Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfagos

cyfagos

Rhuthrodd Chernysh drwy'r eira i'r pentref cyfagos.

Dylai unrhyw fenter newydd gynnwys astudiaeth o: sut i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg a chyfathrebu i'r pentrefi ac hyd yn oed fel Canolfannau Busnes i ddatblygu mentrau newydd; a sut y gallai grwpiau o ysgolion bach cyfagos gydweithio er mwyn cynnig profiadau addysgol eang a chyffrous i'r disgybl.

Ychydig cyn i mi gyrraedd methodd disgyblion y wlad yng nghyffiniau pentref cyfagos Dolafon â mynd i'r ysgol am wythnosau oherwydd na allai'r bysus eu cyrraedd.

(ii) Awdurdodi'r Prif Swyddog Cynllunio i benderfynu'r ceisiadau canlynol fel a nodir gyda'r amodau priodol:- Cais llawn - stablau ac ystorfa bwyd preifat I ganiatau'r cais os na dderbynnid gwrthwynebiadau gan drigolion y tai cyfagos.

Wedi nesa/ u at ddinas enwog ei genedl a chael cipolwg arni o un o'r llethrau cyfagos ni allai lai nag wylo wrth feddwl am y dinistr a fygythiai ei heddwch (Luc xix.

Tra oedd yn cerdded fel hyn, ei meddwl yn bell oddi wrth y bobl o'i hamgylch, agorodd merch ffenestr llofft tŷ cyfagos a galw allan, "Pamela, be wnei di yma?" Trodd Pamela i weld pwy oedd yno ac meddai'r ferch wrthi drachefn, "Rown i'n meddwl amdanat ti ychydig eiliadau cyn iti ddod i'r stryd.

Ac mi es yn ôl i'r ochr, rhwng y ceir, a throi i far cyfagos am beint.

Gwell hynny na'u gweld yn rheibio'r cnydau ar y ffermydd cyfagos!

Diddorol fyddai enwi ychydig o'r rhai mwyaf adnabyddus, megis Dafydd Cwm-garw, Siôn Cwm-garw, William Pistyll- llwyd, Dafydd Cae-glas, Hezekiah Cwm-garw, Siôn Cwm-teg, Pegi o'r Ffarmers, Nansen Pantycelyn, Watkin y Croffte, Dafydd Glynbeudy, Daniel o'r Bryn, William Penygraig, Angharad Azariah, Rachel William y gof, a llawer eraill ar hyd y cymdogaethau cyfagos.

ac ugeiniau o ddynion yn haner noethion yn gwau trwy eu gilydd fel morgrug aflonydd, a'r chwys yn disgyn oddiwrthynt yn gafodydd i'r llawr; twrf y morthwylion a therfysg y peirianau mor ddychrynllyd, nes crynu y mynyddau cyfagos i'w sylfeini.

Mae Justin, bachgen 13 oed, wedi cael ei adael ar ei ben ei hun ar fferm ei ewythr Mac a phan fo'r arth grisli, sydd wedi lladd anifeiliaid ffermydd cyfagos, yn lladd anifail sydd yn annwyl iawn i Justin, mae o am ddial.

Edrychodd yn gyflym yn ei ddrych, cyn llywio'r car i'r lôn araf a dilyn yr arwyddion tua'r gwasanaethau cyfagos.

Yna daeth llef dyn o grib bryn cyfagos.

Ond roedd yn rhaid i'r milwyr a oedd ar wyliadwriaeth yn y tŵr cyfagos edrych i'r cyfeiriad arall am ychydig funudau, wedyn ...

Ar ôl ymweld â mynwentydd yr ardal, chwilio cofrestri'r plwyfi cyfagos a holi rhai o ddisgynyddion y teulu yn nyffryn Aman a'r cylch, cesglais dipyn o wybodaeth am y Wythi%en Fawr, gan feddwl croniclo'r hanes mewn rhyw fodd neu'i gilydd pan ddeuai gwell hamdden yn y dyfodol.

Yna, meddai'n chwyrn, "Bwyd o'r dref yma a'r ffermydd cyfagos ydy'r cwbl, wedi ei ddwyn ar orchymyn y Maer yna.

Mae'r rhain yn creu ac yn torri cysylltiadau a ffibril cyfagos nes cael effaith rhywbeth yn debyg i neidr filtroed yn cerdded dros y tir.

Dangosodd yr astudiaethau hyn fel yr oedd tafodieithoedd yn ymrannu'n ardaloedd ffocol, canolfannau o ddylanwad ar gyfer lledu nodweddion ieithyddol ac ardaloedd trawsnewid rhagddynt, sef ardaloedd yn rhannu nodweddion dwy neu ragor o ardaloedd ffocol cyfagos.

Gwyliau i wirioneddol ymglywed â hanes ar gerdded hyd lwybrau yr hen 'ffordd sidan' fu'r egwyl yn Uzbekistan, a gwyliau i synhwyro y bydd hi a'r gweriniaethau cyfagos yng Nghanolbarth Asia yn dod gwygwy i'n sylw cyn y bydd y chwalfa Sofietaidd yn dirwyn i ben.

'Doedd y cyflenwad hwnnw ddim yn ddigon bellach ar gyfer holl ofynion y ddinas a mannau cyfagos.

Derbyniwyd llythyr gan Gangen Llandwrog yn gofyn i'r rhanbarth wrthwynebu datblygu Belan a thir cyfagos.

Dywedodd ficer cyfagos: '...' .

Ninnau'n byw ar dyddyn bychan cyfagos byddai Mam yn pryderu am y sbloetiau peryglus hyn.

Byddai'n dwyn gwair o ffermydd cyfagos, ond er y gellid dilyn ei drywydd yn ôl am Dyddyn Bach ni feiddiai neb ei gyhuddo, gan fod arnynt ei ofn.

Lladdodd yr un daeargryn yn agos i gant pum deg o bobl mewn ardaloedd cyfagos.

Mae angen cymryd camau breision ymlaen yn awr o ran hybu cydweithrediad rhwng cylchoedd o ysgolion gwledig cyfagos i'w datblygu fel unedau academaidd cryf.

deallodd drannoeth fod y gweithiwr telegraff yn lyons dan orchymyn i ddaearu'r wifren hanner ffordd trwy'r arbrawf, i ddangos i'r comisiwn nad oedd twyll yn bod ; byddai i'r negesau fod wedi parhau yn ddidor ddangos mai ffug oedd y cwbl, ac fod gan hughes gyfaill cyfagos yn cymeryd arno fod yn delegraffydd yn lyons bell.

Ysgolion cyfagos yn cydweithio ac yn cronni adnoddau i sicrhau'r ystod ehangaf o brofiadau addysgiadol a chysylltiadau cymdeithasol i ddisgyblion tra'n cadw'r addysg o fewn y gymuned leol.