Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

culni

culni

Cyfeddyf i Blaton alltudio'r beirdd o'i wladwriaeth oherwydd 'anfoesoldeb eu disgrifiadau o'r duwiau', ond am farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, doedd dim culni ar ei chyfyl; eithriad oedd cael moesolwr fel Siôn Cent.

Ceir enghreifftiau ddigon ganddo o'r modd yr anwybyddwyd ef a'i gynulleidfa a'i fudiad oherwydd culni a rhagfarn, ac fel y gwrthodai cylchgronau enwadol eraill roi gofod i hysbysebu cyfarfodydd a syniadau, heb sôn am gyfle i amddiffyn safbwynt a chael chwarae teg mewn dadl.

Nid wyf yn honni bod y sefyllfa yn hollol yr un fath yng Nghymru ag yn Lloegr, ond y mae'n amlwg, serch hynny, fod ysgrifenwyr Cymru hwythau, er gwaethaf eu 'culni' a'u 'rhagrith', yn gwbl barod i drafod problemau rhywiol.

Aeth culni crefyddol y ganrif ddiwethaf yn gulni cymdeithasol ddiwedd y ganrif hon.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.