Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cuddio

cuddio

Gohiria Tref hwy'n hyf er mwyn rhoi cyfle i'r gweithlu wagio'r sinema a chludir y madarch nas casglwyd i'w cuddio yn yr hen waith glo.

Hawdd coelio hynny; hawdd hefyd darlunio'r darlithydd teimladwy wynepglawr yn eistedd o'u blaen a'i law fawr yn ceisio cuddio'r wep a oedd yn gymysg o wên a dagrau.

Mae ymosodwr Lerpwl Robbie Fowler wedi dweud na fydd e'n gallu cuddio'i siom os na fydd e'n chwarae yn erbyn Arsenal.

Wedi cuddio'r llawddryll yr oedd, meddai, gan fod ei dad wedi saethu'n fwriadol at griw o fechgyn yn Llanfwrog.

Gwallt du fel creigiau'n gwreichioni'n yr haul, dyna ddywedai Iestyn wrthi, a'i dannedd fel cregyn bach gwynion a lynai wrthynt yn cuddio tu ôl iddo.

Mae'r pentre felly'n cuddio yng nghalon Cwm Gwendraeth.

Er mwyn gweld pa anifail sy'n cuddio, mae'n rhaid llithro rhannau o'r tudalennau cadarn i un ochr.

Mae hi'n dal i chwilio am ddyn ifanc golygus, tebyg i'w chariad, er mwyn dweud wrtho ble mae hi wedi cuddio'r llestri aur gwerthfawr.

Wedyn clywsom waedd, ac yna distawrwydd, ac wedyn sŵn mynd a dod, a ninnau'n ofnus yn cuddio dan y gorchuddion.

"Y chi oedd yn cuddio y tu ol i'r cyrten felly?"

Ond mae'r corrach yn synhwyro bod rhywun yn cuddio yn ymyl y llwybr ac mae e'n troi i'th herio â'i gleddyf yn ei law.

'Mae'r dynion yna wedi cuddio'r trysorau fan hyn am ryw reswm.

I ffwrdd â chi, felly, os hoffech wybod lle bu Lewsyn ap Moelyn ar herw, lle bu Rhys Gethin yn cuddio a lle roedd Gwenno Cwm Elan yn gwerthu cwrw heb drwydded...

'Roedd yr hyn ddigwyddodd wedyn fel ffars Brian Rix; nhad yn neidio o'i wely, y tŷ'n ysgwyd, drws ystafell gysgu mam a nhad yn agor a chau, drws ystafell gysgu ni yn agor, yr ystafell fel bedd, Wili a Glyn yn y gwely mawr yn cuddio o dan y blancedi a finna yn y gwely bach un lygad ar agor yn gwylio'r digwyddiadau, a gweld nhad un llaw yn dal y 'long johns' i fyny a belt yn y llaw arall yn colbio'r gwely.

Hawdd cuddio y tu ôl i ystadegau.

Rhain ydi'r bobol na wyddoch chi byth be sy'n digwydd y tu ôl i'r masgiau sy'n cuddio'u hwynebau.

Gwyddwn eu bod yn cuddio pethau oddi wrthym ni, y plant, ond ni pheidias yn fy ymchwil i ddod at y ffeithiau, a rhaid i mi gyfaddef i mi gael cryn gymorth gan fy modryb, Bopa Jane, chwaer fy mam, a oedd yn ddibynadwy ei gwybodaeth ac yn ddiflewyn ar dafod yn ei datguddiadau o'r ffeithiau.

'Oes rhywun yn cuddio rhywbeth oddi wrth y Gwylwyr' Botwm melyn ...

Ni allai'r bobl ifainc weld ei wyneb; roedd miswrn gwyrdd tywyll yn cuddio'r cwbl.

Yr union haneswyr hyn, a drodd eu cefnau ar yr olwg Hen-Destamentyddol ar hanes, a ddechreuodd ymosod ar y chwedlau drwy ba rai yr oedd historiwyr gwahanol genhedloedd wedi cuddio'u hanwybodaeth am eu dechreuadau.

Fe'i cefnogir gan haid o wleidyddion, cyfreithwyr, barnwyr, academyddion a dynion busnes, pob un yn cuddio tu ôl i'r honiad nad ydynt yn gwneud dim ond eu dyletswydd, gwy^r a gwragedd sy'n rhy ofnus i olchi'r piso o'u dillad isaf.

Fe welwn ni'r ddwy ddraig yn codi o'r twll cyn bo hir, ond paid â bod ofn, welan nhw mohonan ni yn cuddio yn y fan yma." "Ond pam y medd a'r sidan?" "Wel, fe fydd y ddwy yn ymladd heno a bron â thagu eisiau diod.

A chan mor ddeallus, gan mor fonheddig, gan mor sophisticated ydynt, mae'u hymddiddan yn ddethol, ac yn cuddio lawn cymaint ag a ddatguddio.

'Ond trysorau wedi eu cuddio gan hen fôr-ladron a phobl ers talwm ydi hynny, pobl yr un fath â'r Rhufeiniaid a phethau felly.

Roedd triongl glas yn cuddio'u gwalltiau.

Roeddwn i'n gwybod fod plas ar yr ynys, ac mi ddes i'r casgliad fod Eds yn cuddio yno.

Roedd y ddau wedi cuddio'n dawel yn y gwait yn y stabl, ac roedd he bron yn hanner nos pan sylweddolodd y rhieni beth oedd yn digwydd.

Mae'r awyrgylch hiraethus a'r ffordd rwydd o drin paent yn cuddio cyfansoddiad delicet o ofalus lle mae llygaid yr edrychwr yn cael ei arwain mewn cylch o gwmpas y das.

A ellir cuddio'r graith?

Mae cuddio rhan o brofiad yn anonestrwydd, ac felly'n anfoesol.

Ond, ar yr un pryd, y mae rhywbeth gwrthnysig yn y ffordd y mae'r awdurdodau yn Lloegr yn mynnu cuddio'r wybodaeth am bolisi%au'r blaid oddi wrthym.

Mae'r ail stori yn dechrau wrth iddi hi a'i mam-gu fynd am wyliau i Blas yn y gogledd sy'n cuddio ambell i gyfrinach.

Holltasai cwmwl glaw yn y prynhawn, ac yr oedd y glaw wedi disgyn yn genllif ar y ty nes cuddio llawr yr adeilad â llaid hyd at y migwrn.

Roedd sŵn y pistyll a thywyllwch y nos wedi cuddio fy nyfodiad.

Cofiai'r wynebau hynny'n awr, yn arw ar yr wyneb ond yn cuddio llawer o hynawsedd.

Nid yw'n syndod, efallai, fod Kennedy a'i gefnogwyr wedi ceisio cuddio'r ffaith ei fod yn dioddef o'r afiechyd hwn, er iddynt fod yn ddigon parod i gyfaddef ei fod yn dioddef llawer gan nam poenus yn ei gefn.

Dydy hi ddim yn rhwydd - falle bod hi'n rhwydd iddo fo, ond dwi'n siwr mai crefft yn cuddio crefft ydy hi yn ei hanes o.

Cafodd hyd i ragor o bapurau Sonia Lloyd fodd bynnag a methai'n lân â deall pam nad oedd y rheini'n cynhyrfu Watcyn Lloyd a pham nad oedd arno unrhyw awydd cuddio'r rheini rhagddi.

Fe fu ambell filwr yn help ymarferol mawr yn benthyg lifrai i ddau ohonom gael teithio gyda nhw ac yn ein cuddio yng nghefn eu cerbydau ambell dro.

Nid posibl cuddio na rhagoriaethau na diffygion Seren.

Rwy'n siŵr y byddai'r cwmni%au drama yn falch yn ogystal â'r gynulleidfa sy' ceisio cuddio eu hembaras wrth sylweddoli cyn lleied sy'n cefnogi.

Trafodir pynciau megis unigrwydd, y berthynas rhwng pobl, dyhead unigolyn i gael ei dderbyn, cuddio teimladau a dylanwad y gorffennol ar y presennol.

Yn “l yr hanes roedd y Brenin Arthur wedi cuddio mewn ogof yn y clogwyn pan oedd yn dianc ar “l colli brwydr.

Bu'r ddau ddyn yn cuddio yn atig y fflatiau am yn agos i bymtheg awr, yn aros am gyfle i roi cynnig ar eu cynllun mentrus.

'Cedwais gyfres o wyddoniaduron a'u cuddio nhw yn y creigiau ar lan y môr.

Mi fedr lleidr guddio ei edrychiad a newid swn ei lais, ond fedr o ddim cuddio rhywbeth fel cloffni." "Ond, dydwi ddim yn deall," meddai Catrin Williams.

Fy chwaer, Morgana, gall hi weld ble maen nhw'n cuddio ar unwaith.

Yr un oedd y gân, neu ganeuon, ymhob man, a dyma nhw fel y cofiaf heddiw: 'O meistres fach annwyl A siarad yn sifil Calennig os gwelwch yn dda, Yna llwyddiant i'r gwydde A'r moch a'r ceffyle A hefyd i'r defed a'r da.' Os byddai seibiant go hir cyn i ffenestr y llofft gael ei hagor fe fyddem yn canu'n uchel a chyflym: 'Os ych chi'n rhoi, Dewch yn gloi Ma' nhrad i bron â rhewi.' Mewn ty arall, neu fferm arall, fe fyddai'r gân yn wahanol rhywbeth fel hyn: Mae'r hen flwyddyn wedi mynd Wedi cuddio llawer ffrind, O!

Mae rhywun wedi eu cuddio yn ddiweddar.'

Yr hyn yr ydw i yn amheus iawn ohono yw'r athrawon hynny sy'n gwrthwynebu'r syniad yn ddiamod achos mae gen i ofn mai cuddio yn y tai bach y byddan nhw pan fyddwch chi'n chwilio am help i symud cratiau Rover.

Maen nhw'n dal i gredu ym metamorffosis y teigr-ddyn sy'n cuddio yn ei ogof pan ddigwydd y trawsffurfiad syfrdanol.

O dan bentyrrau o rwbel a chwyn nid nepell o Landeilo roedd cyfrinachau anhygoel yn cuddio: twnnel ywen hynafol, gardd bwll, gardd glwysty fendigedig a gardd furiog syn cael ei gosod gan y dylunydd garddio byd enwog Penelope Hobhouse.

Hwy fu'n gyfrifol am y glosau a'r esboniadau a'r sylwadau o bob math a ychwanegwyd ato nes cuddio geiriau gwreiddiol y Beibl o dan haen drwchus o sylwebaeth.

Taflwr crwyn banana ymenyddiol oedd y dyn, ac wrth ei fodd yn cuddio i gael gweld y boen a ddeilliai o'r llithriad.

Roedd ei wallt hir a'i farf drwchus yn hanner cuddio'i wyneb a'r creithiau arno'n dangos iddo fod mewn ymladd ffyrnig.

Ac mae'r trwch o golur yn cuddio ymennydd chwim a chalon fawr.

A be syn gwneud Sanata da - wel, rhaid ichi fod yn dew wrth gwrs a chan fod barf Santa yn cuddio y rhan fwyaf o'i wyneb mae bod a llygaid bywiog yn hynod bwysig.

Beth bynnag, roedden ni'n gwybod hanes cefndir Prys Edwards wrth gwrs, a phenderfynwyd gwylio Glantraeth rhag ofn mai yma yn ei gynefin roedd o'n cuddio.

Wel, rhwng hynny i gyd a'r ffaith fy mod i wedi gweld y golau nos Sadwrn, roedden ni'n meddwl yn siwr fod rhywun yn cuddio ar Graig Ocheneidiau yn rhywle." Gwrandawodd yr arolygydd ar Owain yn disgrifio'r fflachiadau o'r ynys.