Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfaddawd

cyfaddawd

Nid oedd cyfaddawd yn berthnasol i'r drafodaeth, gan nad oedd ffordd ganol rhwng byw a marw.

Cyril Hughes yn Castell Cyfaddawd.

Bu'r cyfuniad o onestrwydd ac unplygrwydd a'r penderfyniad diysgog i gadw'n driw i'r ddelwedd ohoni ei hun heb geisio cyfaddawd â neb yn wrthwenwyn effeithiol i'r wên ffals'.

Bardd ydy o.' Er cyfaddef fod serch a ffydd yn croestynnu, mae Saunders Lewis yn dangos fod cyfaddawd yn bosib rhyngddynt.

Cyfaddawd yw'r fferm, ffrwyth ei wrthryfel sy'n ei alluogi i gadw wyneb ac ar yr un pryd i ddal ei afael ar ei etifeddiaeth gyfalafol.

O ganlyniad i'r drafodaeth honno, lluniwyd y cynnig cyfaddawd, nad wyf mwyach yn cofio'i berwyl, mwy na'i fod yn gadael y ffordd yn rhydd i unrhyw aelod o'r Blaid arddel y syniadau economaidd a fynnai, er bod y Blaid yn datblygu polisi economaidd arbennig.

A chynnig cyfaddawd oedd yr un a basiwyd; ac fel hyn y bu.