Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cristionogol

cristionogol

Taith droellog iawn oedd hi a chredai llawer un a gyfrannodd at y drafodaeth ei fod yn ffyddlon i'r argyhoeddiadau Cristionogol.

Magodd y beirdd gydwybod gymdeithasol, a daeth canu i'r rhinweddau Cristionogol, megis sobrwydd ac elusengarwch, yn brif thema i'w gwaith.

Mae'r emynau'n cwmpasu holl gyfoeth y bywyd Cristionogol yn ei bryder a'i orfoledd, yn ei ofnau a'i sicrwydd, ei anawsterau a'i lwyddiannau, yr union bwnc y canodd mor dreiddgar amdano yn Theomemphus.

Parodd her y Gnosticiaid i'r arweinwyr Cristionogol ymchwilio'n ddyfnach i arwyddocâd achubiaeth Gristionogol.

Ac y mae edrych tros droednodiadau gwerthfawr ei lyfr yn codi cwestiwn reit ogleisiol mewn perthynas â'i bryder y gall y traddodiad Cristionogol yng Nghymru fod yn tynnu ei draed ato.

Tadogodd un o'r milwyr y difaterwch ynglŷn â phethau crefyddol ar anallu pregethwyr a chaplaniaid i egluro'r gwirioneddau Cristionogol mewn iaith ddealladwy.

Ac felly, yng ngoleuni traddodiadau Cristionogol y canrifoedd y darllenai'r meddylwyr cyfoes - Karl Barth, Emil Brunner, Paul Tillich, Dietrich Bonhoeffer, Simone Weil, Ju%rgen Moltmann, Wolfhart Pannenberg, John Macquarrie, Helder Camara, Gustavo Gutierrez ac E. R. Norman.

Cyfnod oedd hwnnw pan oedd ymwybod â'r egwyddorion Cristionogol yn nodweddu mwyafrif llethol y boblogaeth.

Yr un syniad a arweiniodd y meddwl Cristionogol ymhen amser i ddehongli iawn yng Nghrist mewn termau aberthol, ond gan ei drawsnewid yn syniad am iawn lle y talai Duw ei hun bris yr aberth.

Yn y cyd-destun Cristionogol rhoddwyd ystyr newydd a llawnach i'r termau hyn i Iddew o Gristion, a daeth iddynt arwyddocâd cwbl newydd o fewn i'r eglwys.

Mae hynny'n golygu fod cenhedlaeth yn codi sy'n hynod anwybodus am y Beibl a'i athrawiaethau ac am y traddodiadau Cristionogol sydd wedi cyfrannu mewn ffyrdd mor gyfoethog at fywyd Cymru.

Mae'n rhaid cydnabod fod y meddwl Cristionogol yng Nghymru hyd at ddechrau'r ganrif bresennol wedi rhoi pwysau trymach ar Dduwdod Crist nag ar ei ddyndod.

Mewn gair, yr oedd holl drysorau'r traddodiad Cristionogol oesol yn pefrio yn Llwyncelyn a Mydroilyn.

Thema bwysig, felly, yn ei feddwl yw thema buddugoliaeth ac y mae'n cydio wrth bwyslais yn y meddwl Cristionogol sy'n ymestyn yn ôl i'r ail ganrif, i ddiwinyddiaeth Irenaeus.

A dyna hefyd yr argyhoeddiad sydd wedi ysgogi pob mudiad cenhadol Cristionogol.

Yr argyhoeddiad Cristionogol oedd i Grst farw tros ddyn ac yn ei le er mwyn ei gymodi â Duw.

Yn ôl y gwrth-grefyddwyr, gellid rhannu cyfnodau'r byd yn dri - y cyfnod cyn-Gristionogol, y cyfnod Cristionogol, a'r cyfnod ôl-Gristionogol.

Bendithia ymdrechion Cymorth Cristionogol a'r eglwysi a miliynau o Gristionogion i gynorthwyo'r anghenus a bwydo'r newynog.