Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwestiynau

cwestiynau

Y mae achos fel hyn yn ddigon naturiol yn codi cwestiynau moesol dwys iawn.

Mae craffu ar y manylion yn peri syndod - ac yn codi rhai cwestiynau.

Mae'r ffordd o ateb y cwestiynau hyn wedi newid yn gyfangwbl yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Oni bai y gall y Cynulliad sicrhau'r Gymraeg fel iaith swyddogol cyn 2003, bydd cwestiynau go ddifrifol yn cael eu gofyn ynglŷn ag ymrwymiad y corff hwn i'r iaith Gymraeg.

Dyma'r cwestiynau y byddwn yn eu gofyn wrth astudio'r cyfrifon.

Gwylltio efo un dosbarth oedd yn cau ateb cwestiynau.

Camodd Carol oddi wrth y ffôn, ond daliodd i syllu arno an anwybyddu cwestiynau parhaus Owain a'r ffordd yr oedd Guto'n tynnu godre ei sgert.

Nid ei fod ar dân am ateb cwestiynau, nid ar unwaith beth bynnag.

Cawn hefyd ddisgrifiadau manwl o'r ffordd y mae trigolion yr ardal yn ymateb i ddiflaniad Margaret a hanes cyflawn y golygfeydd yn y capel pan gyfyd cwestiynau am ei hymddygiad.

Cwestiynau fel 'Gan bwy, wrth bwy, ac o dan ba amgylchiadau y llefarwyd y geiriau a ganlyn - "Ai gwir yw, y preswylia Duw ar y ddaear?" "Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?" "Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar?" neu - 'Ysgrifennwch nodiadau ar Feibion y Proffwydi, Jehofa Jire, Salome, Cleopas.'

Bu'n gred gennyf erioed nad yw crefydd yn dyfod yn fyw hyd nes bod rhywun yn gofyn cwestiynau ac yn trafod.

Cwestiynau oedd yn procio'r meddwl wrth wylio a mwynhau perfformiad pedwar actor dawnus mewn sefyllfaoedd o wir dyndra ar adegau ac yn llawn hiwmor dro arall.

'W^n i ddim a oedd yna aelodau gwir weithgar yng Nghymru yn gofyn y cwestiynau yn y modd hwn y pryd hynny, ond myfyriwr ymchwil yng Nghaergrawnt oeddwn i, ac yr oedd yno grŵp cryf o bleidwyr.

Yn yr ail act cawn nifer o olygfeydd gwrthgyferbyniol, un o olygfa o'r eglwyswyr yn cynllwynio sut i gasglu camdystiolaeth ac yn gwledda gyda'r ysbi%wyr ar ddechrau'u taith; golygfa arall o Bentre'r Bobol lle mae arweinwyr Ymneilltuaeth yn ymgasglu i weld beth sydd yn digwydd, ac yma y cawn Lywelyn y Bardd yn ffroeni bradwriaeth, a'r Annibynnwr, Davies, yn cymharu'r hyn sydd yn digwydd â hen Frad y Cyllyll Hirion, ac yna ambell olygfa ddoniol lle mae'r ysbi%wyr yn holi plant yr Ysgol Sul ac yn eu baglu â'u cwestiynau, gan geisio tystiolaeth i'w gwneud yn ymddangosiadol dwp, ond lle mae'r plant yn tybio bod yr ysbi%wyr yn rhai twpach.

Mae Gareth Roberts yn llywio'r cwis yn ddiogel ac mae'r cwestiynau, yn ôl arfer cwisiau Cymraeg, yn gymharol hawdd fel nad oes peryg i'r un tim o gystadleuwyr orfod gadael heb wobr o ryw fath.

Y cwbl fydd yn rhaid i chi ei wneud yw ateb cwestiynau dros y ffôn ar y rhaglen ar fore Sadwrn.

Ni wn i beth yw'r ateb cywir i'r holl gwestiynau hyn (er bod gennyf syniad go lew) am nad oes neb yn eu gofyn; ond cwestiynau fel hyn sy'n rhaid eu gofyn os am sicrhau dyfodol i'n hiaith.

Mi gei lonydd bellach." Pan oeddwn yn cael te y prynhawn hwnnw a minnau'n ceisio ateb cwestiynau Mam ynghylch yr ysgol a chelu oddi wrthi hanes yr ymladdfa, daeth cnoc ar y drws.

Y mae cwestiynau'n codi yma ac acw oherwydd mân anghysonderau mewn orgraff a sillafu.

Ar y fersiwn Wyddeleg o Bacha hi Oma neu Blind Date - Cleamhnas - nid y merched syn rhoi cwestiynau bachog i'r bechgyn.

Cwestiynau gwaelodol Mae yna dri chwestiwn gwaelodol i'r sawl sy'n meddwl o ddifri am ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith.

Deellais yn ddiweddarach fod y swyddog arbennig hwn yn hoff o of yn cwestiynau fel hyn er mwyn codi ofn ar y carcharorion.

Yn y Rhagarweiniad trafodir yn fyr y dosbarthau gwahanol mewn Ieithyddiath : (i) Ieithyddiaeth Gyffredinol neu Ddamcaniaethol, yn gofyn cwestiynau cyffredinol, megis, beth yw iaith?; sut y mae iaith yn gweithio?; pa elfennau sy'n gyffredin i bob iaith?

Ie; roedd y rhyddfrydwyr diwinyddol yma yn mynd i'w gilydd pan gyfodid cwestiynau gwirioneddol radicalaidd a bygythiol i sylfeini'r Ffydd.

Rhuai'r cwestiynau hyn yn ei phen.

Nid hanes 'arwrol' a geir yma (er bod arwyr Dylan Phillips yn amlwg ddigon yn y naratif). Ymdriniaeth ddeallus a threiddgar ar ddatblygiad y Gymdeithas yw'r gyfrol hon, llyfr sy'n gorfodi'r darllenydd i fyfyrio'n ddwys uwchben y pwnc a gofyn cwestiynau anodd.

Yn awr cyfyd y cwestiynau a fu'n ffrwtian dan yr wyneb ers blynyddoedd.

Bu'r cwestiynau hynny'n pwyso'n drwm arnaf wrth imi ddal i gnoi.

Sylfaen yr ymwybyddiaeth fodern, meddai, oedd ymdeimlad o annibyniaeth ar allanolion ynghyd â ffydd yng ngallu'r dyn unigol i ateb cwestiynau dyrys bywyd drosto'i hun.

Yr oedd y cwestiynau cyntaf yn ymneud â dosbarthu a thrafod cynnwys y Ffeil Goch.

Efallai y dylid gwneud y cwestiynau ryw 'chydig yn anos er mwyn roi ychydig mwy o sialens i'r cystadleuwyr.

Bydd cyfle nid yn unig i lobïo Aelodau'r Cynulliad o Ogledd Cymru ond hefyd Rhodri Morgan, y Prif Weinidog, sydd yn dod i'r cyfarfod i ateb cwestiynau.

Gan mai gweithio'n y nos yr oedd y dyn ifanc; yr oedd ganddo drwy'r dydd i geisio dod o hyd i ateb i rai o'r cwestiynau a ofynnodd i'r cŵn ffyddlon.

Mae rheolwyr un ysbyty yn awr am godi cwestiynau ynglyn â'u trefn ddiogelwch ar ôl i'r newyddiadurwraig gyrraedd y ward heb i neb of yn dim; yn y ddau achos arall, fe gafodd y gohebwyr eu holi ond of ynnodd neb am brawf gwirioneddol o bwy oedden nhw na pham yr oedden nhw yno.

Ceisiodd Carol gysuro Guto a sicrhau Owain fod popeth yn iawn; yn wir, roedd hi'n falch o fedru ymateb i'w gofynion syml er mwyn hoelio ei meddwl ar y presennol ac ar y fan a'r lle, a thrwy hynny gadw'r cwestiynau ofnadwy draw.

Rhedai'r cwestiynau haerllug drwy ei hymennydd, un ar ôl y llall wrth iddi sefyll yn syfrdan yng nghanol yr orsaf wasanaethau.

Fodd bynnag, 'rydw i am geisio ateb cwestiynau sydd wedi eu gofyn lawer o weithiau i mi - "Ydi dy dad yn un mor ddoniol ar yr aelwyd ag ydi o yn gyhoeddus?" Neu bellach wrth gwrs "Oedd o?" (Ydi mae'n anodd dweud 'Oedd o?' am nhad.

"Droeon wrth feddwl am faes glo'r De ac am lowyr yr wyf wedi eu hadnabod, 'rwyf wedi cael fy hun yn holi cwestiynau am eu lle yn llên y Gymraeg gan ddod yn anfodlon i'r casgliad nad oes iddynt mewn gwirionedd, fawr o le o gwbwl am nad yw'n llenyddiaeth yn siarad cyfaniaith eu profiad," meddai.

Ar y ffordd yn ol i Delhi ar y tren, cael sgyrsiau diddorol ag Indiaid - un wedi bod yn 'UK', a'r lleill, gŵr a gwraig yn eu tridegau, heb fod, ac yn llawn cwestiynau athronyddol am briodasau wedi eu trefnu, Margaret Thatcher, trenau Prydain, ac ati.

Fy hoff gerdd yn y gyfrol yw Pwy? lle mae Selwyn Griffiths yn cyfuno diniweidrwydd cwestiynau plant ƒ hiwmor mewn ffordd hynod o effeithiol.

Am y dywaid ynddo, 'Nad ydyw Crist i'w addoli fel Cyfryngwr'." Serch hynny, y mae achos i amau fod y statws cymdeithasol a roddwyd i'r offeiriad, fel gŵr dysgedig, ac felly fel bonheddwr, yn corddi enaid Hugh Hughes gymaint ag oedd cwestiynau diwinyddol o'r math.

Fel llenyddiaeth a chelf, mae seryddiaeth yn ychwanegu at gyfoeth ein bywydau, yn ateb ein cwestiynau am y sêr a'r bydysawd, ac fe'i hystyrir yn rhan annatod o weithgareddau gwlad waraidd.

Bydd eich dosbarth yn dysgu strategaethau defnyddiol i daclo cwestiynau digon anodd.

Desg Gymysgu Garry Owen yn ateb ein cwestiynau treiddgar!

Roberts ofn i un o'r brodorion, yn benodol Prem Das, mab Gour Charan Das, ofyn cwestiynau ar lawr y sasiwn.

Peidiwch â gwneud i siaradwyr Cymraeg deimlo eu bod yn niwsans am eu bod nhw'n dymuno siarad yn Gymraeg drwy ofyn cwestiynau fel 'Oes rhywun yn mynd i siarad Cymraeg yn y cyfarfod yma?'.

Ni fuaswn yn gofyn cwestiynau fel hyn oni fy mod i'n rhannu eu hanwybodaeth.

Bwriad y rhestr e-bost yw darparu lle i ddysgwyr yr iaith Gymraeg dysgu, calonogi ei gilydd, gofyn cwestiynau, rhannu gwybodaeth, ymarfer, a chael hwyl.

Gyda nifer o gyhoeddiadau ar faterion pur dechnegol y cychwynnodd ar sesiwn cwestiynau llafar y Cynulliad ddydd Mercher.

Nid ydynt i gyd, o bell ffordd, yn medru gweld ergyd y cwestiynau gwahanol.

Mae'r atebion i'r cwestiynau hyn yn weddol gyflawn erbyn hynd ond yn yr erthygl hon nid oes amser i ymdrin ond a rhai agweddau arnynt.

A bod yn fanwl gywir, nid un i oedi o gwbl os oedd modd osgoi ateb cwestiynau'r wasg.

Wedyn sefyll o flaen tân agored (oedd bron a fy nhoddi i!), a rhoi araith o'r frest am hanner awr, ac ateb cwestiynau hanner awr arall.

Nodwn hefyd cyn sefydlu Sianel Pedwar Cymru y bu i rai godi cwestiynau tebyg o ran a fyddai digon o dechnegwyr Cymraeg eu hiaith ar gael.

Nid oedd yn bosibl na gweld y tan o'i achos ef na chael lle i eistedd, a gwnai yntau sbort am ben y beirdd eraill yn y cwmni drwy ofyn cwestiynau iddynt na allent eu hateb.

Bydd y cwestiynau fydd yn cael eu trafod ar y rhaglenni'n ymddangos ar y dudalen hon ac ar Clecs Cymru am 1700 (GMT) a'r rhaglenni byw'n dechrau am 2100 (GMT) bob nos Wener.

defnyddio taflenni gwaith, cwestiynau, gweithgareddau trafodaeth, perthynas i waith ymarferol.

Tair awr o amser yn y bore i ateb cwestiynau ar y Beibl - o ia, y Beibl i gyd o ddechrau Genesis i ddiwedd y Datguddiad.

Manylir ar y math cwestiynau y dylid eu gofyn er mwyn darganfod ansawdd profiadau'r aelodau.

Yr oedd straen y Rhyfel a'i enbydrwydd wedi peri bod y milwyr yn holi cwestiynau dwys ynglŷn â phwrpas bywyd, ond nid oedd hynny wedi eu dwyn ronyn yn nes i'r Eglwys.

Y mae'n eglur na allent roi eu hamser fel y dylid i ganfasio a lecsiyna, a lleddfent eu cyd wybod drwy ymroi i ofyn y cwestiynau hyn mewn ffurf fanwl iawn, ac o leiaf i ystyried atebion.

Gelli ofyn cwestiynau o'r fath yn ddiddiwedd heb gael yr un ateb.

Dewi Llwyd ydy'r cyflwynydd ac mae'n edrych ymlaen at gael cwestiynau neu sylwadau ar bynciau llosg y dydd oddi wrth wylwyr ar-lein y gyfres.

Mae'r cwestiynau'n ddi-derfyn.

Mynnodd rhai ysgolheigion fod awduron y Cyfandir wedi benthyca traddodiadau Celtaidd wrth gyfansoddi eu rhamantau am y ddau gariad, gan gymharu'r rhamantau hynny nid yn unig â'r deunydd prin yn y Gymraeg ond hefyd â chwedlau tebyg yn yr Wyddeleg.' Ar y llaw arall, mae dyddiad ansicr Ystorya Trystan yn ei ffurfiau presennol yn codi cwestiynau ynglŷn â phosibilrwydd dylanwad Ffrangeg ar ddatblygiad chwedl Trystan ac Esyllt yng Nghymru.

Dyma rai cwestiynau ac atebion i gyd-fynd â'r ymgyrch.

Es ato am sgwrs ac mi ddywedodd: "There's no connection, it's just that it's thirsty work driving the bus." Ar ôl gorffen yfed, aeth y ddau ohonom i'r bws a pharhau'r daith - heb neb yn cwyno nac yn holi cwestiynau.

Mae'r rheiny wedi bod yn fwy na chyfarfodydd PR, meddai Gwyn Jones, maen nhw hefyd wedi bod yn gyfle i ateb cwestiynau a thrafod pryderon.

Y peth mwyaf twp heddiw oedd dwy ddarlith gan swyddog o Sgotyn, pryd y llongyfarchodd un o'r serjentiaid ar ei waith yn chwarae ffug-ddrama (rhedeg ar ôl ysbi%wr Almaenaidd ar gefn beic o Castellamare i Naples) a gofyn cwestiynau hurt iddo y byddai plentyn ysgol yn amharod i'w gofyn.

Y mae cwestiynau yn cael eu gofyn yn y senedd am y peth," meddai Cymraes sy'n byw yn Wellington.

Fydd gan y Bwrdd ddim stondin ar Faes yr Eisteddfod ac, yn ôl Eleri Carrog, sy'n dweud ei bod am weld y cwango newydd yn llwyddo, fe ddylen nhw fod yno er mwyn ateb cwestiynau a chwrdd â'r bobol.

Lle byddai ambell i awdur yn gwahardd cwestiynau ar ôl-strwythuraeth, neu un arall efallai'n cau'r drws yn glep ar grefydd, mae'n gwbl nodweddiadol o Wil Sam i fwrw iddi yn syth trwy sôn am beth yn hytrach na haniaeth.

Roedd y diweddar Raymond Williams, yn fwy na neb, yn ymwybodol o'r tueddiad Prydeinig - a Chymreig, afraid dweud - i osgoi gorfod wynebu cwestiynau dirdynnol ein hoes trwy weu mytholeg briodol o'n cwmpas.

Cafwyd prynhawn difyr iawn yn ei gwmni a chafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau iddo.

Efallai bod y cwestiynau hyn yn ddi-angen.

roedd y dyn yn gofyn cwestiynau yn rhy gyflym i debra feddwl yn glir.

pe bai modd sicrhau fod elfennau cyffredin yn y gwahanol haenau i asesu'r lefelau gorgyffwrdd byddai hyn yn fanteisiol ; er enghraifft lle bo hynny'n briodol gallai cwestiynau uchaf un haen fod yn gwestiynau isaf yr haen nesaf.

Gan ei bod hi mor anodd cael atebion i'r cwestiynau hyn trwy'r cyfryngau Seisnig, euthum ati i geisio'r atebion.

Os daw un o'r partneriaid hyn yn Gristion, un o'r cwestiynau cyntaf sydd yn rhaid ei holi felly yw, a oes cymod yn bosibl?