Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwmwd

cwmwd

Yr oeddynt i weld Dad, ac yr oedd yn gwella'n iawn, a byddai'n ôl yn y Cwmwd yn fuan.

Ni pheidiais erioed â chael golwg ar y bedol o fynyddoedd sy'n gefndir i'r cwmwd, a'r rheini'n sefydlog arhosol ar orwel fy mod i ba le bynnag yr awn.

"Neidia ar ei gefn, Deio," meddai Idris, "i ti gael marchogaeth i'r Cwmwd." "Na wnaiff wir," meddai Cadi yn yr un llais yn union â'i mam, "ddim yn ei ddillad gorau." Gafaelodd Deio ym mwng Llwyd a cherdded ymlaen felly.

Eithr ymhlith eu tenantiaid a'u cydnabod yn y sir neu'r cwmwd lleol yr enillodd y bonedd eu parch a'u hawdurdod, a cheir tystiolaeth ddigon i brofi hynny.

O'r cwmwd aethom dros y bencydd a'r rhosydd yn fintai fechan o blant o bedwar cartref i'r ysgol, lle'r agorwyd inni feysydd a bydoedd newydd o oleuni.

Wrth drafod ei ffawd canfyddir yn yr History adwaith Maredudd i chwilfrydedd ei garennydd pan symudodd i'r cwmwd anghysbell hwnnw.

Nid oedd yn hoffi teulu'r Cwmwd yn siwr, ond tybed a oedd mor ddieflig â mentro i'w cartref i'w chwalu, a gwybod bod Dad yn yr ysbyty.

Wrth gerdded tua'r Cwmwd a chario'r parseli neges a ddaeth Huw gydag e, meddai yntau, "Sut fuasech chi'ch tri yn hoffi mynd i Fangor i'r ysbyty i weld eich tad?

Mae'r ymdriniaeth o'r cwmwd fel yr uned oedd yn sylfaen gweinyddu yr arglwydd Cymreig yn ddadlennol yn ogystal a'r un o'r treflannau.

Gofynnwch i Huw fynd â chi i ryw bost of fis ar y ffordd oddi yma." O'r gora, Dad, er rydan ni'n gwneud yn iawn yn y Cwmwd, cofiwch." "Mi wn i hynny, siwr iawn, ond mi fydd Mam o'i cho os na adawn iddi wybod.