Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

crwn

crwn

Fel rheol ar ôl i dwll fel hyn gael ei saethu mae angen llnau wyneb y graig, gan fod cerrig wedi symud ond ddim wedi dod i lawr, felly rhaid i'r ddau ddyn fynd i lawr ar y rhaff eto hefo darn o haearn crwn rhyw bedair troedfedd o hyd wedi ei finio yn un pen, yr hwn a elwir yn drosol.

Ar y dechrau credir mai crwn oedd tu mewn i'r Capel gyda stôf yn y canol.

Mae gennyf gof fel y byddai mam a finna yn galw yno lawer i nos Sadwrn i gael torth fawr, a chael paned o de ar y bwrdd bach crwn, a byddai y Beibl ganddi ar y silff pen tan, ac yn hongian byddai Almanac Robert Roberts Caergybi, a llyfr cyhoeddiadau y Methodistiaid Calfinaidd (roedd hi yn ofalus iawn o'r achos).

Gosodwch y cerdyn hwn mewn hollt a wnaed mewn pric cwta - un crwn, os oes modd.

Wedi darfod y ddau dwll mae ei fêt sydd ar y top yn gollwng dau bisyn o haearn crwn iddo; mae yntau yn eu rhoi yn y tyllau, wedyn mae'r sawl sydd ar y top yn gollwng darn o bren iddo.

Yna os ewch chi o gwmpas trwyn y Mwmbwls i lawr i fae Bracelet gallwch gasglu esiamplau o ffosil gwymon môr sy'n edrych yn debyg i ddarnau deg ceiniog crwn ar y creigiau ger gorsaf gwyliwr y glannau.

Mynd yno wnes i i weld criw o weithwyr yn gorffen codi pentre' Celtaidd - tri thŷ crwn nodweddiadol o'r cyfnod cyn hanes, wedi'u rhoi at ei gilydd gyda dulliau mor debyg â phosib' i ddulliau'r Celtiaid .

Roedd yn rhychau i gyd, fel cwysi mewn cae ar ochr bryn bach crwn.

Gwelwyd o brofiad fod ffeiliau bwa-lifer neu ffeiliau clo-crwn gyda rhestr gynnwys a rhaniadau wedi eu labelu yn ffordd dda o gadw'r gwaith mewn trefn.

Wedi darfod, paciwn y gêm i ffwrdd a dychwelaf y bwrdd crwn i'w le tan y tro nesaf.

Ond fe ddiffoddwyd y fflamau hynny a gyneuwyd gan ddynion a fynnai reoli'r byd crwn cyfan yn fuan - nid oedd golau'r gobaith mor hawdd ei ddiffodd.

Byddai'r hen ffermwyr yn malu'r garreg-las ac yna yn ei chymysgu â sebon a'i rhoddi ar y crwn (ringworm) sydd yn cael ei achosi gan ffwng.

Roedd cadeiriau caled mawr gyda seddau crwn coch moethus wedi eu gwthio yn erbyn y bylchau gwag ar hyd y wal o gwmpas.

Ai'r trên heibio i dai â rhyw olau bychan crwn, egwan yn y ffenestri.

'Dwy ddim wedi gweld y bocs bach crwn ers blynyddoedd.

Daeth Menna ymlaen atom a'n tywys at fwrdd crwn, dipyn o'r neilltu.

Mewn gwirionedd, roedd ei gefn yn eithaf crwn.

Gwnaeth y bwtler ei orau i'm tywys drwodd heb i mi gael peltan yn fy wyneb gan y dail soeglyd, ac ymhen amser daethom i fan agored yng nghanol y jyngl o dan y to crwn uchel.

Gyda lleuad crwn yn codi yn yr awyr y mae adar i'w gweld yn hedfan i glwydo.

Llymeitiodd ei de wrth fwrdd crwn, diliain gyda strempiau digon budr arno.

Y tu draw iddynt hwy safai tŷ gwydr mawr gyda tho crwn uchel.

Yn anffodus crwydrodd ei lygad i gyfeiriad bwrdd crwn a diflannodd y gwynt i gyd o'i hwyliau - roedd Laura Elin o'r Felin wedi hulio brecwast i dri.

Estynnaf y bwrdd crwn a'i osod rhyngom.

Yr oedd bwrdd crwn ynghanol yr ystafell, o bren tywyll, bron yn ddu, a'r traed yn gorffen mewn siap palf llew.

Tew, tinfawr neu dena', Hir a cham fel banana, Crwn fel consyrtina.

Ac roedd hwnnw wedi bod yn crwydro ar draws mynyddoedd Pumlumon o fewn cylchdaith o bymtheng milltir i'w gartref ers naw mis crwn.

þ'i cheg yn dechrau glafoerio trodd y bocs crwn yn ofalus ar ei ochr, ac ysgydwodd y darnau arian allan i'w llaw chwith.