Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwpwrdd

cwpwrdd

Steve Eaves fydd yn ymddangos ar y llwyfan, ac mae'r tocynnau ar gael am £4 o Siop Cwpwrdd Cornel, Llangefni ac o Awen Menai, Porthaethwy.

Wrth ochr y beddau roedd cwpwrdd gwydr enfawr a'i lond o benglogau'r trueniaid.

Estynnodd Mr Puw ddalen o bapur o'r cwpwrdd a'i rhoi i Llio.

Bwrdd, ambell gadair, cwpwrdd a gwely, un cul.

Tynnodd y ddau grys ohono'n ofalus a'u cadw yn y cwpwrdd dillad i gael gwared a'r plygion.

Estynnodd ei dorts o'r cwpwrdd-cadw-popeth a chamu tua'r drws ar flaenau'i draed.

Symudodd yn araf tuag at y cwpwrdd lle roedd y bocs pren.

Roedd ynunion fel cegin ffermdy - dresel, cwpwrdd tridarn, tan agored mewn basged haearn bwrw hanner ffordd i fyny'r wal, a goginiai gigoedd a physgod mewn dull barbiciw, crogai anferth o iau bren ar wal arall ynghyd a phob math o daclau gwneud menyn.

Ar ol dod o hyd i'r cwpwrdd awgrymais y buasai'n syniad da rhoi label briodol ar y lle - ac wyddoch chi be?

Dim llygod yn y cwpwrdd eirio eto, gobeithio!

Eiliad yn ddiweddarach ac roedd y tanc dŵr poeth yn y cwpwrdd wrth y stôf wedi chwythu!

Bydd rhai yn darparu lle i'w chadw yn y cwpwrdd ym mlaen eu yng nghefn y garafan, ac eraill yn ei gosod oddi tani.

Taflodd ef i gefn y cwpwrdd sosbenni a throi wedyn a chythru drwy'r pasej.

Camodd Mam o'r stafell ymolchi ac agor drws y cwpwrdd eirio.

Caeodd y bocs a'i ddodi yn nôl yn y cwpwrdd.

Ar ddiwedd gwersi'r diwrnod hwnnw treuliais awr yn cerdded yn ol ac ymlaen yn cario sgis trwm - diwrnod o sgio - i chwilio am y cwpwrdd i'w cadw ynddo dros nos.

Cododd pan ddaethant drwy'r drws, ac wedi eu cofleidio a gwneud yn siwr fod y drws ar glo, tynnodd fap enfawr o'r dref o ddrôr y cwpwrdd.

Wrth iddo agor drôr isa'r cwpwrdd rwyt yn dal dy anadl.

'Mae'n siwr y deudodd o'i stori wrtha chi?' Edrychodd Ibn arno'n hurt: 'Stori pan oedd o'n fach, pan roddodd 'i dad o ar ben y cwpwrdd?

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Teulu'r Cwpwrdd Cornel.