Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwbwl

cwbwl

Drwy lwc iddi hi mae Reg wedi maddau am y cwbwl.

Y cwbwl dwi'n obeithio yw y gwnawn ni gyrraedd y diwedd.

Y cwbwl sy raid ei wneud ydi...'

Hwyrach mai dim ond teidiau oedd gan y nofelwyr: wedi'r cwbwl dim ond gyda Daniel Owen yn wythdegau'r ganrif ddiwethaf y dechreuwyd sgrifennu nofelau o ddifri yn Gymrag, ond roedd yna draddodiad hŷn o sgrifennu cofiannau y gellid tynnu arno.

A dyna'r tro cyntaf i gymysgedd o deimladau fynd ar draws ei gilydd þ siom a hiraeth, ac yn fwy na'r cwbwl tosturi am fod breuddwyd rhywun arall wedi'i ddinistrio þ er mai dim ond berfa oedd o.

Wedi'r cwbwl doedd ond ychydig amser er geni Ann.

Maen arwydd eithaf trist on hamserau i gymaint o bobol ruthro i agor neges yn dweud hynny oddi wrth rywun cwbwl ddieithr.

Mae pynciau teuluol yn amlwg iawn, pethau fel geni a marw, profiadau crefyddol personol, y bygwth niwclear, - a'r cwbwl wedi eu lleoli'n gadarn yng nghynefin yr awdur ei hun.

Tu ol i'r holl broblemau hyn mae problem arall, y fwyaf sylfaenol o'r cwbwl yn fy nhŷb i, sef problem y Rhwyg Ieithyddol - problem yr iaith.

Fel y bydd mis Ebrill yn tynnu at ei derfyn fe fydd pawb yn ceisio cau'r sŵn allan o'u tai ac yn stwffio wadin i'w clustiau, ond y mae'r cwbwl yn ofer bob blwyddyn.

Penderfynodd Teg faddau'r cwbwl iddi ond 'roedd Cassie yn disgwyl plentyn Huw.

Ac wedi'r cwbwl, roedd dylanwad Fenis ar Sisili yn drwm.

Yn anffodus, un penwythnos, buodd y cwbwl bron â throi'n sur arnon ni.

A wy'n glust i'r cwbwl.

Wedi'r cwbwl, onid RS Thomas yw'r llenor mwyaf yng Nghymru heddiw, a Saesneg, er mawr ofid iddo, yw ei gyfrwng ef.

'Ond bydd tîm ifanc ar y cae 'da ni heno a'r cwbwl rwyn ddisgwyl amdano fel rheolwr y clwb yw ymdrech gant y cant.

Y cwbwl oedd ynddo oedd crys nos, brwsh dannedd, taclau shafio a phâr o slipers.

Ond cyn imi gael amser i gerdded ar draws yr ystafell a chyrraedd ei phen pella yr oedd y cwbwl oll wedi diflannu.

Wedi'r cwbwl yr oedd y Maer yn dod ac mae meiri yn Ffrainc yn bobol bwysig.

Ceisiodd Lisa fyw gyda Dic am gyfnod ond 'doedd cyd-fyw ddim yn hanner cymaint o sbort ag affêr a chwalodd y cwbwl yn fuan wrth i Lisa ddychwelyd at Barry John a'i dwyllo yntau hefyd.

Gwantan iawn oedd record Llanelli yn y gême yn erbyn Caerdydd--wedi'r cwbwl, dim ond un gêm ro'n ni wedi'i hennill mewn pedair blynedd ar ddeg, ac roedd hwn yn gyfle rhy dda i'w golli, er mwyn dechre unioni'r cydbwysedd.

'Ta beth, wy'n gweld y cwbwl fan hyn.

Aeth Thomas cyn belled â phadog y cesyg magu i chwilio, ond y cwbwl a welodd yno oedd bod rheini wedi'u dychryn i ffitiau, eu llygaid yn llydan agored ac yn laddar o chwys pob un.

Roedd y cwbwl ar dâp - y dagrau, y gweiddi, menyw'n llewygu dan y gwres a'r emosiwn, wynebau oer a gynnau cadarn y milwyr Israelaidd, a baner y wladwriaeth Iddewig yn chwifio'n herfeiddiol ar dir y daeth yn amlwg imi nad oes ganddynt y bwriad lleia' o'i ddychwelyd i'w wir drigolion.

Doedd dim angen poeni, mewn gwirionedd, gan fod y cypyrdde yn y gegin wedi'u hadnewyddu, a finne wedi ailbeintio'r cwbwl; iddyn nhw, mae'n rhaid bod fy stori yn ymddangos yn orddweud mawr.

Ond tra oedd Llanelli yn dal yn y gêm wrth flaene eu bysedd, cafodd y cwbwl ei wyrdroi gan un symudiad cryf gan y blaenwyr, a Tommy David yn arddangos ei fedr a'i gryfder wrth garlamu dros linell gais Castell Nedd i sgori pedwar pwynt.

Ydy'r grant yn ddigon i dalu'r cwbwl o'r costau, e?" "Wel, nid y cwbwl efalla', ond..." "A pheth arall!

Er bod y rhai fu'n gyfrifol am hyn wedi mynd bellach, y mae'r ethos yn parhau.' ' Gwêl Gwyn Chambers fai ar Gyngor y Coleg i raddau helaeth hefyd: "Dwi'n teimlo y dylai rhai o'r aelodau lleyg fod wedi sefyll i fyny yn erbyn yr academyddion mewn blynyddoedd a fu a pheidio â derbyn y cwbwl a ddywedwyd wrthyn nhw'n ddigwestiwn.

Roedd o'n mynd i drwshio tolynod y giât lôn, rhoi giatia newydd ym mhob cae, cilia concrit i ddal pob giât a'r cwbwl yn cau heb linyn bêl!

Ta beth, wy'n gweld y cwbwl fan hyn.

Mae'r cwbwl y tu mewn i mi.

Iesu oedd 'i holl fyd e, a phan groeshoeliwyd Iesu, teimlodd Tomos golled bersonol, yn fwy na'r lleill; ei hapusrwydd, ei obaith a'i hyder yn ffradach y cwbwl ar ben.

Mae sylwadau'r Gymdeithas yn arbennig o berthnasol gan ein bod ar ganol ymgyrch o weithredu uniongyrchol i sicrhau fod y colegau addysg bellach yng ngorllewin Cymru yn dod yn sefydliadau cwbwl ddwyieithog.

Mae'n rhyfedd beth ma' dyn yn ei wneud yn ei hyrtrwydd ambell dro--ro'n i'n noethlymun hollol, wedi'r cwbwl!

Pam na ddylwn i ei gofleidio wedi'r cwbwl?

Ychydig iawn o gwsg a gefais y noson honno, wedi'r cwbwl, nis gwyddwn oedd Mr Bates hyd yn oed yn Dori!

Dechreuodd o leiaf rhai o'n harweinyddion amau ein syniadau rheibus gorllewinol - prin iawn yw'r rhai sy'n ymfalchi%o bod ein cyndadau (a Chymry yn eu plith), er enghraifft, wedi cwbwl ddileu llwythau a gwareiddiadau eraill yn Tasmania a De a Gogledd America.

Yr oedd un ferfâd o dail yn gwneud tocyn cyfan, a'r cwbwl fyddai eisiau ei wneud ar ôl cyrraedd y cae efo'r llwyth fyddai cerdded pedwar ne bum cam a gofalu cadw'r rhes yn union, wedyn lympio'r ferfa a gadael un tocyn arall at y cyfanswm, ag ôl sgwar gwaelod y ferfa ar ei ben.

Wedyn y cwbwl sy eisio'i wneud ydi codi un o'r carpedi teils yn y gongol bella, uwchben llofft Modryb, a chrafu'r llawr efo siswrn neu rywbeth.

Rydw i'n cael talu am y cwbwl efo'r cerdyn a does dim eisiau gwario prês o gwbl.

Clywed y cwbwl 'fyd.