Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cydlynu

cydlynu

Yn ddiweddarach yn yr wythnos, defnyddiwyd cyfweliad y golygydd gwleidyddol Glyn Mathias gydag ef gan holl rwydwaith y BBC. Ar draws y gwasanaethau teledu a radio, yn y ddwy iaith, cafwyd cydlynu effeithiol gyda newyddion rhwydwaith y BBC a golygai hyn bod dimensiwn Cymreig y stori wedi ei archwilio'n llawn ynghyd ag ongl Llundain.

Yna cyfrifoldeb PDAG yw cydlynu'r holl geisiadau, eu gosod mewn trefn blaenoriaeth a llunio rhesymoliad cynhwysfawr cyn eu cyflwyno i'r Swyddfa Gymreig.

Yn olaf drwy cydlynu grwpiau gwirfoddol eraill mewn prosiectau a reolir gennym ni e.e.

A yw trefniadau ar gyfer adnabod a chynorthwyo disgyblion ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol (AEY) yn cael eu cydlynu â threfniadau AAA eraill?

Wrth estyn y gwahoddiad, amlinellodd brif elfennau ei swyddogaeth: bod yn fforwm a fyddai'n gallu cynghori llywodraeth ganol a lleol ar bolisi iaith; gwella cydlynu ymhlith asiantaethau sy'n cyfrannu at addysg yn yr iaith Gymraeg; dynodi anghenion datblygiad, a blaenoriaethau oddi mewn i'r anghenion hynny, ac i fod yn gyfrwng i'w hateb; dosbarthu gwybodaeth; dynodi anghenion ymchwil.

Yn y tymor byr, byddai pwyslais gwaith y swyddog ar blant a oedd a phroblemau caffael iaith, am amrywiol resymau; f) bod yr Uned Iaith yn casglu gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael, er mwyn canfod sut yr oedd awgrymiadau'r Gweithgor Cynradd yn cydlynu â chynlluniau'r Uned Iaith; ff) bod angen datblygu gwaith yr Athrawon Bro yn y maes dysgu ail iaith; Pwysleisiwyd rôl yr Athrawon Bro droeon.

Mae'r ddeddfwriaeth yma'n datganoli grymoedd pellach i ysgolion a'u llywodraethwyr ac yn hwyluso ac annog ysgolion i ymeithrio oddi wrth y gyfundrefn addysg leol, gwelir eisoes effaith ar cydlynu a darparu gwasanaethau i blant ag anghenion arbennig.

a) Cydlynu a chefnogi rhwydwaith gweithgareddau'r canghennau lleol drwy ymweld â hwy'n gyson yn ogystal â threfnu gweithgareddau ar y cyd i holl ganghennau'r ardal, megis nosweithiau Cabaret, a theithiau i Sain Ffagan.

Yn ail gofynnwyd iddo hybu cysylltiadau gwell rhwng yr Eisteddfod a'r Gymdeithas Ddrama a'r cwmni%au, boed amatur neu broffesiynol, oedd yn gweithio yn y Gymraeg, Ac, yn olaf, ei gyfrifoldeb ef fyddai cydlynu a datblygu gweithgareddau drama yn yr ardaloedd hynny oedd yn gwahodd yr Eisteddfod.

Pwrpas y seminar oedd dod â phawb ynghyd i drafod datblygiadau diweddar, edrych ar swyddogaeth y sectorau gwahanol, gweld i ba gyfeiriad mae angen datblygu a pa ffyrdd sydd mwyaf effeithiol i hyrwyddo'r datblygiadau, sut mae modd cydlynu a chydweithio at y dyfodol....a llu o faterion eraill.