Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cwysi

cwysi

Roedd yn rhychau i gyd, fel cwysi mewn cae ar ochr bryn bach crwn.

Dylid nodi hefyd bod i'r Gymdeithas ei nodweddion confensiynol ochr yn ochr â'r awydd i dorri cwysi newydd.

Bydd felly obaith na thry ef ddim byd amgenach na thudalen llyfr, ac y cyfyngir ei aredig i dorri cwysi dyfnion ar dalcennau hen ffermwyr anhydrin.

Fe fyddai bron â dotio ar y cwysi a drôi'r aradr, a theimlech ei fod yn rhan o'r cae, fod iddo wreiddiau yn anwylo'r âr yr oedd yn gwyro trosto.

A waeth heb a malu awyr am brydferthwch cwysi union gwŷdd main yn sgleinio yn yr haul, a siffrwd y gyllell drwy'r dywarchen, a rhugl y cwlltwr drwy'r pridd wrth i wedd o geffylau porthiannus ei dynnu, a'r certmon rhwng y cyrn yn ei ddal ag un troed yn y rhych ac un goes yn fwy na'r llall drwy'r dydd.