Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cryfder

cryfder

Mae nifer o'r rhaglenni hyn yn adlewyrchu cryfder BBC Cymru o ran newyddiaduraeth materion cyfoes, ac roedd hyn yn amlwg trwy gydol y flwyddyn gyda chyfraniadau i ddarllediadau ar radio a theledu o ddigwyddiadau megis yr Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd, a phrif raglenni dogfen ar y teledu megis Place of Safety, am yr ymchwiliad i gam-drin plant yng Ngogledd Cymru, ac In The Red Corner, a ddilynodd gystadleuaeth arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.

Ac o safbwynt llenyddol, gallai fynegi ei hunan mewn cwpledi a phenillion nodedig am eu cryfder, eu heneiniad a'u prydferthwch.

Anodd iawn yw gallu dadansoddi cuddiad cryfder areithiwr mawr o'r gorffennol.

Cryfder haenennau sebon Y farn gyffredinol yw fod haenennau sebon a swigod yn bethau brau.

Gan mwyaf, gellir priodoli'r gostyngiad i nifer o ffactorau sosio-economaidd cymhleth: arwydd fod cryfder yr iaith mewn rhai ardaloedd ynghlwm wrth ddatblygu cynaladwy o fewn y gymuned ac yn ddibynnol arno.

O'r hyn a welais i yng ngogledd Irac, er hynny, defnyddio'u sgiliau, eu cryfder corfforol a'u hyfforddiant didostur i wneud gwaith dyngarol yr oeddent - a'i wneud yn dda.

Roedd cewri Cymrur saith-degaun cael eu cydnabod am eu sgiliau - ond elfen yr un mor bwysig oedd eu cryfder meddyliol.

Sôn am y drafodaeth rhwng Duw a'r enaid y mae Cradoc a'i amcan yw dangos cryfder aruthrol y rhwymyn cariad rhwng yr enaid a Duw.

Cyrhaeddodd Phil faint dyn yn gynnar, ac yr oedd y cyfuniad o ieuenctid, cryfder corff a deallusrwydd meddwl yn gynhysgaeth angenrheidiol iddo gyflawni gwaith mor llafurus.

Cryfder y bardd yw ei ffraethineb wrth fynegi ei farn ar bwnc agos at ei galon.

Cryfder Curig yn Ebeneser oedd ei waith bugeiliol.

Eisioes mae dwsinau o swyddi cydrannau ceir wedi cael eu colli yn ne a gorllewin Cymru a chwmnioedd wedi beio cryfder y bunt.

Maen nhw'n pryderu fod cryfder y bunt yn ei gwneud hi'n anodd i werthu dur i wledydd tramor a bod eu dyfodol yn edrych yn ddu.

Ond rhaid cofio nad yw'r Gymdeithas erioed wedi bodoli mewn gwagle ac mai cryfder, nid gwendid, yw'r gallu i newid i wynebu amgylchiadau newydd.

Felly mae'n chwilio am fachyn i gydio ynddo ac mae'n gyfleus iddo addoli Gwylan (yn hytrach na'i charu) a chofleidio'i daliadau - dros dro: wedi'r cyfan y daliadau hynny a rydd iddo'r cryfder i ddirwyn ei ddyweddi%ad â Lisabeth i ben a gwrthryfela yn erbyn diogelwch diantur ei fagwraeth.

Maen nhw'n chwaraen llawn hyder ac yn defnyddiou cryfder yn chwaraer bêl ar hyd y llawr a chadwr meddiant yn dda iawn.

Cryfder arweinwyr Llanfaches oedd eu dawn cyfathrebu â'r werin.

Yr oedd cryfder corff a meddwl yn nodweddiadol o Phil, a deuai hyn i'r golwg o bryd i'w gilydd.

Y mae'n bosibl fod cydolygyddion Hughes wedi'i rybuddio yn erbyn gwrthweithio cryfder ei achos drwy ymarfer iaith a ellid ei dehongli yn hunangyfiawn ac â naws sarhau-er-mwyn-sarhau iddi yn yr ysgrifau hyn.

Mae marwnadau i arglwyddi ymhlith y cerddi cynharaf yn y Gymraeg, ac mae'n amlwg fod cryfder y traddodiad hwnnw'n ffactor bwysig yma.

Fel y clywe aelode o Glwb Caerdydd am y paratoi rhyfeddol yma, daethant i'r casgliad mai adlewyrchiad o banic ar y Strade oedd hyn i gyd, a bod hyn yn cadarnhau eu cryfder nhw fel tîm oedd yn siwr o fuddugoliaeth.

Mae hyn yn siŵr o fod yn gywir i raddau, ond yr wyf yn credu fod yna reswm arall hefyd, sef cryfder y traddodiad brodorol Cymraeg ei hun.