Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwestiwn

cwestiwn

Qualified Architects.' Ac roedd y ddau a'u bys yn union ar byls pethau lle'r oedd lliw a llun a diwyg mewn cwestiwn.

Ac i brif arweinydd y mudiad, John Henry Newman, yn arbennig, datblygodd hwn i fod y cwestiwn pwysicaf oll.

(ii) Adroddiad y Dirprwy Brif Swyddog Cynllunio yn egluro nad oedd yn hollol eglur o'r cwestiwn os 'roeddynt yn cyfeirio at geisiadau tu fewn y rhiniogau neu at geisiadau y tu allan i'r ffîn neu'r rhiniog neu'r ddau.

Ymhlith y rhai fu'n cynnig ateb y cwestiwn oedd y seiciatrydd Dr Dafydd Huws a gynigiodd sawl math o berson, gan gynnwys yr ysgolfeistr a'r actor.

Ychwaneger at drwch o streiciau drwch o eira, ac yn sgil hynny, cyfyd cwestiwn arall.

Anwybyddodd William Huws y cwestiwn,lluchiodd y ddwy stemar ogleuog i gyfeiriad y lle tân a'i fflatwadnu hi am y llofft gefn.

Mae'r cwestiwn yn amserol i ninnau yng ngwledydd Prydain hefyd yn awr fod awdur o Ganada wedi cipio Gwobr Booker unwaith eto.

Pe baech wedi cael cwestiwn ar Owain Glyndwr, dyweder, neu Williams Pantycelyn, neu O.

Nid wyf am anghytuno ag ef, gan nad yw'r cwestiwn a ydyw casgliad o weithiau'n ffurfio llenyddiaeth neu beidio yn un ystyrlon i mi.

Mae cwestiwn dylanwad yn rhwym o wynebu unrhyw hanesydd llên sy'n ymwneud â'r 'rhieingerddi' ac nid yw'n syn ei gael yn dangos yr un math, onid yr union un gochelgarwch â T Gwynn Jones wrth ei ateb.

Ond un cwestiwn bach cyn ffarwelio, pa hwyl hyd yn hyn?'

'Be wnawn ni efo nhw yw'r cwestiwn.'

"I ble?" fyddai cwestiwn y cyfaill.

Erbyn amser cychwyn i'r cyfarfod yr oedd gennyf bwt o anerchiad, ac nid oedd y siarad yn blino dim arnaf, ond crynwn yn fy esgidiau rhag ofn i rywun of yn cwestiwn.

"Ai John ydy e mewn gwirionedd?" fyddai cwestiwn rhai wrth iddynt wrando arno.

Cwestiwn sylfaenol yn 'Adfeilion' yw: pwy yw'r adroddwr, neu'r sylwedydd?

Mae'n cynnig rhai atebion i'r cwestiwn "Pam?" yn hytrach na "Phwy?" ac yn ddwy awr o fyfyrdod digon boddhaol ar gwestiwn llosg (sori, mae nhw'n slipo mas ambell waith).

"Ddaw Emrys allan i chwarae?" oedd y cwestiwn a glywais yn llais Capten, a neidiodd fy nghalon gan lawenydd.

"...?" oedd y cwestiwn a daflwyd ato un tro gan ryw ohebydd neu'i gilydd.

Thema bwysig yn yr adran hon yw cwestiwn ymagweddu.

Nawrte, y cwestiwn oedd: pa droseddau a gyflawnid?

Cyn i chi anfon eich cwestiwn, cofiwch y medrwch chi chwilio am yr ateb yn syth trwy edrych ar gwestiynau gan fyfyrwyr eraill.

Dyma'r cwestiwn pwysicaf i unrhyw un sy'n gwneud rhywbeth efo'r celfyddydau.

Gwaetha'r modd, nid yw'n bosibl cael ateb i bob cwestiwn diddorol o?r fath !

Cyn mentro i ateb y cwestiwn yn fanwl, efallai y dylem ei osod yn ei gyd-destun.

Cytunwyd i'w holi â'r cwestiwn oesol, "A oes Duw?" Heb eiliad o betruster daeth yr ateb.

'Roedd y Prifeirdd Geraint Bowen a Dic Jones wedi gallu creu portread rhamantaidd, delfrydol ac oesol-gadarn o'r amaethwr a'i fyd, ond erbyn hyn rhaid oedd gofyn y cwestiwn: 'Tra bo dynoliaeth a fydd amaethu'? Mae Ceri Wyn Jones yn ymdrin â'r gofidiau a'r anawsterau a oedd yn llethu ffermwyr ar ddiwedd y ganrif, baich a oedd yn drech na llawer ohonynt.

Ac ystyried natur dybiannol y cwestiwn, nid yw'n syndod efallai fod tuedd i'r atebion a gafwyd groesddweud ei gilydd; ac nid oes modd felly ddod i unrhyw gasgliad pendant ar sail yr astudiaethau hyn.

"Mae o wedi gofyn cwestiwn syml ichi, atebwch o wnewch chi?" "Rwy'n gobeithio nad ydych chi'n cael eich dylanwadu gan benboethiaid anaeddfed fel y ferch yma Alun," meddai'r twrnai.

Cwestiwn naturiol i'w ofyn ydi paham eu bod yn mudo pob blwyddyn o Affrica yn y Gwanwyn.

Ac yntau'n dod o'r Rhondda ac wedi bod yn athro yn Ysgol Rhydfelen am flynyddoedd, roedd John Owen eisio wynebu'r cwestiwn o agwedd y bobol ifanc at yr iaith.

Ac y mae hyn yn codi cwestiwn ynglyn â'r dyfyniadau o weithiau Llwyd.

Dywedais nad oeddwn yn barod i ateb y cwestiwn.

Erbyn inni ddychwelyd i'r fan y buasem yn holi ynghylch diogelwch y twnnel, yr oedd un o'r ffermwyr ieuainc, a ddywedasai wrthyf ei fod wedi prynu pedair erw a hanner o'r trac, yn trafod picwarch ryw ganllath oddi wrthym a gwaeddais arno'r cwestiwn pa ddefnydd y bwriadai ei wneud o'r llain hirgul a brynasai.

Yr unig anhawster ynglŷn â'r rheiny oedd nad ydoedd yr Heddlu eto wedi'u dal, ond cwestiwn arall oedd a ddylid eu herlyn am ddwyn y corff pan oedd yn amlwg na wyddent am ei fodolaeth.

Dyna'r cwestiwn.

Mae'r cwestiwn yn un o arian - roedd - - yn awyddus i glywed ymateb Cyfle, y cyflogwr a'r myfyriwr neu'r hyfforddiedig wrth asesu.

Yng Nghaerdydd neithiwr, 'roedd Undeb Rygbi Cymru'n cyfarfod i drafod, ymysg pethau eraill, strwythur cystadlaethau'r tymor nesa, nifer y clybiau fydd yn y cystadleuthau hynny, a'r cwestiwn o glybiau'n esgyn a disgyn i'r Prif Gynghreiriau y tymor ar ôl nesa.

Mewn arolwg diweddar a wnaed o'r pwnc cododd Martin a Flemming y cwestiwn 'A yw eu darganfyddiadau yn rhoi hawl gwirioneddol i archaeolegwyr tanfor eu galw eu hunain yn archaeolegwyr?' Er mwyn ateb y sialens hon yn effeithiol rhaid pwyso a mesur y dulliau a ddefnyddir heddiw mewn archaeoleg môr yn ôl y meini prawf a dderbynnir gan archaeolegwyr modern, a hefyd yn

Bydd haneswyr y dyfodol yn gallu ateb y cwestiwn!

Yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos ddiwethaf bu i Dafydd Wigley ofyn cwestiwn ynglŷn a diwygio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Daethpwyd i sylweddoli'n fuan iawn fod athrawiaeth y ddwy natur yn angenrheidiol ar gyfer ateb y cwestiwn hwn.

yn sicr bydd effeithiau colli'r gêm hon yn bell-gyrhaeddol a'r cwestiwn mawr sy'n codi yw'r un ynglŷn a dyfodol terry yorath.

Trafodwyd yn ddwys beth fyddai'r cwestiwn gorau i'w ofyn iddo gyntaf.

'Nid dyna'r cwestiwn.

Ond, y cwestiwn mawr oedd pa drosedd a gyflawnwyd gan y teulu oedd ar wyliau.

Cyfyd cwestiwn arall yn sgil hyn: onid moethusrwydd braidd, felly, yw cynnwys dwy ysgrif yr un ar 'Mair Fadlen' ac ar 'Marwnad Syr John Edward Lloyd'?

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth cwestiwn addysg a'r famiaith yn bwnc llosg ymhlith mwy nag ugain o genhedloedd diwladwriaeth yn Ewrop.

Y cwestiwn mawr sy'n codi ar adegau fel hyn yw, pwy ydi eicon yr eicon?

Ac y mae edrych tros droednodiadau gwerthfawr ei lyfr yn codi cwestiwn reit ogleisiol mewn perthynas â'i bryder y gall y traddodiad Cristionogol yng Nghymru fod yn tynnu ei draed ato.

Dylid ystyried y cwestiwn hwn mewn tair ffordd.

Cwestiwn a wnâi i Rhian wingo'n feddyliol bob tro y byddai'n ei glywed!

Ac os oes gennych chi stori i'w dweud y mae'r posibilrwydd o'i dweud yn gymaint mwy - ond y cwestiwn ydi a oes gennych chi rywbeth gwerth i'w ddweud.

"Beth ddiawl rydych chi'n ei wneud yma?" Roedd y cwestiwn mor annisgwyl o arw fel na allai ateb.

A'r cwestiwn ar wefusau pawb wrth gerdded o amgylch oedd "Wyt ti'n cofio.

Credaf mai'r cwestiwn cyntaf oedd bwysicaf.

Ond cyn gadael, mi ddylwn ofyn un cwestiwn.

I ateb y cwestiwn bwn, y mae'n rhaid dyfalu beth fyddai wedi digwydd petai'r llywodraeth heb ymyrryd, a chymharu cwrs tybiannol yr economi yn absenoldeb ymyriad llywodraethol â chwrs hanes.

oedd cwestiwn Kate, y plentyn hynaf.

Ni ellir ateb y cwestiwn hwn heb yn gyntaf nodi'r priodweddau sy'n angenrheidiol i unrhyw doddiant biolegol.

Dyna, felly, grynodeb o'n gwybodaeth am ffurf siliwm ac, wrth gwrs y cwestiwn pwysig bellach yw beth mae hyn oll yn ei ddweud wrthym am beirianwaith symudiad silia?

Ceisio canfod ateb i'r cwestiwn hwn yr oedd Reffaris (Eryri a Tonfedd/S4C) nos Sadwrn.

Pwy oedd Gwenynen oedd y cwestiwn amlaf a glywyd.

Ynglŷn â phob cwestiwn o natur grefyddol mynegwyd difaterwch enbydus.

Cwestiwn ofynnwyd imi droeon ar ôl dechrau'r flwyddyn hon oedd ynglŷn â thorri'r lawnt yn y gaeaf.

Hyd y gwn, ni chyhoeddodd Gruffydd erioed unrhyw drafodaeth benodol ar y cwestiwn 'beth yw hanfod bodolaeth cenedl?' , cwestiwn a ddaeth yn amlwg iawn yng Nghymru yn y chwedegau.

Os darfu i chi gadw cwestiwn Kierkegaard ar eich cof tra'r oeddwn yn siarad, mi fyddwch wedi gweld ei berthnasedd.

Mae'r cwestiwn yn un teg, a gallwn ymhelaethu ar y mathau ar newidiadau sydd wedi ei gwneud yn anos cynnal yr hen drefn.

Trwy ganolbwyntio ar fframwaith a chynnwys cwricwlwm i blant o bump ymlaen mae cwestiwn digon naturiol wedi codi

Dyna'r cwestiwn a ofynnais i mi fy hun wrth glywed fod Phil wedi mynd i ffordd yr holl ddaear.

atebwch pan ydw i'n gofyn cwestiwn ichi.

Cyn belled ag roedd y dyn yma yn y cwestiwn roedd Cymru'n mynd i gychwyn ennill geme, a hvnny mewn steil.

Cawsant eu disgrifio fel "morwyr di-ail cyn belled ag yr oedd elfennau morwrio a hwylio llongau bychain yn y cwestiwn".

Mewn sefyllfaoedd athro-ganolog rhaid rhoi mwy o ystyriaeth i'r strategaeth a ddefnyddir wrth gwestiynu gan fod y cwestiwn yn gallu bod yn erfyn dysgu effeithiol o'i ddefnyddio'n ddewisol.

Y cwestiwn mawr ydi, ai Rod Richards y ddwy flynedd ddiwetha' ydi'r un fydd yn y Swyddfa Gymreig?

'Rhaid i ti brofi dy hun yn ddyn, trwy deg neu trwy drais.' 'A sut y byddwch chi'n gwybod os bydda i wedi llwyddo?' Pryder ac nid dewrder a barodd iddo ofyn y cwestiwn.

Sy'n codi cwestiwn - pam fod cyn lleied o graffiti Cymraeg ar gael yn y tai bach?

Collais yr ateb - ond rwy'n gobeithio ei fod yn un gwell na'r un a gefais i pan ofynnais i'r un cwestiwn pan oeddwn yr un oed a hi.

Ar ôl dwys ystyried y cwestiwn, penderfynodd llywodraeth Schroder y bydd awyrennau Airbus yn cael eu cynhyrchu ym Merlin cyn bo hir.

Y cwestiwn rwan, i Mr Hunt ac i awdurdodau lleol Cymru.

a ni wn am un cwestiwn addysgol, gwleidyddol na chrefyddol nad oes ganddo wreiddiau dyfnion yn y pwnc hwnnw.

Ym awr y pum cyfrol sydd ar y silffoedd at yr Eisteddfod eleni a chyn belled ag y mae'r fasgedaid hon o stori%au byrion yn y cwestiwn, rydyn ni'n dechrau ar ddiwedd y broses yna ac yn symud ymlaen, dybiwn i, at gyfnod gwahanol eto, cyfnod ansicr iawn ei gyfeiriad a chymysglyd ei natur.

Er enghraifft, y cwestiwn cyntaf a ofynnwn am gwmni yw pa faint o elw y mae wedi ei ennill, a sut y mae hwn yn cymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Fe ofynais y cwestiwn yna oherwydd rydych yn dweud am Dduw yn un o'ch cerddi, "We had a Welsh name for him." Ydych chi'n teimlo fod yr ardal hon yn Seisnigeiddio yn fawr iawn yn ddiweddar?

Er bod lle i ddal fod Traed mewn Cyffion yn rhy gynnil mewn mannau, ac mewn perygl o droi'n gronicl moel, rhaid derbyn yn gyffredinol nad yw Lewis Jones ddim yn yr un cae a Kate Roberts lle mae celfyddyd lenyddol yn y cwestiwn.

'Sut mae cyfloga yma?' oedd cwestiwn Siwsan D.

Er mwyn ceisio ateb y cwestiwn, penderfynwyd hedfan rhai cannoedd o filltiroedd i'r gorllewin, i le o'r enw Gambella.

Sgynnoch chi blant?" Daeth y cwestiwn mor sydyn fel na chafodd JR amser i feddwl cyn ateb.

Y cwestiwn oedd sut, ac ym mha gyflwr.

Y cwestiwn diwethaf a ofnwn fwyaf, gan nad oedd arnaf awydd rhoi curfa i neb.

Mae'r ateb i'r cwestiwn hwn yn bwysig wrth ystyried yr ateb i'r cwestiwn pa bryd y dechreuodd yr un canu ddylanwadu ar farddoniaeth Gymraeg - ond nid llai pwysig na hynny ydyw'r ateb i'r cwestiwn a allai effaith gyffelyb i effaith dylanwad y canu Trwbadwraidd fod wedi ei chynhyrchu gan ryw fudiad barddonol neu gymdeithasol arall.

Yr argraff gynta' yw fod tebygrwydd mawr rhyngddyn nhw i gyd cyn belled ag y mae naws y yd y maen nhw'n ei ddarlunio yn y cwestiwn.

Ar y llaw arall, ni ddyliai technoleg fod yn rhwystr lle mae'r iaith Gymraeg yn y cwestiwn.

Pan welwch gwrs, unrhyw gwrs, holer y cwestiwn hwn.

Ni cheisiodd THP-W ateb y cwestiwn ac erbyn hyn efallai na all neb ohonom ei ateb drosto, ond gallwn roi cynnig arni.

'Deud y bydda i nad oes a wnelo cyfreithiwr ddim â'r cwestiwn a ydi person yn euog ai peidio, dim ond â dilysrwydd y dystiolaeth ymhob achos.'

"Un cwestiwn arall," gofynnais.

Mae'r amrywiaeth hyn wedi arwain at godi'r cwestiwn,mewn rhai achosion penodol, pwy yw'r cyhoeddwr?

Maen rhaid i rywun ofyn - a oedd y Beatles gystal â hynny? meddai rhyw Kathryn Knight yn y Daily Express yr wythnos diwethaf gan deimlon dipyn o hogan, maen debyg, wrth ysgwyddor cyfrifoldeb o ofyn y cwestiwn mawr hwnnw.

Mae'r cwestiwn tymhorol "Ydach chi wedi clywed y gog eleni?" yn rhoi'r argraff ein bod yn weddol hyddysg â mudo blynyddol yr adar.