Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwta

cwta

(Er i adfynach chwerw a adawodd y gymdeithas rhyw flwyddyn ledaenu si ymysg mân fynachod Enlli fod y Priodor wedi'i erlid o Rydychen ar ôl cwta dau dymor dan amgylchiadau pur amheus a dweud y lleia'.) Ond roedd hynny flynyddoedd maith yn ôl, pa 'run bynnag.

Mae'r nofel hon, a ymddangosodd cwta fis ar ôl ei farwolaeth, yn un o weithiau llenyddol mwyaf sylweddol ei gyfnod yn yr iaith Lydaweg.

Gosodwch y cerdyn hwn mewn hollt a wnaed mewn pric cwta - un crwn, os oes modd.

Ryw hannar milltir cwta sy' rhwng fa'ma a'r Felin 'cw." Sibrydodd, "Dydan ni'n dau yn gymdogion rŵan." A chyda'r addewid rasol yna, a chan gydio yn dynn yng nghlust Hywal y mab, camodd Laura Elin y Felin, yn llythrennol o'r Nef i'r niwl.

Gan mai cwta oedd fy ngwyliau yn y chwarel, cytunodd Dafydd William imi fynd i lawr i Gaerfyrddin i fwrw'r Sulgwyn un flwyddyn.

Dyna olwg wirion oedd arni mewn gymslip gyda gwallt cwta cwta a sbectol hen ffash' ar ei thrwyn!

Mae'r un ddelfrydiaeth yng ngwyrdd y gwellt ac yn oren y tywod, ac yn hwn eto ceir afon yn rhedeg ar y tywod a dau blentyn yn chwarae wrth ei hymyl gyda phwced a rhaw - y ddau mewn trywsus cwta.

Gwinllanau sy'n britho'r rhan fwyaf o diroedd isaf, calchog, Santorini gyda gwinwydd cwta, bler yr olwg, yn tyfu yno.

Byddai'n dod yn ol yn gyson bob haf i gynaeafu'r gwair cwta ar gaeau Glanrafon.

Merched fyddai'n ffoli ar foch cwta, cathod a physgod aur.

Ac yna'r gair cwta hwnnw, yr atodiad ysgeler yna fel petai, am 'waed'.

Yr eiliad nesaf fflachiodd llygad y Cripil unwaith yn rhagor yn fflam y tân a phan beidiodd y llewyrch meddai, "Fe enir mab arall i'r arglwydd Gruffudd ond nid da gormod o feibion 'chwaith rhag bod ymrafael rhyngddynt." "Gwell gormod na dim," oedd sylw cwta yr Ymennydd Mawr.

Fel un na welodd ond cwta ddwy bennod o'r gyfres Big Brother fydda i ddim yn siomedig o weld y gyfres wirion yn dirwyn i ben.

Cwta flwyddyn sy' ers pan ma' nhad druan wedi'n gadal ni a thydy i slipars o ddim blewyn gwaeth na newydd." Wedi cael un esgid yn rhydd rhwbiodd ei droed yn ysgafn â'i llaw.