Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cydwladol

cydwladol

Yn y fath sefyllfa, bwriad Cymrodoriaethau Ffilm Cydwladol y Cyngor Ffilm newydd yw cynnig yr union ffresni a'r newydd-deb syniadol na ellir ei gael yn ein diwylliant ni.

Ar ddiwedd y Rhyfel crewyd nifer o sefydliadau cydwladol, er enghraifft, y Gronfa Ariannol Gydwladol a'r Banc Bydeang, gyda'r bwriad o osgoi'r ansicrwydd a'r amryfal chwyldroadau ym myd cyfnewid tramor.

Mae'n werth tanlinellu arwydddocâd y ffaith fod cysylltiadau cydwladol Charles yn ei alluogi i droi at yr union bobl a allai helpu.

Mae'n amlwg o brofiad fod hynny'n digwydd yn barhaus yn y byd gwyddonol cydwladol.

Ymgais i fynegi diolch iddo am y modd y mae'n dyst i safonau ysgolheictod y Gymraeg yn y byd cydwladol hwnnw, fel mewn cynifer o feysydd eraill, yw'r ysgrif hon.