Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cydnabyddiaeth

cydnabyddiaeth

Cydnabyddiaeth i Swyddog am waith a chyfrifoldeb ychwanegol dros dro

Maen cychwyn trwy grybwyll grwpiau sydd wedi cael dylanwad mawr ar nifer o fandiau, ond syn cael prin ddim cydnabyddiaeth am hynny - Yr Alarm, Pooh Sticks, Crumblowers, Plant Bach Ofnus ac yn y blaen.

Yn ôl y drefn arferol, roedd pawb oedd wedi mynd ar y trip wedi cyfrannu ychydig o newid mân 'fel cydnabyddiaeth i'r dreifar', ac rwan fod pawb arall wedi disgyn o'r bws oddi allan i'r post, fe estynnodd Elsie Williams y cwbl i Elfed: swp o ddarnau dwy geiniog a phum ceiniog ac ambell bisyn deg wedi eu casglu mewn pecyn marjarîn oedd yn dal i gynnwys ychydig friwsion ar ôl brechdanau rhywun.

a) cynnwys y sectorau preifat a gwirfoddol ynddi fel cydnabyddiaeth o'r trawsnewid sydd wedi digwydd wrth ystyried darparwyr gwasanaethau a fu'n draddodiadol o fewn y sector gyhoeddus, twf cyffredinol y sector breifat ac edwiniad cymharol y sector gyhoeddus, a mentrau ar y cyd rhwng sectorau.

Cydnabyddiaeth ddigon swta a gafodd hi y bore hwnnw, ond 'roedd hi'n rhy oer i ddal ato: 'Mi ddeudodd yn glir y bydda hi'n ffonio'.

Er bod amrywiaeth fawr yn y ffordd y ffurfiwyd y grwpiau, yn eu dulliau o weithredu ac yn eu ffyrdd o drefnu a gweinyddu'r profion a rhoi cydnabyddiaeth amdanynt, yr oedd nifer o ffactorau'n gyffredin iddynt i gyd.

Ond parhawyd y streic gan undebau eraill a fynnai Gytundeb i Bawb', sef cydnabyddiaeth i bob undeb.

Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.

Cyhoeddodd Academi Celfyddydau a Gwyddorau Darluniau Symudol America heddiw fod y ffilm 30 munud o hyd, Chwedlau Caergaint, wedi ei henwebu am Oscar - y trydydd tro i un o ffilmiau S4C dderbyn cydnabyddiaeth o'r fath.

Mae angen Deddf newydd sy'n rhoddi statws swyddogol lawn i'r iaith er mwyn i ni gael cydnabyddiaeth o Ewrop.

Nid oes uwch cydnabyddiaeth o barhad na bod yn wrthrych mil a mwy (yn llythrennol felly) o draethodau poenus ganol Haf.

Yn sicr mae Mc Mabon yn haeddu cydnabyddiaeth am y gerddoriaeth arloesol mae o'n ei gynhyrchu.

Mae'r ail ddeddf iaith yn cyfeirio at hawliau ieithyddol cwsmeriaid yn y farchnad, fel cydnabyddiaeth o realiti bywydau pobl Catalonia.