Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwrdd

cwrdd

Felly, y sglyfaeth gwrthryfelgar, ryden ni'n cwrdd o'r diwedd,' taranodd yr horwth yn wawdlyd.

Daeth llawer iawn o bobl i'n tŷ ni i ddechrau, ac wedyn i Bethel, lle'r aethpwyd a hi, ac y cynhaliwyd cwrdd, a'r capel yn orlawn.

A'm gwaith wedi cwpla daeth yn amser i fi ddweud ffarwel i Cape Town, ond roeddwn yn edrych ymlaen at weld fy nheulu unwaith eto, cwrdd â'm cwsmeriaid a dychwelyd i ddysgu Cymraeg.

A yw cynllunio ac ymarfer yn cynnwys asiantaethau a disgyblaethau y tu allan i'r ysgol er mwyn cwrdd ag anghenion unigol?

` Yn fuan wedyn gwahoddwyd T. W. Jones, AS Meirion, a Goronwy Roberts AS i annerch cwrdd a drefnwyd gan y Pwyllgor Amddiffyn yng Nghapel Celyn.

Roeddwn i wedi clywed sibrydion am y mater hwn cyn mynd i UEFA yn Amsterdam, ond yno fe gês i air efo Llywydd De Iwerddon ac oedd on ffyddiog iawn y bysen ni'n cwrdd i fynd ar syniad ymhellach, meddai J. O. Hughes, Llywydd Cymdeithas Pêl-droed Cymru.

Yn y cyfamser, rhaid byw yn Nhir y Cwango a gweld democratiaeth ac atebolrwydd yn chwalu'n chwilfriw o'n cwmpas, a'r gwasanaethau sy'n cwrdd ag anghenion sylfaenol ein cymdeithas yn cael eu gwasgu o bob tu.

Mae Meleri Wyn James hefyd wedi gwneud defnydd da o'i chymeriadau deheuol yn cwrdd â rhai o'r gogledd.

Bwriad y tasglu sy'n cwrdd ym Mhen-y-bont yw lleddfu'r ergyd i'r diwydiant yng Nghymru.

Yn Fiji, mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad, Don McKinnon, wedi cwrdd ag arweinydd y coup" yno yn adeilad llywodraeth y wlad.

Cyn y gellid dwyn mesur ar ei ran gerbron y Senedd i roi hawl iddo greu'r gronfa ddŵr yr oedd yn rhaid cael mwyafrif o'i blaid mewn cwrdd agored.

Y math arall o wybodaeth fyddai ei angen arnoch ydi gwybodaeth ymarferol o nodweddion a defnydd y gwahanol opsiynau, fel y gallech ddewis y model sy'n cwrdd orau a'ch hanghenion cyfredol ac i'r dyfodol.

Diddymodd y Ddeddf hon gategori%au statudol anabledd fel sail ar gyfer addysg arbennig, gan roi system i adnabod anghenion addysgol arbennig disgyblion unigol yn eu lle, ac yna penderfynu ar y ddarpariaeth briodol o addysg arbennig sydd ei hangen er mwyn cwrdd â'r anghenion hynny.

Amcan y cwrdd oedd ystyried cynllun arall a alluogai Lerpwl i gael y dwr heb foddi cartrefi.

Ambell i waith, mewn cwrdd gweddi, byddai Anti yn darllen rhan o'r Ysgrythur ac yn ei egluro, gan ddal ei spectols o flaen ei llygaid gyda'i llaw.

O gofio'r hanes am John Evans o'r Waunfawr yn cyfarfod Indiaid cochion o Gymry Cymraeg aeth un rhigymwr lleol ati i ysgrifennu 'pryddest' yn priodoli profiadau tebyg i D Rhys Jones yn y Wladfa: "Medd Pat, wel dyma ddiawl o waith yw cwrdd ag Indiaid coch y paith."

Pan oeddwn i'n blentyn capel gynt, fe ganwn yn y cwrdd y geiriau hynny sy'n sôn am 'Y Gūr wrth Ffynnon Jacob'.

O ran digwyddiadau Radio Cymru, yr uchafbwyntiau efallai oedd Kevin a Nia'n cwrdd â nifer o blant gorllewin Cymru o ysgolion Penygroes yn Crosshands, Ysgol Llannon, y Tymbl, ac Ysgol Pump Heol yng Nghwm Gwendraeth.

Nansi oedd wedi ngwahodd i yn y Cwrdd nos Sul trwy nhad.

Bydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â Rhodri Morgan yn Transport House, Caerdydd am 3 o'r gloch Dydd Gwener Ionawr 29ain.

'Rwy'n awgrymu eich bod yn dewis lliw pastel, tawel, fel ei fod yn adlewyrchu mwd y cwrdd eglwys'.

Er hynny, byddai ein hynafiaid yng Nghefn Brith yn falch o weld fod y Capel yma o hyd ac wedi ei addasu gogyfer ag anghenion y gynulleidfa sy'n cwrdd yno heddiw, er cymaint yw'r dirywiad crefyddol a ddigwyddodd yn ystod oes y rhai hynaf ohonom.

Bore fory bydd Matthew Stevens yn cwrdd â Tony Drago.

Sefydlu Bwrdd Golygyddol sy'n cwrdd yn fisol.

"Rwy i wedi gweud wrth Rod yn barod y bydden ni'n cwrdd ag e lawr yn y disgo.'

Fi'n cofio'r Beatles yn y swyddfa, ac fe gefais i bip arnyn nhw, ond wnes i ddim cwrdd â nhw, oedd hwnna'n siom ar y pryd".

Mae'r cwricwlwm yn eang ac yn gytbwys, ac mae'n cwrdd â'r holl ofynion statudol.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ffyddiog y bydd yn llwyddianus yn ei dasg gan fod y Pwyllgor Addysg y mae Ms Butler yn Ysgrifennydd iddo yn cwrdd y bore hwnnw.

Maen nhw'n cwrdd bob nos Wener, pob un yn cyfrannu pum peso tuag at gynnal ty yr athrawon Cymraeg.

Roedd yn gryn sialens, ond nawr, 12 mis yn ddiweddarach, gallwn ddatgan ein bod wedi cwrdd â'r sialens a hynny'n deilwng iawn.

Mae'n werth dyfynnu'r paragraff hwn oherwydd mae'n dweud mwy am y gwir bryder ynglŷn ag addysg academaidd ac uwchradd nag y mae cyfeiriadau Iolo Caernarfon (er enghraifft) at y Cwrdd Misol yn haeru mai 'hunan a balchder oedd wrth wraidd' dymuniad Dr Owen Thomas i fynd i Brifysgol Edinburgh.

Gallwn brofi pwysigrwydd yr uned bentrefol trwy gyfeirio at nifer o enghreifftiau e.e.l. Pan unir capeli, gan gynnal gwasanaethau bob yn ail mewn gwahanol bentrefi, tuedda'r mwyafrif o'r gynulleidfa ddod bob amser o'r pentref y cynhelir y cwrdd ynddo e.e.2. Pan fydd plentyn yn cael ei symud - trwy ddewis rhieni - i ysgol pentref arall, tuedda'r plentyn golli cysylltiad cymdeithasol anffurfiol hefyd â gweddill plant y pentre e.e.3. Pan gae'r ysgol, bydd holl blant y pentre'n colli'r ymwybyddiaeth o fod yn griw y pentre wrth fynd i'r ysgol uwchradd ac felly'n colli'r ymwybyddiaeth o berthyn ar y lefel hon.

Mae bod yn Brifweinidog yn waith cyfrifol dros ben ond un o'r manteision yw cael cwrdd â phobl arbennig iawn.

'Ond dyna benderfyniad y Pwyllgor, a fel dwedes i, rwyn meddwl bydd y Pwyllgor Cyffredinol yn cwrdd â'r clybie eto yr wythnos nesa.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwrdd a nifer o aelodau eraill y Cynulliad erbyn hyn yn cynnwys Alun Michael, rhai o ysgrifenyddion y Cabinet a nifer o'r aelodau eraill.

Dichon fod y ddau ŵr ifanc yn adnabod ei gilydd yno, ond ni allwn brofi'n bendant eu bod wedi cwrdd a chyfeillachu yn ystod yr amser yma.

Rydym am barhau i wneud hyn oll, gan adeiladu ar ein hymrwymiad i deledu digidol yng Nghymru a chynyddu'r cyfleoedd ar gyfer cwrdd â phobl wyneb yn wyneb a chlywed eu barn.

'Faswn i'n hoffi cwrdd â'r bachgen, y bachgen sy'n gwitho 'da chi, Mr Huws.' byrlymodd ar ei draws.

Dim ond am wythnos yr oeddwn i yno, ond dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi cwrdd â'r un Beiruti oedd yn meddwl nad oedd yna ddim gobaith ac mi roedd eu balchder nhw yn rheoli'r ffordd yr oedden nhw'n meddwl.

Awgrymodd y dylai Fred wybod bod gan Mary gariad arall - rhywun o Gaerllion - a'i bod yn bwriadu cwrdd ag ef am un o'r gloch y prynhawn hwnnw, a'i fod ef (Ali) wedi rhoi decpunt iddi yn ei phoced a'i chynghori i fynd i ffwrdd i ystyried y peth.

Oedden ni'n mynd yn y bore i'r ysgol sul, cwrdd yn y pnawn ar ol cinio, ac ysgol gan ar ol te.

Oeddet ti'n cwrdd â phobol iawn, ac o'n i'n mwynhau ymateb y gynulleidfa...

Cyfarfyddai'r grwpiau, yn amlach na pheidio, bob tair neu bedair wythnos, er y byddai ambell un yn cwrdd yn wythnosol pan fyddai galw.

Cofio cwrdd eglwys ar y Sul olaf o Orffennaf Y mater dan sylw - peintio tu allan y capel.

Fis Medi mae'r ias honni ar ei dwysaf pan fydd y ddau dîm gorau yn Iwerddon yn cwrdd yn Groke Park i frwydro am y gwpan McCarthy.

'Ond nawr rwy'i wedi cwrdd â'r bechgyn yma yng Nghaerdydd a maen nhw wedi bod yn gweithio'n galed yn y rhwydi a ni i gyd yn edrych 'mlân am ein gêm gynta yn erbyn Northants.

Mewn colofn olygyddol arall o dan y pennawd, 'Y Gwahanglwyf', beirniadodd yr un mor ddychanol esgob Tyddewi am iddo wahardd offeiriadon 'rhag anghysegru gwadnau eu traed ar linoleum tŷ cwrdd'.

siaradodd hi am ei chyfeillgarwch â betty parker ac am y tro olaf roedden nhw wedi cwrdd yn y caffe, y prynhawn pan roddodd betty yr amlen iddi hi.

Sefydlu dwy gangen newydd yn ystod y flwyddyn; ail gangen yn Llanelli, sydd yn cwrdd yn y bore, a changen o fewn Cyngor Bwrdeistref Castell Nedd, y gangen gyntaf i'w sefydlu o fewn y gweithle.

Ar noson Cwrdd Chwiorydd ers llawer dydd, lwmp o gaws a phwdin reis i'w ganlyn oedd y rhagbaratoad a adawyd gan Magwen Williams i'w gŵr a'i phlentyn.

Y Prif Weinidog yn cwrdd dirprwyaeth yn cynrychioli 500,000 o ferched a oedd yn galw am y bleidlais.

Roedd yna bentref o'r enw Yr Adfa rhyw bedair milltir o Manafon, a thu draw i fanno roeddech chi'n teimlo eich bod chi yn y Waendir, a'r ychydig bobl fasa chi'n cwrdd a nhw yn Gymry Cymraeg.

Am ddeg o'r gloch y bore bydd aelodau o'r mudiad yn mynd i Ganolfan y Celfyddydau Dyffryn Madog, Porthmadog, lle bydd Pwyllgor Gogledd Cymru Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cwrdd.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd mwy o arian nag erioed o'r blaen ar gael i greu gwasanaeth rhaglenni sy'n cwrdd â'r sialens sy'n ein wynebu mewn marchnad gynyddol gystadleuol.

Cwrdd â'r FSO heddiw a hynny dan amgylchiadau anffodus.

Cwrdd a thrafod adroddiad y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar gyda'r awdur a swyddogion yn y Drenewydd.

Ar ôl y cwrdd cawn de gyda bara brith, "welsh cakes" ac yn y blaen.

Y Prif Weinidog yn cwrdd ' dirprwyaeth yn cynrychioli 500,000 o ferched a oedd yn galw am y bleidlais.

Cyn mynd, rhybuddiwyd fi ynglŷn a'r posibilrwydd na fyddem yn llwyddo i weld neb, pe na byddai'n ddiogel i ni eu cwrdd.

cwricwlwm - ei drefniadaeth a'i gynllunio ac i ba raddau y mae'n cwrdd â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Byddwn gyda'n gilydd yn ein cwrdd misol hefyd gyda hen ganeuon gwerin Cymru yn cael rhan flaenllaw yn y cwrdd.

"Deued yn gynnar," gorchmynnodd, "iddo ga'l cwrdd â mamgu cyn iddi fynd i'r gwely." gyrfa'r gŵr o dregaron carey jones tud.

Roeddem ni'r plant yno deirgwaith y Sul a phob noson o'r wythnos ac eithrio Dydd Mercher a'r Sadwrn - Cwrdd Gweddi,Dosbarth Beiblaidd neu Ddosbarth Tonic Sol-ffa, Cymdeithas y Bobl Ifainc a Seiat a hyd yn oed ar ddydd Mercher, roedd te i'r aelodau yn y festri.

Ar ben hynny, roedd yn wybyddus fod Neo-Natsi%aid yn cwrdd yn aml i feddwi ac i ganu caneuon Ffasgaidd ar lain o dir y tu ôl i'r tū yr oeddent yn y man i'w losgi.

Y tro cyntaf cawsom gopi o agenda'r cwrdd gan gyfaill Gwyddelig o gynghorwr a chael gwybod trwy hynny pa bryd y codai cwestiwn Tryweryn, er mwyn inni gael codi yr un pryd.

A oes cyfarwyddyd cydlynol ar gyfer cwrdd ag anghenion disgyblion sydd angen cymorth dysgu?

Dylid rhoi blaenoriaeth i gynlluniau sydd yn cwrdd anghenion lleol am waith, yn cyfrannu at amcanion parc cenedlaethol a helpu i ychwanegu at werth cynhyrchion lleol; ii) Datblygwyr ddylai fod yn gyfrifol am gostau ychwanegol dylunio neu ddefnyddiau adeiladu er mwyn cyrraedd y safonau amgylcheddol uwch sydd yn angenrheidiol mewn parciau cenedlaethol; iii) Dylai asiantaethau datblygu gwledig ac awdurdodau lleol gydweithio gyda'r parciau cenedlaethol i hybu cynlluniau datblygu economaidd sydd yn cydweddu ag amcanion parciau cenedlaethol; iv) Dylid edrych yn ffafriol ar arall gyfeirio fferm sydd yn cyfrannu at gynnal busnesau fferm heb beryglu amcanion parciau cenedlaethol.

Pwysleisiai fod Mam yn disgwyl iddo ef ddod adre i fynd â ni i'r Cwrdd am y tro cyntaf a soniai am fy mrawd lleia a waeddodd mâs cyn i'r offeiriad gyhoeddi'r emyn olaf "Sdim fod siarad yn y Cwrdd" nes peri i'r gynulleidfa niferus (yr adeg honno) droi i edrych i gyfeiriad y cyhoeddwr dewr!

Mae'r Gymdeithas yn awr yn gobeithio cwrdd â Meryl Gravell ar 21 Chwefror er mwyn cael trafodaeth bellach ar y materion hyn.

Mewn bywyd beunyddiol, yr ydym yn gorfod cyfarfod â sawl un i ryw berwyl neilltuol mor barhaus nes ein bod yn anghofio cwrdd â'r dyn fel person; fel dyn a dim arall.

Fe awn ni i'r 'lab' mewn munud i chi gael cwrdd eich dau." "Ydw i'n dod 'ma yn lle rhywun ...

"Ro'n i'n meddwl y bydden ni'n cwrdd fory.'

Mae nifer helaeth o'r cymariaethau a'r delweddau yn gymaint rhan o'r cartref ag ydyw'r tân a'r cwrdd yr eisteddai'r teulu o'u hamgylch.

Y bwriad oedd ceisio cwrdd â brodyr a chwiorydd yn y ffydd, a'u calonogi mewn rhyw ffordd.

Ers rhai misoedd cyn cwrdd â Miss Derwent 'roeddwn i wedi bod yn llythyru â Chwmni Collins, a'i gael y cwmni mwyaf parod i sicrhau fod plant Cymru'n cael cyfieithiadau Cymraeg, a hynny heb ofidio am y golled ariannol a allai ddilyn y fenter, a heb ddisgwyl unrhyw elw, ac eithrio'r cyfle i ledaenu enw da'r Cwmni trwy Gymru.