Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwt

cwt

Defnyddio chwarel lechi Manod (Cwt-y-Bugail) yng Ngwynedd i gadw darluniau o'r Oriel Genedlaethol ac Oriel y Tate rhag cael eu dinistrio.

Phillips ohono yn iawn: y mae'r seler yn cyfateb i Uffern yn Saer Doliau; y mae lleoliad Y Ffin mewn cwt sy'n gallu gweld yr eglwys yn arwydd o bellter y bobl o'r ysbrydol; y mae'r Tŵr yn dangos gwacter ystyr a ddaw i bobl sydd wedi eu gwahanu'n llwyr o'r ysbrydol.

Roedd gan bob un ei waith yn y cwt a gwaith fy nhad oedd ei frwsio.

Ond fe fyddwn yn siŵr o'i ddal, o byddwn!" Clywodd Douglas Bader sŵn bidogau yn taro'r llawr cerrig wrth iddyn nhw edrych ym mhob man yn y cwt amdano.

Mewn pedwar llun siarcol mae'r artist yn portreadu pedwar cwt mewn pedwar lleoliad gwahanol.

Nid bod meidrol a fedr weld cwt sinc a'i alw'n commodious bungalow.

Yna clywodd ddrws y cwt yn cael ei gicio yn agored.

Dal i'w hanwybyddu a wnaethom nes gweld, er mawr ddychryn inni, ei bod hi'n dod allan drwy'r ffenestr ac yn camu ar do y cwt bychan a safai dan y ffenestr ac a redai i lawr o fewn ychydig i lefel yr iard.

Symbol y cyfeillgarwch a'r malu yw'r cwt bugail a adeiledir yn llythrennol ar lwyfan a'i falu drachefn.

Nid yw yn dewis dangos i ni ddim o'r golygfeydd godidog sydd yn nodweddiadol o'r mannau hyn, ond yn hytrach bedwar cwt sinc - sydd, efallai, yn eu ffordd eu hunain yn fwy nodweddiadol.

Cwt cymharol fychan oedd o, heb lun na phoster ar ei gyfyl.

Nid oedd obaith mynd allan i doi cwt yr ieir, oherwydd y tywydd, a bodlonais, fel rhywun wedi ymddeol, ar eistedd yn ddigywilydd ganol y bore i edrych ar y teledu.

'Mae y dynion yn canmol cyfarfod gweddi fu yn y Nant neithiwr, ac y maent yn awyddus am gael cyfarfod gweddi awr ginio heddiw yn Cwt Brake.

Rydw i'n cofio fel petai o'n ddoe dyn bach o'r enw Dafydd Bach Goch, arbenigwr yn ei grefft, yn sefyll o flaen cwt fy nhad a gofyn iddo, 'Sut mae Willie bach yn dod ymlaen?'

Gosodais y gwely i lawr yng nghanol y cwt a rhoddais f'enw arno, ac yna brysiais yn ôl i ofalu am y gwelyau eraill a nifer o baciau a safai gerllaw.

Cerddodd yn araf i gyfeiriad y cwt mawr a welai yn y pellter.

Does dim eisie i neb arall ddweud dim chwaith.' Felly allan â hwy heb ddweud gair a cherdded tua'r beiciau yn y cwt.

O'i chymharu a'r ystafell yma, cwt cwningen o le oedd ganddo ef gartref.

Gwthiodd y dynion y jet i'r cwt.

Erbyn hyn yr oedd cyfarfod y Nant yn cael llonydd, a'r dynion wedi cael testun newydd, sef fod cyfarfod gweddi i fod yn Cwt y Brake awr ginio.

Y mae gan Gwenlyn y gallu i greu triciau llwyfan sy'n rhan o'r themau ac mae codi muriau'r cwt ar lwyfan yn rhan o asio cyfeillgarwch Williams a Now yn weladwy.

Trodd fel fflach i weld cwt Bethan yn diflannu trwy ddrws.

Fel y mae y pedwar cwt yn nodweddiadol o'u broydd a'r eglwys yn nodweddiadol o 'Wlad Llŷn', y mae'r portreadau hyn o Lydaw hefyd yn nodweddiadol.

Trodd Abdwl drwyn yr awyren i gyfeiriad y golau hwnnw ac yn fuan safodd yr awyren o flaen cwt mawr.

O ystyried cyflwr y tîm ar hyn o bryd gellid yn hawdd gredu mai'r ateb i'r cwestiwn yna ydi, Unrhyw un fedar gerdded o'r cwt newid i'r cae heb ffon.

Yn fuan ar ôl hyn deallwyd fod pawb a gysgai'n agos at y cwt lle dihangodd y bechgyn, neu'r cwt lle cafwyd y radio, yn cael eu symud ac yr oeddwn i yn un o'r rheini.

Dywedodd gŵr y bwthyn wrtho am guddio tan y gwellt yn y cwt oedd tu cefn i'w gartref.

I wneud pethau hyd yn oed yn fwy bizarre, roedd Richard, sy'n gawr o ddyn a chanddo farf flewog, mor amlwg â llwynog mewn cwt ieir.

Led pedwar neu bum cae i ffwrdd 'roedd cwt mawr du.

A thra cadwem ni'n sefyll, bron llewygu o eisiau bwyd, âi nifer o'r gwarcheidwaid i chwilio trwy bob cwt yn fanwl.

'Hei, Wil, meddai un, 'glywaist ti fod cyfarfod gweddi yn Cwt Brake awr ginio?' 'Do,' meddai Wil.

Stwmpiodd ei smôc rhwng ei bympsan a'r concrit a cherddodd yn hamddenol at y cwt y diflannodd Ifor i mewn iddo.

Aeth yntau at ddrws y cwt, yna i'r cwt: doedd yno'r un enaid byw...

Aeth i weld ei dad yn yr ysbyty cyn mynd i'w waith y noson honno, ar ôl rhoi swper i'w gwningen a chadw'r cŵn yn eu cwt.

Mae o yn y cynta' o'r tri cwt mochyn.' 'Mi a' i â hi yno'n syth bin.' 'A William Huws?' 'Ia?' 'Dowch i'r ty i dalu.

Rhwng y cwt mochyn a'r gors mae boncyff un o'r coed llwyfen gafodd eu cwympo, ac y mae brigau bach newydd iraidd wedi tyfu o'i ochrau yn deilio bob blwyddyn.