd perthynas newydd gyda'r bobl sy'n mynychu cyngherddau yn sgîl y gyfres hon o wyth cyngerdd, gan roi gwerth eithriadol am arian yn ogystal â digwyddiadau cyn neu ar ôl cyngherddau am ddim.

Crëwyd y cronfeydd i gynnig cymorth i ardaloedd sydd wedi dioddef o ganlyniad i ddirywiad diwydiant traddodiadol yr ardal ac sydd angen hwb ariannol o ganlyniad.

Gwelwch dystiolaeth o nerth y lefiathan wrth gerdded i fyny at geg y cwm, yn bonciau o gerrig, powlenni mawnoglyd rhyngddynt a marian terfynnol o gerrig dwad, graean a phridd o'r tu cefn i'r hwn y crewyd y llyn bas.

Yn wir, crewyd rhyw fath o rwystr seicolegol ym meddyliau'r di-Gymraeg a'u llesteiriai rhag ceisio gwneud unrhyw ymdrech i ddysgu dim o'r iaith.

Ar ddiwedd y Rhyfel crewyd nifer o sefydliadau cydwladol, er enghraifft, y Gronfa Ariannol Gydwladol a'r Banc Bydeang, gyda'r bwriad o osgoi'r ansicrwydd a'r amryfal chwyldroadau ym myd cyfnewid tramor.

Yma hefyd y crewyd sain unigryw Corau'r Rhos, y lle yn ysgwyd dan gyfaredd lleisiau coliars, yn carthu llwch a thywyllwch y pwll glo o'u heneidiau.

Credai Aristotle mai o fwd y crewyd hwy.

Erbyn heddiw tueddwn i feddwl am gŵn fel anifeiliaid anwes ond ar ffermydd a thyddynnod Sir Benfro a Sir Aberteifi y magwyd y ddau fath o gorgi yn arbennig ar gyfer gyrru gwartheg ac er mwyn hela y crewyd cŵn megis Daeargi Sealyham, y Daeargi Cymreig (a fu mor llwyddiannus yn Sioe Cruft eleni) a'r Tarfgi Cymreig (Welsh Springer Spaniel).

Crëwyd cryn argraff gan y tîm a oedd yn gyfrifol am Chwedlau Caergaint ac a enwebwyd am Oscar amdano gyda menter uchelgeisiol arall wedii hanimeiddio - ffilm o glasur Herman Melville, Moby Dick, gyda Rod Steiger fel Capten Ahab yn y fersiwn Saesneg.

Y mae dadansoddiad o nodau uchder ar fapiau AO, fel yr enwau Glan-yr-afon a Rhyd Lydan, yn tystio ymhellach i'r ffaith mai i'r gorllewin o'r llwybr presennol y gorweddai llwybr gwreiddiol Afon Cefni o ad-drefnu'r rhwydwaith traenio crewyd sianelau dwr hollol newydd, sianelau y rhoddwyd enwau penodol iddynt.

Crewyd Rhaeadr Ewynnol wrth i'r afon groesi rhan o graig galetach, na ellir ei herydu mor hawdd â'r graig yn is i lawr yr afon.

Ni welid Elyrch Gwyllt yn taro heibio ychwaith, ond crewyd pyllau a chorsydd ar y porfeydd.

Gelwir y dyfnant coediog hwn, a'r Rheilffordd o Gaerwen i Amlwch yn dilyn ei llwybr, yn The Dingle, ond 'does dim dwywaith mai ei henw gwreiddiol oedd Nant y Pandy." Enw arall ar y rhan hon o'r dyffryn, ac un hynod o addas ag ystyried sut y'i crewyd yn y lle cyntaf, oedd Nant y Dilyw.

Crëwyd cryn argraff gan y tîm a oedd yn gyfrifol am Chwedlau Caergaint ac a enwebwyd am Oscar amdano gyda menter uchelgeisiol arall wedi'i hanimeiddio - ffilm o glasur Herman Melville, Moby Dick, gyda Rod Steiger fel Capten Ahab yn y fersiwn Saesneg.

Crëwyd cerddoriaeth gan fyfyrwyr TGAU a lefel A yn Abertawe a ysbrydolwyd gan iaith gerddorol Olivier Messiaen.

Crewyd y broblem yn wreiddiol gan driniaeth ddifeddwl Pwyll o Wawl fab Clud.