Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

crwydro

crwydro

Pan oedd pawb wedi cilio i'w cytiau, roedd un o fechgyn y Llynges yn crwydro o amgylch y gwersyll yn chwilio am hoelion a darnau o bren a sachau, ac wedi iddo lwyddo i gael digon o ddefnyddiau aeth ati i wneud gwely bach reit handi iddo'i hun.

Fyddai Roci byth yn crwydro o'i gynefin heb gwmni ei ast ffyddlon, ac aeth a hi i mewn i dy'r cymydog a'i sodro wrth ei gadair o flaen y tan.

Crwydro o gwmpas y ffair, felly, a wnai ef, arogli'r sŵn, a lled gyfarfod a hwn a'r llall, heb dorri'r un gair a neb yn iawn, megis mewn sioe amaethyddol.

Rydych chi'n llawer mwy tebygol o'i gweld yn crwydro caeau Pontcanna yng nghwmni Fudge ei chi, ac mae'n cyfaddef, peate'n cael ei ffordd ei hun, byddai'n rhannu ei chartref gyda mwy na Fudge a'i gwr, sy'n ddyn sain.

Y fi fel stiwdant hannar pan yn crwydro'r ddinas 'na ac Iwan Roberts yn curo ar ddrysa pwysicach o lawer'.

A phobl yn 'i hysio mas o'r siope pan oedd e'n grwt os bydde fe a'i ffrindie'n crwydro o amgylch i weld beth oedd 'na.

Yn gynnar y prynhawn hwnnw roedd Anna Cartwright yn crwydro ar hyd y marina i gyfeiriad y cwch mawr porffor.

Roedd hitha 'di trio ambell beth unwaith neu ddwy, a mwynhau uchelfanna'r profiad: crwydro'r bydysawd, yn lliwia a syna o bob math; teimlo'n hollol tu allan iddi'i hun; colli gafael arni'i hunan, ar amser a lle ...

Wedi cael ychydig o fwyd, aeth Peter i geisio cysylltu â'i gyfeillion, tra bu Larry a minnau'n crwydro Sgwâr Wensylas.

Doedd dim hyd yn oed gi neu anifail yn crwydro'n ddiamcan rhwng y tai.

Dichon, fodd bynnag, fod Gwilym Meudwy ymhlith yr olaf, onid yn wir yr olaf o brydyddion y bedwaredd ganrif ar bymtheg a fu'n crwydro o fan i fan, yn null yr hen faledwyr, yn gwerthu cynnyrch ei awen.

Wn i ddim os gwyddoch chi am Stad Bryn Glas o gwbwl ond -(Torri ar ei thraws ei hun) Mae'n ddrwg gen i, rw'i'n crwydro unwaith eto.

Roedd mam yn yr ysgol efo Glyn Pen Parc, oedd wedi crwydro mor bell o'i filltir sgwar, ac roedd hithau'n gwylio'r teledu bob nos i weld y datblygiadau diweddara yn y ras am y gofod.

Un o bleserau bywyd i mi yw crwydro o gwmpas y wlad yn edrych am rhyw gornel fach goll sy'n llawn o ryfeddodau daearegol.

Ar adegau felly, hefyd, mae'r camerâu'n dechrau crwydro, gan geisio rhoi'r argraff fod cryn arwyddocâd i'r hyn ddywedodd Raisa Gorbachev wrth Nancy Reagan mewn amgueddfa yn Moscow.

Mae trwch yr eira - cymaint a hanner medr o ddyfn- der - yn rhwystro'r baeddod rhag crwydro'r wlad ac felly yn eu cyfyngu i un ardal arbennig.

Roedd o'n crwydro'r byd ar danceri olew ac yn anfon llythyrau yn llawn lluniau i mi o bedwar ban byd.

“Nôl yn y saithdegau bum yn crwydro'r byd - Fiji, Awstralia, Borneo, Sarawak a Florida ac yn Sarawak bu bron i mi orfod priodi merch o lwyth y Dyaks.

Ni fu+m i yn crwydro rhyw lawer erioed ar y cribau yma - y rhai sydd ar yr ochr dde i'r afon.

Mae Densil John yn meddwl bod mwy o ymwybyddiaeth o broblemau y digartref erbyn hyn ond mae'r problemau'n dal i fodoli: "Mae Caerdydd yn ddinas sy'n benthyg ei hun i ddatblygiad ond pwy sy'n mynd i ddod i le sydd a llwyth o bobl yn crwydro'r strydoedd yn aml yn chwil?

Yr oedd gwrandawyr yn aml iawn yn crwydro o gapel i gapel ac o enwad i enwad yn ôl eu mympwy a gallent yn hawdd ymddangos yn ystadegau amryw eglwysi.

Ond nid pawb a gymeradwyai'r drefn hon o bregethu teithiol, oblegid rhoddai gyfle i rai cymeriadau digon brith ac annheilwng i fanteisio ar garedigrwydd yr eglwysi, a daeth amryw o 'wŷr y gwithe allan o waith yn crwydro'r wlad i bregethu' yn destunau gwawd a dirmyg.

Gwyddys hefyd fod canu baledi yn weithgarwch poblogaidd ymhlith rhai o drigolion y dyffryn, a'r rheini'n aml yn wŷr a brofodd ddyddiau gwell, megis Evan Nathaniel, brodor o'r Alltwen yn wreiddiol, a fu'n crwydro'r cymoedd yn canu a gwerthu baledi.

Ysgrifennwyd y rhain gan feirdd, a oedd yn crwydro o fan i fan yn chwilio am lety.

Ar y rhyngrwyd, cafwyd crwydro helaeth os nad afiach uwch ei farw a'r modd y bu iddo osod dryll i'w ben.

Yn yr hen ddyddiau, roedd llewod yn crwydro'r wlad honno ac mae'r llew yn un o gymeriadau mawr y chwedlau hyn.

Ond, fe gredaf i fod stôr enfawr o straeon gwerin cyfoes i'w cael yma yng Nghymru, ac fe hoffwn eu clywed gennych chi felly, talwch sylw manwl i'r stori nesaf fydd yn crwydro eich ardal chi, efallai yn sôn am alsatians yn rhewgell y bwyty Sineaidd, neu effaith y pwerdy niwcliar ar y tywydd, neu hwyrach am anifail mawr rheibus yn lladd defaid.

Mae yna swyddogion diogelwch yn crwydro'r ysbyty trwy'r nos a'r adran ddamweiniau yw'r unig ffordd i ddod i mewn bryd hynny.

Am ddau ddiwrnod cyfan bu Idris yn crwydro drwy'r goedwig, ond y trydydd dydd, yn y bore bach, cyrhaeddodd wlad brydferth yn llawn mân fryniau a dolydd, afonydd yn llifo drwy'r cymoedd, pentrefi bach yn britho'r wlad a chestyll urddasol yma a thraw ar y bryniau.

A dyma efallai bwrpas y straeon hyn, sef cadarnhau rhai o gredoau sylfaenol ein cymdeithas, ac i'n rhybuddio rhag crwydro ymhell oddi ar lwybrau derbyniol ein cyfoedion.

Byddai hwnnw'n crwydro drwy'r llong am hanner awr wedi wyth bob bore i sicrhau bod popeth yn iawn.

Mi fues yn crwydro o gwmpas am hir, ond heb weld dim, ac erbyn imi fynd yn ol i'r lle y gadawodd Twm Dafis ei feic, doedd dim hanes ohono.

Mae eraill yn crwydro'r haf ond yn bwrw'r gaeaf mewn halting sites, sef safleoedd arbennig y mae'r awdurdodau lleol yn eu darparu ar eu cyfer.

Ac mi ddyfynnaf: 'Tydan ni ddim am adael i lofruddion enbyd fel Vatilan gael crwydro'r strydoedd yn ddilyffethair'.'

Nid hon yw'r ffordd orau, ond gan fod Naferyn a'i filwyr yn crwydro'r wlad mae'n well i ti beidio â theithio ar hyd y briffordd.

Yn ogystal, honnir ei fod yn dioddef cyfnodau maith o iselder ysbryd ac yn crwydro coridorau'r barics yn siarad â'i hunan.

Mi fum yn crwydro yma ac acw ar hyd yr ynys, gan feddwl fod Twm Dafis rywfodd wedi fy ngweld a bod y lladron wedi sleifio drwy un o'r ffenestri i guddio allan yn rhywle.

Wedi bod yn crwydro hyd y creigiau drwy'r bore, ac eistedd.

Roedden nhw wedi crwydro'n bell oddi wrth eu cartref erbyn hyn.

Dilyn wrth gwt arweinydd swyddogol am beth amser er mwyn casglu pob dim o wybodaeth am y ddinas, ac yna crwydro i bob cyfeiriad ar fy mhen fy hun.

Mae'n anhygoel fod dyn yn medru crwydro fel hyn i oes arall heb i neb wybod ei fod yno...

Fel y gwyddoch mi gymerais arnaf mai adarydd oeddwn i, er mwyn i bobol arfer fy ngweld yn crwydro o gwmpas ar fy mhen fy hun.

Problem arall yw nad yw grisiau'r tŵr yn weladwy i'r gynulleidfa drwy'r amser mewn cynhyrchiad teledu gan fod y camera'n crwydro at wyneb neu gorff ac yn symud i ffwrdd oddi wrth ddarlun cyfiawn o'r set.

Ac roedd hwnnw wedi bod yn crwydro ar draws mynyddoedd Pumlumon o fewn cylchdaith o bymtheng milltir i'w gartref ers naw mis crwn.

Roedd crwydro Belffast fel ffotograffydd ar ymweliad yn hytrach nag fel brodor yn ei alluogi i edrych ar y sefyllfa gyda gwrthrychedd newydd.

Yn ŵr deallus a fu'n crwydro gwledydd Cred rhaid oedd iddo ef gydnabod uwch-ddiwylliant y Norman.

Ychydig a wyddai'r diniweitiaid oedd yn crwydro'r wlad ar gefn beic i gasglu enwau ar ddeiseb i wrthwynebu rhoi adeiladau gwersyll y Llynges ym Mhenychain i 'Byclins' ar ol y rhyfel fod cytundeb yn bod cyn eu codi erioed rhwng Billy, a barchusodd i Syr William, a'r 'admirality', mai eiddo Butlin fyddai Penychain ar ol y rhyfel.

Llanw'r nos dros erwau galar, Hoen a gobaith dan ei li, Ysbryd braw yn crwydro'r ddaear, Tristwch yn fy mynwes i...

Annifyrwch sy'n tarddu, efallai, o'r ffaith bod y fath lofruddwyr yn crwydro'r byd.

POBOL O BELL Heblaw am y plismon o Fadagascar, y carcharoro o Efrog Newydd a Matron y carchar o Hanover, yr oedd eraill ymhell o fro eu mebyd; dyna i chi Stuart Kirby o Stryd y Castell a anwyd yn y Punjab; Emma Jones, gwraig y cyfrifydd yn Heol Clwyd o Wlad yr Haf; Owen Fox, tincer o Mayo, dyn oedd yn crwydro cryn dipyn mae'n rhaid oherwydd ymhlith ei lu o blant ganwyd Michael ym |Mwlchgwyn, Bridget yn Nefyn, Owen yng |Nghroesoswallt, Rossey ym Mhentrefoelas, Thomas ym Mhenybont Fawr, Kitty ym Mryneglwys a Maggie yn Nhreffynnon.

Nid yw'r ymchwil am hunaniaeth yn thema gwbl ddieithr ymhlith yr arddangosfeydd sy'n crwydro Llundain a gweddill Prydain.

Darlunia Alun Llywelyn-Williams, yn Crwydro Brycheiniog, sut y byddai'r gyrroedd yn cyfarfod yn Llanddulas yn Nhirabad cyn dringo Mynydd Epynt, 'a hyd heddiw gellir dilyn eu trywydd, nid yn unig ar y ffyrdd glas, ond hefyd wrth enwau'r tafamdai, rai ohonynt yn ddim ond adfeilion mwy, a ddisychedai'r gwyr da, os nad eu hanifeiliaid hefyd, ar y daith, - Tafarnymynydd, ryw dair milltir o Landdulas, Tynymynydd neu'r Drovers' Arms ...

Egyr y gyfrol gyda A Dyfod Adref yn Ddigerydd, stori am dri bachgen sy'n crwydro o wers rygbi yn yr ysgol ac yn canfod hen dy diarffordd.