Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwrteisi

cwrteisi

A chan mor gryf yw'r patrwm cwrteisi a ddatblygodd yn sgîl y gwaharddiad ar ddefnyddio'r Gymraeg, nid ydynt yn eu gweld eu hunain yn ymddwyn yn anghwrtais.

A daeth patrymau cwrteisi i gydymffurfio â'r gred hon.

Er mwyn cydymffurfio â'r patrwm hwn, anfonwyd meibion Gwedir, oherwydd diffyg canolfan addysg uwch yng Nghymru, i ysgolion a phrifysgolion yn Lloegr, lle y deuent i gysylltiad ag etifeddion y prif fonedd, a lle y mabwysiadent y cwrteisi a'r moesau hynny a dderbynnid yn rhan anhepgorol o'u dull o fyw wedi iddynt ymadael oddi yno.

Ymgais i ymddangos yn wâr eu hymddygiad ymhob agwedd ar fywyd oedd 'delfryd' y bonedd, ac er mwyn meithrin hynny, ymfudent yn raddol o'r wlad i'r dref neu'r ddinas, sef canolfannau'r cwrteisi llysol a'r ffasiwn.

Effeithiodd hyn i gyd yn fuan iawn ar ymddygiad cymdeithasol ac ar batrymau cwrteisi.

O'r funud gyntaf, cawsom ein swyno gan y lle - y pentref glân ar droed y mynydd enfawr, y tai a'u bocsus blodau lliwgar, cwrteisi'r bobl, a hwyl ein cyd-deithwyr yng Ngwesty Montana.

Y parch a delid i'r etiquette moethus - y patrwm ymddygiad - a'r cwrteisi bonheddig, nodweddiadol o'r dosbarth tirol, yw'r brif allwedd i ddeall agwedd meibion Gwedir tuag at eu cymdeithas gartref ac oddi cartref.