Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cristnogaeth

cristnogaeth

Y mae Cristnogaeth ei hunan yn llifeiriant, ac lesu ei hunan yn llifeiriant hanes dyn.

Yr oedd yn rhaid credu i'r pen - naill ai mewn Cristnogaeth uniongred neu Farcsiaeth.

Ei nod, fel Eliot o'i flaen, oedd 'cadw mewn llenyddiaeth y syniadau mawr cyfoethog sydd mewn Cristnogaeth'.

Yna am ryw hanner awr byddem yn cael sgwrs â'r ddau weinidog, neu wylio ambell fideo yn dangos sut mae Cristnogaeth yn cymryd rhan ym mywydau pobl heddiw.

ar derfyn y cyfarfod cefnogodd y gynulleidfa'r datganiad hwn : gan gredu bod rhyfel yn anghyson ag ysbryd cristnogaeth ac yn dinistrio lles gorau dynoliaeth mae'r cyfarfod hwn yn awyddus i ddatgan ei gefnogaeth i'r ymdrechion a wneir ar hyn o bryd gan y gymdeithas heddwch i ledaenu syniadau cywir am y drwg a wneir gan ryfel...

Mae hwn yn glasur ac yn trafod hanfod Cristnogaeth mewn modd sy'n gwbl glir hyd yn oed i'n cenhedlaeth ni.

Er cymaint eu crefyddolder a'u capelgarwch prin yr effeithiodd Cristnogaeth ar eu meddwl cymdeithasol a gwleidyddol.

Erbyn canol y bedwaredd ganrif mae'n wir dweud mai Cristnogaeth oedd crefydd swyddogol y wlad.

Mae'n ddiau y gallasai gysoni'i fywyd gwleidyddol â'i grefydd draddodiadol, Hindwaeth, a chydnebydd ef ei hun ddylanwad Cristnogaeth arno, yn enwedig y foeseg a geir yn y Bregeth ar y Mynydd.

Gan fod y Celtiaid paganaidd yn addoli'r meini ac yn eu cyfrif yn gysegredig, bu'r seintiau'n ddigon call i beidio â dinistrio'r cerrig ond eu troi at bwrpas Cristnogaeth drwy naddu croesau arnynt.

ac nid cristnogaeth yn unig ond crefydd yn gyffredinol.

Pwnc y gerdd fuddugol yw tair o gorlannau crefyddol y byd, crefydd Islam, Cristnogaeth a chrefydd Bwda'r Tseineaid.