Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

croes

croes

Mae'r adeilad yn ei atgoffa o eglwys gan ei fod ar siâp croes a bod clochdy iddo.

Doedd dim diben dweud na allai'r un joci ar wyneb daear ofalu bod pob ceffyl yn neidio'n berffaith bob tro ac yn enwedig hen gythraul croes a oedd wedi ei ddysgu'n wael.

Fe ddigwydd y terfyniad hwn hefyd, neu berthynas agos iddo mewn enwau lleoedd yn yr ystyr "llawer, nifer." Ceir ef mewn enwau megis Prysor "llawer o lwyni%, Perthor "llawer perth", Gwernor "llawer o goed Gwern" a Castellior "llawer caer." Mae'n amlwg mai croes "cross" yw elfen gyntaf yr enw Croesor.

Un o ystyron croes yn Gymraeg yw "arwydd ar ffurf croes sy'n nodi ffin" ac y mae croes yn sicr yn digwydd mewn enwau lleoedd yn yr ystyr hwn.

Cofio crwt yn holi ar ddiwrnod pleidleisio a oeddwn i wedi bod yn rhoi croes i Iesu Grist.

Tynnodd ei sgrafell dros esgob Bangor a'r deon am iddynt ofni cario croes ar bererindod i Ynys Enlli heb addewid o ymbare\l a bws a thywydd braf i groesi, gan of yn yn bryfoclyd, pa fath dywydd oedd hi tybed pan gariai Iesu ei groes real, drom, ar lethrau Calfaria.

Ychwanega ei fod wedi dwyn croes ein Harglwydd Iesu Grist ar ei ysgwyddau (sef llun neu batrwm ar ei darian yn ôl pob tebyg) am dri diwrnod a thair noson, a dyma'r enghraifft gynharaf o'r syniad am Arthur yn amddiffynnydd i'r Ffydd Gristnogol.

Ynys o graig a'i bilidowcars yn teyrnasu arni, y goleudy'n gannaidd, amlinell croes Dwynwen ar las y nen, gweddillion ei heglwys yn swatio yn y pant a bae bach perffaith oddi tanoch.

Felly, yn ystod y saith mlynedd ar hugain yr oedd yr esgobion druain mewn cryn benbleth oherwydd yr awelon croes a oedd yn chwythu arnynt.

Bydd gweld gwraig â llygaid croes yn y dorf cyn dechrau'r gêm yn anlwcus iawn ac ni fydd y chwaraewr hwnnw yn llwyddo i daro'r bêl unwaith y diwrnod hwnnw!

Dewch, mae eisiau ar yr achos, dewch o deimlad da bob un; Pam y byddwch yn segura yn y dafarn drwy eich oes, Gwario'r cyfan oll am gwrw, a diweddu 'ngeiriau croes?

Cytunais yn llwyr â H Charles Williams, Tŷ Croes, Ynys Môn a oedd yn methu â deall sut y mae gwiedydd of nadwy o dlawd yn gallu fforddio arfau i ladd ei gilydd.

Dywedodd hithau "Croes awr i mi oedd hon." Galwyd y fan wedyn yn Croesawr ac yn ddiweddarach yn Croesor.

Ond wedyn ceisid llunio croes hardd ag iddi batrwm arbennig, fel rhai eraill sydd yn Llanddewibrefi ac yn Llanwnnws.

Mewn dychryn mawr, gwrandawodd pob un o'r dawnswyr ar ddysgeidiaeth y sant, ac er mwyn eu cadw'n Gristnogion, torrodd Samson lun croes ar y garreg.

Cerddodd y protestwyr ar draws tir gwaharddiedig yr awyrlu i blannu croes fel symbol o heddwch a gwrthwynebiad i'r fath ormes.

Un o'r canolfannau pregethu pwysicaf trwy'r ganrif oedd Croes Sant Paul, gyferbyn ag eglwys gadeiriol Sant Paul yn Llundain.

Cyfnod o awelon croes.

O flaen y lle tan yr oedd carped ddaru Anti wneud ei hunan a phwyth croes.

Uwchben y silff ben tân hongiai darlun olew mawr ac uwchben y darlun roedd llumanau gwŷr meirch, naill ai wedi eu rhwygo gan fwled neu eu bwyta gan wyfyn, ar ffurf croes mewn ffrâm wydr.