Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwblhau

cwblhau

Ar gyfer pob pwnc a arolygir, mae'n rhaid cwblhau taflen grynodeb ar bwnc a'i chyflwyno fel rhan o Gofnod o Dystiolaeth yr Arolygiad.

Os byddwch yn absennol rhwng un a saith niwrnod calendr byddwch yn cwblhau tystysgrif eich hunan ("Self Certificate%) i nodi'r rhesymau am eich absenoldeb.

Bu hon yn flwyddyn arwyddocaol i BBC Cymru gyda chynlluniau ar gyfer darllediadau'n ymwneud â sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu cwblhau, a'r goblygiadau ehangach sydd i ddarlledu o ganlyniad i greu'r corff newydd.

mae'r gôlwr Mark Walton wedi cwblhau ei drosglwyddiad i Gaerdydd ar gytundeb dwy flynedd.

Dyma rai o'r newidiadau sydd yn angenrheidiol o fewn y metamorffosis as mae'n angenrheidiol i'r cyfan o'r newidiadau fod yn bresennol ac wedi eu cwblhau cyn yr adwaenir yr ammffibiad.

Mae'r gweithwyr yn cwblhau tasgau sydd o fewn eu cyraeddiadau fel unigolion.

Fe welwch y bydd y cofnod hwn yn ddefnyddiol pan fyddwch yn cwblhau eich cynllun gweithredu.

Ni fydd cyfnodau o orffwys rhwng dau gyfnod gwaith ar yr un ymrwymiad yn llai na deuddeng awr fel arfer, heblaw am achosion o argyfwng fyddai'n atal cwblhau'r gwaith a rhoddir ystyriaeth lawn i'r pwysau gormodol a allai fod ar yr Artist o ganlyniad i gwtogi ar y cyfnod gorffwys.

Mae'r diweddglo rhethregol yn cwblhau'r broses o dderbyn y farwolaeth trwy ffarwelio'n ffurfiol â'r gyfathrach a fu rhwng y bardd a'i fab, gan gyrraedd uchafbwynt hynod effeithiol gyda'r cyfarchiad syml a thyner, 'Siôn fy mab'.

Dyma'r pethau bach sy'n cwblhau'r darlun o fywyd cyfnod.

Mae Nerys Fullerlove, sydd wedi cwblhau ymchwil ar Rover, yn gweld fod cynnig Mr Towers a chonsortiwm Phoenix yn mynd i fod yn obeithiol am ddau reswm.

* cwblhau astudiaeth achos/ffurflen talfyriad lleoliad.

Realiti'r sefyllfa yw bod na fesur yn cwblhau'r camau olaf yn Nhŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd a all labelu pob un aelod o Gymdeithas yr Iaith yn derfysgwyr, ynghyd ag aelodau nifer fawr o fudiadau protest di-drais cyffelyb.

Ar fin cwblhau cwrs coleg i fod yn athrawes ysgol gynradd.

Wedi i'r cartrefi newydd gael eu cwblhau, cynhelid pleidlais yn y swyddfeydd a'r ffatrioedd i benderfynu pwy ddylai fyw ynddyn nhw.

Roedd y llanw'n uchel, dim golwg o'r mwd, a mastiau cychod hwylio yn cwblhau darlun dymunol tu hwnt.

Bydd amseriad y gwaith ei hyn yn dibynnu ar sawl ffactor -cwblhau yr angenhenion statudol, prynu tir ac ar yr arian fydd ar gael ar gyfer y gwaith.

Cwblhau rheilffordd Cwm Rheidol.

* cwblhau ffurflen werthuso'r Gwasanaeth Lleoli Athrawon ac anfon copi at eich trefnydd.

Asesir gwaith y myfyrwyr ar y cwrs ar ôl cwblhau'r holl elfennau canlynol:

Ar ddechrau'r nofel, mae hi ar fin gadael yr ysgol ar ôl cwblhau ei harholiadau lefel A.

Un "jig-saw% mawr yw'r byd, a'r gwyddonydd yn rhoi'r darnau at ei gilydd nes cwblhau'r darlun.

Isod crynhoir gwybodaeth am nifer a natur y projectau hynny sydd heb eu cwblhau:

Disgwylir asesiad o werthiant ac o ddefnydd y cynllun cyn cwblhau'r gyfres gyfan

Ond, mae gobaith bod y Swyddfa Gymreig yn bwriadu dechrau'n fuan ar y gwaith o adeiladu ffordd newydd rhwng Dinmael a Thy Nant i osgoi Treoson y Glyn, gan fod yr holl drefniadau statudol bellach wedi'u cwblhau.

Ar gyfer arolygu dosbarthiadau o blant dan bump oed, dylid cwblhau un daflen grynodeb.

Gobeithid cwblhau Adolygiadau Meirionnydd cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fis Mehefin.

Adran Tri - Cwblhau eich lleoliad

Dylai'r cyrsiau fod wedi'u cwblhau erbyn mis Mehefin.

Efallai y byddai'n fuddiol cwblhau'r ffurflen grynhoi a lledaenu'r wybodaeth hon.

Gellir cwblhau'r gwaith o blannu'r basgedi hyn.

Os, drwy'r cyfryw salwch neu anallu, nad yw'r Artist yn gallu cwblhau ei waith gall y Cynhyrchydd derfynu Cytundeb Gwaith yr Artist drwy dalu i'r Artist yr holl daliadau sy'n ddyledus hyd at ddyddiad y salwch neu anallu.

Mae BBC Radio Cymru wedi cwblhau cyfres o ganllawiau newydd a rhestr eirfa i gyflwynwyr.

Dylid cwblhau'r taflenni yn unol â'r canllawiau a ganlyn.

Cwblhau adeiladu Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.

Wedi cwblhau'r gwaith yn Carneddi bydd yr adeiladwyr yn symud ymlaen i Gerlan.

Daeth newyddion y bydd Gogz yn cwblhau eu halbym cyn hir o dan oruchwyliaeth Richard Jackson sef cynhyrchydd Big Leaves ac mae disgwyl y bydd yr Ep yn cael ei rhyddhau yn y dyfodol agos - edrychwn ymlaen at hynny.