Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

crio

crio

Mam yn ceisio dianc o galedi ac oerfel Trefeca, o'r llafur a'r ddisgyblaeth ddiderfyn, gan adael un bach yn crio yn ymyl y lan a'r llall yn farw yn ei chôl.

Roedd Sharon, fy chwaer fach, wedi dychryn am ei bywyd ac roedd hi'n crio.

Roedd y rhan fwyaf o'r plant yn ddim ond ychydig fisoedd oed: eraill, ychydig flynyddoedd oed, a phan oedden nhw ar eu pennau eu hunain, bydden nhw'n crio am eu rhieni.

Aeth i swatio yn ei gwt gan wneud sŵn crio drwy'r amser.

Rhyw hanner awr wedi croesi roedden nhw'n ôl, ac roedd hi'n amlwg o'u crio a'u gweiddi eu bod wedi eu rhwystro rhag mynd adref.

Dechreuodd feichio crio wedyn a brysiodd Sharon ati hi a mynd i roi ei breichiau am ei gwddf.

Ymateb rhai plant i'r digwyddiad hwn fu crio ond ymatebodd un o ferched y dosbarth trwy ysgrifennu darn i ddisgrifio'r amgylchiad.

'Roeddwn yn teimlo fel crio trwy'r adeg,' meddai.

Ac mae'n ffaith, hefyd, fod merched yn crio bum gwaith am bob un i'r dynion.

Roedd golwg wyllt arni, ei gwallt yn flêr a'i llygaid yn gochion ac ôl crio mawr ar ei hwyneb.

Gwnaeth yr hen gi ffyddlon sŵn crio yn ei wddf.

Mae'n siŵr y gallen nhw, hefyd, roi rhesymau pam y mae rhai ohonom ni'n crio'n amlach na'n gilydd.

'Doedd o ddim i'w gweld hi'n crio.

Mae o'n crio isio cael dŵad i'r tŷ, clywch ar ei lais o'n cwyno.

Dim ond babis sy'n crio.'

Eisteddodd Nain i lawr gan ochneidio'n drwm a dechrau beichio crio.

Mi fydd yn powlio crio 'gei di weld.' 'Dwi inna isio crio, ond 'mod i yn methu 'te.' Rhyfel Annibyniaeth America ac ymyrraeth y Ffrancwyr a alwodd y Capten Timothy Edwards yn ôl i'r môr, a hynny wedi tair blynedd ar ddeg o fod yn llongwr tir sych.

Bob tro y canai'r seiren, byddai Natalie yn crio'n afreolus, a newidiodd Adam o fod yn fachgen bywiog, hyderus i fod yn dawel a nerfus.

Mae pedwar deg y cant o ferched a thri deg chwech y cant o ddynion yn crio oherwydd problemau personol; dau ddeg saith y cant o ferched a thri deg chwech y cant o ddynion yn crio oherwydd dylanwad y cyfryngau.

'Roedd y walia mor dena, medda fo, "Pe byddai Mrs Rowlands drws nesa yn plicio nionod, y byddai Jini (Mam) yn crio%.

Clywais sawl stori am y bechgyn hyn yn cael eu cludo i wersyll enfawr yn y wlad - y mamau'n crio yr ochr draw i weiren bigog wrth i'r bechgyn ddisgwyl am yr awyrennau a fyddai'n eu cludo i faes y gad.

Ond fe ellir crio o lawenydd ac o ryddhad weithiau.

Mae yntau'n fan hyn yn crio isio cael dwad i'r tŷ.

Pam, tybed, y mae merched yn crio'n amlach na dynion?

Mae chwerthin i ddangos hapusrwyd y beth digon derbyniol; pam nad crio i ddangos gofid?

Nid yn unig y mae merched yn well na bechgyn am basio arholiadau ond maen ymddangos bod dynion yn crio, neu wylo, mwy na merched.

Roedd babanod yn crio a phlant yn sgrechian a gyrrwyr yn swnio hwteri eu ceir a'r bobl yn y farchnad yn gweiddi ar y prynwyr i ddangos beth oedd ganddyn nhw ar werth.

Gorffwysai Rageur a Royal wrth ei draed Gorweddai Rex yn crio'n ddigalon wrth y drws mewn hiraeth am Alphonse.

`Fe es i nôl i'r gwersyll ac, hyd yn oed yno, doedd fiw imi ddechrau crio.