Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwningod

cwningod

Prif amddiffyniad cwningod rhag eu gelynion yw eu chwimder a'r ffaith eu bod yn rhybuddio'i gilydd o berygl trwy guro'r ddaear â'u traed a thrwy ddangos y gwyn dan y gynffon wrth ddianc am ddiogelwch.

Yn wahanol i'r cwningod, nid yw ysgyfarnogod yn greaduriaid cymdeithasol sy'n byw gyda'i gilydd mewn daearau.

Rhaid inni gofio na ŵyr amryw o amaethwyr ieuainc a thirfeddianwyr heddiw fawr ddim am y difrod a achosai cwningod gynt.

Anifeiliaid a berthynai'n wreiddiol i diriogaethau o amgylch y Môr Canoldir yw cwningod, ond a gludwyd yma i Brydain gan y Normaniaid.

Lan môr Nefyn?' 'Fuo raid i mi gerddad hannar milltir cyn y gwelis i dy o gwbl.' 'Ty pwy oedd o?' 'Rhyw foi dal cwningod.

Am dri mis a mwy wedi ymsefydlu yn Llangynin, bu Euros a'i frawd iau, Trefor, yn ennill eu tamaid yn dal a gwerthu cwningod.

Ond yr oedd agwedd amaethwyr yn bur wahanol; er mor atgas ac erchyll oedd effeithiau Myxomatosis, yr oedd pob amaethwr cydwybodol a gawsai brofiad o ddifrod cwningod, yn ei groesawu.

Maen nhw'n rhaglenni syn amlhau fel cwningod.

'Roedd John wedi bod yn saethu cwningod efo'r gwn hwnnw yn ystod y bore a gofynnodd i'w dad am getrisen arall gan ei fod â'i lygad ar un wningen ddu.

Nid ar siawns y dewisir lleoliad y twll ac os bydd cae tro neu ardd yn cael ei thrin yn agos at ganolfan cwningod dyna'r lle y dewis y fam guddio'i hepil.

Yn wahanol i'r cwningod, nid yw'r epil yn magu tan y flwyddyn ddilynol.

Gan fod marchnad iddynt yr oedd llaweroedd o bobl yn cael bywoliaeth o werthu cwningod bywoliaeth eithaf bras mewn rhai achosion - ac yn naturiol, nid oedd y clwyf yn achos llawenydd i'r rheini.

Cnydau o bob math yw bwyd cwningod, cnydau megis glaswellt, ydau, rwdins, moron a dail llysiau, ond yn y gaeaf fe wnânt ddifrod mawr ar goed yn ogystal trwy ddirisglo'r pren ac ymborthi ar y rhisgl.

Serch hynny, erys y ffaith eu bod yn rhwym dan gyfraith gwlad i gadw cwningod o dan reolaeth.

Erbyn heddiw, mae cwningod yn prysur adennill eu tiriogaeth ac mewn rhai mannau y maent yn bla unwaith eto.

Y mae cwningod yn ail da i'r llygod mawr yn eu gallu i epilio'n gyflym ac y mae'r golled a achosant i gynnyrch amaethyddol yn arswydus.

Yr oedd y nifer fechan a adawyd yn weddill yn ddigon serch hynny, oherwydd yn fuan iawn ar ôl anterth y clwy yr oedd cwningod ar gynnydd eilwaith.

Y mae gennyf brawf pendant o hynny, oherwydd am rai blynyddoedd ar ôl i'r clwy glirio byddwn yn dod ar draws cwningod gyda nod clust arnynt.