Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cydbwysedd

cydbwysedd

Mewn brawddeg, felly, gellir disgrifio'r model a bortreadir yn Ffigur I fel model cydbwysedd rhannol, tymor byr, dau sector.

Byddai model cydbwysedd cyffredinol o'r fath yn bur wahanol o ran natur i'r model cydbwysedd rhannol a geir yn Ffigur I, ond - a chymryd bod elfen o anystwythder yn perthyn i brisiau, ac yn arbennig felly i gyflogau a chyfraddau llog - fe fyddai casgliadau sylfaenol ein model dechreuol yn dal i sefyll: sef bod cydbwysedd yn bosibl gyda lefel uchel o ddiweithdra; ac y byddai'n rhaid i'r llywodraeth - er mwyn sicrhau lefel cyflogaeth uchel a sefydlog - reoli'r galw cyfanredol trwy defnyddio arfau cyllidol.

bod i elfennau addysgol fel iaith a diwylliant werth parhaol i fywyd dinesig ar ôl gadael ysgol; Cydbwysedd - drwy amcanu i ymestyn y dysgu ymhellach na'r gofynion arholiadol ee.

Bydd cydbwysedd fel hyn yn eich helpu i edrych ac i deimlo'n dda tra'n colli pwysau ar yr un pryd.

Adlewyrcha hyn yn ei dro'r cydbwysedd a geir o ran cyflwyno Hanes.

Nodwedd amheuthun o'r llyfr hwn yw'r cydbwysedd a geir rhwng pob elfen o hanes Cymru - y cydbwysedd rhwng y tir a'r môr, gwlad a thref, diwydiant ac amaethyddiaeth, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth.

Cadw cydbwysedd rhwng y gwahanol eitemau sy'n bwysig.

Gwantan iawn oedd record Llanelli yn y gême yn erbyn Caerdydd--wedi'r cwbwl, dim ond un gêm ro'n ni wedi'i hennill mewn pedair blynedd ar ddeg, ac roedd hwn yn gyfle rhy dda i'w golli, er mwyn dechre unioni'r cydbwysedd.

I gael cydbwysedd yn y bennod ar Feibl Morgan Llwyd, byddai angen ystyried y cyfeiriadau Beiblaidd eraill sydd ar ymyl y ddalen yn Llyfr y Tri Aderyn.

Byddai model cydbwysedd cyffredinol sy'n cynnwys yr holl farchnadoedd hyn yn pennu lefelau cytbwys prisiau, y gyfradd llog, a buddsoddiant, yn ogystal â'r incwm gwladol.

Ta-ta i'r camera a ddaliai, ar dair ffrâm a hanner yr eiliad, yr eiliad yr oedd cydbwysedd rhywun yn y lle anghywir, neu ei ddwylo yn yr awyr, neu ei wyneb yn y mwd.

Ym mhob pwnc bydd angen nodi a yw cynllunio wedi arwain at y dilyniant, y cydbwysedd a'r cyfoeth priodol yn y ddarpariaeth gwricwlaidd ar gyfer yr holl ddisgyblion.

Dylid ystyried sut y cynllunnir gwaith; cydbwysedd y dulliau addysgu a threfniadaeth y dosbarth; ansawdd cyfraniadau'r athro; cyflymder a phriodoldeb y gwaith ar gyfer oedran a gallu'r disgyblion; y cynnydd a wneir tuag at ddarllen cyson ac ysgrifennu estynedig; darpariaeth ar gyfer drama, addysg y cyfryngau a gwybodaeth am iaith; defnyddio technoleg gwybodaeth a'r llyfrgell.

Pan ddengys lilith ichi mor hyfryd yw'r olygfa o ffenestr y llofft ac fel y mae'r domen dail yn rhoi cydbwysedd artistig iddi, peidiwch â'i alw'n rhagrithiwr melltigedig na'i daro dan glicied ei ên.

Mae silia yn chwarae rhan y llygaid llawer o anifeiliaid a hefyd yn organau cydbwysedd anifeiliaid.