Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cristnogol

cristnogol

Drachefn eleni bu casglu arian at Gymorth Cristnogol; hynny o ddrws i ddrws yn y dref gan aelodau gwahanol eglwysi a thrwy daith feicio noddedig gan y bobl ifainc.

Gwasanaeth Undebol Cynhaliwyd gwasanaeth undebol yng nghapel Canaan ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol.

Yno fe'i cawn yn ei ffurf Roegaidd, Alelwia Aeth y mawl Iddewig bellach yn rhan o'r mawl Cristnogol, oherwydd dathlu buddugoliaeth yr Oen mae'r alelwia yn Llyfr y Datguddiad.

Ceir cofebau a chroesau o garreg sy'n dyst i weithgarwch Cristnogol cynnar ac adlewyrchir enwau'r saint yng Nghymru mewn enwau lleoedd megis Llandeilo, Llanddewi, Llansantffraid.

Bwriadai i'r eglwys golegol hon estyn croeso a chymorth Cristnogol i ddieithriaid a chrwydriaid yn ôl traddodiad yr efengylau.

Anfonwyd cenhadon Cristnogol o Gâl, Sbaen a'r Almaen.

Astudiaeth o ddatganoli o safbwynt Cristnogol.

Yn y Mabinogi fe gyferbynnir yr hen a'r newydd: balchder, rhyfeloedd a dial yr hen gymdeithas baganaidd yn erbyn gostyngeiddrwydd, amynedd, a chariad brawdol cymdeithas wedi ei selio ar rinweddau Cristnogol.

Wedi i'r Alban faeddu Lloegr dros y Sul a'u hamddifadu o'r gamp lawn, tybiais mai'r peth Cristnogol i'w wneud fyddai peidio ffonio a gadael i'r briw rygbi iachau'n raddol.

Nid heb reswm y galwyd yr Actau 'y ddiffyniad Cristnogol cyntaf' ­ ond y mae'r cymhelliad apologetaidd i'w olrhain hefyd yn yr efengylau.

Gellir gweld sut y cyfunodd y ddau draddodiad yma - yr un llenyddol a'r un Cristnogol - yn gynnar iawn yn ei hanes.

Cerdd am yr haul yn codi o'r dwyrain fel grym daionus yw hon, cerdd am ddarpariaeth Duw ar gyfer dyn ac am draddodiad Cristnogol Cymru.

Erbyn heddiw mae yna elfen o'r paganaidd yn ogystal â'r Cristnogol yn rhan o'n ffordd ni o ddathlu'r Nadolig.

Effaith colli'r ymwybod o bechod yw Moderniaeth Cristnogol, ac oblegid hynny y mae'n ffiaidd gen i.

Ond bu rhai eraill o'i gyfoeswyr yn dangos diddordeb dwfn yn y gorffennol - boed hwn yn orffennol chwedlonol a rhamantaidd fel yr un yr ymhyfrydai T Gwynn Jones ynddo, neu yn orffennol hanesyddol, gwareiddiedig ac aristocrataidd fel eiddo Saunders Lewis, neu yn orffennol Cristnogol fel yr un a ymddengys yng ngwaith Gwenallt.

Mae gan wleidyddion y dalaith gythryblus hon y ddawn ryfeddaf o brofi argyfyngau gwleidyddol o gwmpas gwyliau Cristnogol.

Gwaith CASA ydy ceisio datblygu ymatebion lleol i broblemau parhaol yn ogystal a cheisio deilio ag argyfyngau, gan ddefnyddio Cymorth Cristnogol, Oxfam etc.

Oherwydd y dylanwad duwiol hwn, penderfynodd Pamela nad oedd yr ysgol a fynychai ei merched hi'n addas i blant Cristnogol.

Gwnaed casgliad ar derfyn y gwasanaeth tuag at waith Cymorth Cristnogol.

Ar y bore cynta' hwnnw, roedden ni wedi gorfod mynd i bencadlys y PSB, sef y militia Cristnogol, ac Amal y Moslemiaid, ac mi roedd o fel rhywbeth allan o ffilm ysbi%wyr.

Wythnos Cymorth Cristnogol Diolchwn i bawb a gynorthwyodd gyda'r casglu o ddrws i ddrws ac am bob rhodd.

Pwysig yw i ni, sydd yn sôn am seiliau Cristnogol i'n cenedlaetholdeb, gofio fod Iddewiaeth a Hindwaeth a chrefyddau eraill wedi cynhyrchu rhai o arweinwyr pennaf cenhedloedd yn y cyfnod modern.

A dderbynnir y safonau Cristnogol ar gyfer y berthynas hon?

Gellir cymryd hyn i olygu bod angen sgrifenwyr Cristnogol mawr - megis Pantycelyn - sy'n amlygu pydew bywyd dyn yng ngoleuni cyfiawnder Crist, ond hefyd sgrifenwyr gwrth-Gristnogol sy'n gwrthod Crist ac yn - dewis pechod.

Ers blynyddoedd, felly, bu mudiadau fel Cymorth Cristnogol yn ymgyrchu am gymorth ariannol ar gyfer cynlluniau datblygu, yn hytrach na phentyrru bwyd.

CYMORTH CRISTNOGOL: Mae'r Cyngor Eglwysi Y Felinheli yn dymuno diolch i bawb, yn gasglwyr ac yn gyfranwyr, am eu haelioni eto eleni.

Yn Nhwrci yn ôl y traddodiad Ottomanaidd gadawai'r Llywodraeth i'w deiliaid Cristnogol eu rheoli eu hunain ym maes crefydd ac addysg.