Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwtogi

cwtogi

Ond gallai hynny fod yn wrthgynhyrchiol gan ei fod yn cwtogi ar y cyfleon a gaiff plentyn i ddarllen i bwrpas a thrwy hynny, ddatblygu ei ddarllen ei hun ymhellach.

mae'n bosib oherwydd cwtogi arian mai rhan-amser fydd y rheolwr nesaf.

Dechreuodd y cwtogi pan ataliwyd y gofalwyr a throi'r cwbl yn fysys-un-dyn.

Gosodir y cyfrifoldeb am benderfyniadau o'r fath ar ein gwleidyddion etholedig, sydd wedi dewis gwario cyfran helaeth o'r cyllid sydd ar gael ar ddatblygiadau yn ymwneud ag arfau, tra yr un pryd yn cwtogi ar yr arian sydd ar gael ar gyfer ymchwil wyddonol bur.

Nododd fod cymunedau Cymraeg yn cael eu bygwth gan y dirwasgiad a diweithdra, a bod gwasanaethau iechyd a llyfrgelloedd yn cael eu cwtogi.

Gyda'r cwtogi gan yr Awdurdod nid oedd yr ysgolion yn cael Cinio Nadolig, ond fe sicrhaodd Mrs Jones fod yr ysgol yn cael eu cinio Nadolig Traddodiadol fel o'r blaen yn aml iawn ar ei chost ei hunan.

Tra bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ymdrechu i ateb ein gofynion, ni allant ddarparu lle oherwydd y cwtogi ariannol.

Un o argymhellion y Comisiwn Brenhinol ar Gyfiawnder Troseddol yw y dylid cwtogi ymhellach ar hawl diffinydd i ddewis rheithgor i glywed ei achos - hawl sydd yn deillio o'r Magna Carta.

Gohirio, Cwtogi a Dileu

Mae'r dadleuon a roddir o blaid cwtogi ymhellach ar yr hawl hon wedi'u seilio ar ddiffyg cyllid, a'r angen i leihau costau achosion gerbron Llys y Goron ac i esmwytho gweinyddiad y llysoedd hynny.

Newid eich arferion bwyta Mae gwneud newidiadau mewn arferion bwyta, er mwyn cwtogi ar fraster a siwgr yn eich diet a chynyddu ffibr gaiff ei fwyta, yn bwysig er mwyn cynnal iechyd da.