Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cydymdeimlo

cydymdeimlo

Wrth gwrs fy mod in cydymdeimlo ar pedair mil o blant syn dioddef ond mewn oes pan ydym yn ymddiried cymaint o bethau i gyfrifiaduron y mae rhywbeth yn llesol mewn gweld nad yw y rheini mor anffaeledig ag y mae rhai ou gweision yn tybio.

Fe wnes i chwerthin, cydymdeimlo a chasa/ u, a gweld elfennau o'r hunan ac eraill yn y ddrama.

Amgylchiadau arweiniodd at y canlyniad yma a rhaid cydymdeimlo â Wrecsam.

Faint o gysur i'r rhain fyddai gwybod bod cynulleidfa fechan yng Nghymru yn gwybod am eu tynged, ac efallai'n cydymdeimlo?

Cydymdeimlo a maddau.

Roeddem yn ysu am gael gwybod beth oedd wedi digwydd rhyngdi â'i chwaer, ac yn cydymdeimlo'n fawr â hi wrth iddi geisio denu Meic a'i hysfa am i ddyn ei charu ar ôl ei hysgariad o briodas oedd fel "bwyta wrth fwrdd heb le i ddwy benelin".

Mewn gwirionedd, yr hyn wnaeth e oedd dangos effaith cyfalafiaeth - cydymdeimlo'n llwyr â'r glowr yr oedd e." Roedd y darlun yn Cwmglo yn un cwbl gywir yn ôl un o ffrindiau Kitchener Davies o'r Rhondda, y nofelydd a'r bardd Rhydwen Williams, un o'r ychydig prin sydd wedi sgrifennu'n blaen am fywyd y cymoedd glo.

Y mae rhywun yn cydymdeimlo â'r Tywysog William pan yw ef a'i dad a'i daid a'i nain yn erfyn am lonydd iddo fyw ei fywyd heb ymyrraeth newyddiadurwyr a thynwyr lluniau.

Wrth gymharu gwahanol esboniadau ar hanes, hawdd y gellir cydymdeimlo â barn adnabyddus yr hanesydd H. A. L. Fisher pan ddywedodd mai'r unig wers y mae Hanes yn ei ddysgu inni yw nad yw Hanes yn dysgu gwers o gwbl!

Eithr nid oedd cydymdeimlo â'r 'hen ŵr heb ei gôt' yn ddigon ac ni ddylid ymgysuro oherwydd bod Yr Eurgrawn, misolyn enwad llawer mwy, wedi cael ei 'ddiraddio i fod yn chwarterolyn'.

Awdl sy'n cydymdeimlo â gwerin Cymru yn ei thlodi a'i dioddefaint yw hon, ac mae hi yn yr un traddodiad ag awdl anfuddugol Eifion Wyn ym 1900, 'Y Bugail', 'Gwerin Cymru', Crwys, ac awdl foliant Gwilym R. Tilsley i'r glêwr.

Mae'n anochel y bydd y gohebydd yn cydymdeimlo fwy gyda milwyr o'r un wlad neu genedl ag ef ei hunan, sy'n siarad yr un iaith, yn ymwybodol o'r un hanes, neu yn rhannu'r un hiwmor.

Cofiaf yn dda fy mod yn synnu ac yn teimlo'n glwyfedig nad oedd neb yn ymddangos yn cydymdeimlo â mi.