Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwpanaid

cwpanaid

'Roedd popeth mor binco, a finna mor nerfus rhag gneud dim o'i le; y canlyniad i mi droi cwpanaid o de am ben y llian.

Ond efo hanner can cwpanaid o siocled yn ffrydio drwy'i berfedda fo mi fyddai Gruff druan fwy ar i draed nos nag ydio'n barod mae gen i ofn.

Rhyfedd yr ymgeledd a gafodd dynion drwy'r oesoedd gan y gwragedd: Dyma air o un baraita Iddewig hen, hen: "I bob creadur a arweinir y tu allan i'r porth i farw, fe roddir tamaid bach o fygarogl neu sbeis mewn cwpanaid o win i drymhau a marweiddio'r synhwyrau ......

Yn fuan doedd neb i'w weld, felly caeodd y llenni a cherdded yn ofalus i'r gegin i wneud cwpanaid o de a rhywbeth i fwyta iddo ei hun.

Ergyd y ddramodig, yng nghyd-destun Cwpanaid o De gyda Mr Bebb, yw nad oedd gan arweinwyr y Blaid Genedlaethol Gymreig, y pryd hwnnw, nemor ddim diddordeb yn y gwledydd Ewropeaidd lle na siaredid iaith ladinaidd, lle nad oedd yr Eglwys Gatholig yn unbennes eneidiau a lle nad yfid gwin yn helaeth.

I wneud te betys o'r dail, maler yn fân tua dwy gwpanaid o'r dail eu rhoi mewn sosban efo wyth cwpanaid o ddŵr a berwi am un munud.

yn ffodus roedd bar yn y stryd, a phenderfynodd hi gael cwpanaid o goffi a theisen.

Pan ymwelodd Cortez Fawr â llys y Brenin Montezuma - un arall fydda'n gorfod byw heb ei swpar tasa fo'n byw yn tū ni - gwelodd fod hwnnw'n yfed hanner can cwpanaid o siocled y dydd.