Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyfalaf

cyfalaf

Yn ôl yr egwyddor hon, y mae'n ystyrlon i drin nwyddau traul (a hefyd, o ran hynny, nwyddau cyfalaf) fel cyfanred, os oes modd egluro'r galw cyfanredol am y nwyddau hyn heb ystyried na'r ffactorau sy'n pennu'r galw am nwyddau unigol nac ychwaith gymhellion treulwyr fel unigolion.

Y mae'r gymhareb hon yn osgoi'r anhawster o benderfynu beth yw'r cyfalaf, ac efallai'n ei gwneud hi'n haws i gymharu un busnes â'r llall.

Er enghraifft, mae'n rhaid ystyried yr elw mewn perthynas â'r cyfalaf a ddefnyddir yn y busnes.

Y gweithwyr a'u cododd, a hynny heb gymorth cyfalaf gan yr arch- gyfalafwyr, y bragwyr.

Yn ail, mae cynhyrchaeth llafur yn debyg o fod yn uchel yn y diwydiannau cynhyrchu am wahanol resymau: yn un peth maent yn defnyddio llawer o gyfalaf gogyfer â phob person (maent yn fwy cyfalafddwys nag yw'r gwasanaethau), ac mae eu cymhareb allgyrch cyfalaf yn tueddu i godi gyda'r blynyddoedd.

Y gred gyffredinol hyd yn ddiweddar oedd fod hyn yn arbennig o wir am wario cyfalaf.

Cymhareb holl-bwysig ydyw'r berthynas rhwng elw a'r cyfalaf a fuddsoddwyd.

"O'i gymharu â rhai o'r symiau ar y rhestr cyfalaf, dyma swm bitw, bitw iawn," meddai'r Cung Huws, a ychwanegodd: "Dwi'n amau ers tro bod 'na gynllun gan y Swyddfa Gymreig, a gan Gwynedd hefyd, i sianelu arian mawr i ganolfan gwleidyddol poblogaidd sy'n cael eu gweld -- a hynny ar draul yr ardaloedd diwydiannol traddodiadol, lle byddai'r arian yn gwneud mwy o les.

(vi) dim newid ychwaith yn y cyflenwad llafur, y stoc cyfalaf, na chyflwr technoleg, ac, fel canlyniad, gallu cynhyrchu'r economi (neu lefel cynnyrch cyflogaeth lawn) hefyd yn aros yn ddigyfnewid;

Arwyddocâd y ddwy dybiaeth gyntaf ydyw mai model dau sector yn unig a geir yn Ffigur I, sef sectorau unedau teuluol a chwmni%au busnes; a bod y galw cyfanredol, felly, yn cynnwys dwy gydran yn unig, sef y galw am nwyddau traul ar ran unedau teuluol (Treuliant), a'r galw am nwyddau cyfalaf ar ran cwmni%au (Buddsoddiant).

Bydd rhai cyfrifyddion yn defnyddio'r gymhareb elw / cyfanswm asedau yn lle elw / cyfalaf a ddefnyddir.

Is-bwyllgor Adolygu a Gwariant Cyfalaf

Y mae pob agwedd - gwerthu, prynu, cynhyrchu, cyflogi, buddsoddi mewn offer, gweinyddu a sicrhau cyfalaf i gyd ynghlwm wrth ei gilydd.

Nid at Rwsia garpiog y mae troi am help i hybu masnach a chreu cyfalaf i brynu ac adnewyddu nwyddau sylfaenol i'r economi.

Yn sicr yr oedd distryw yr Ail Ryfel Byd yn fwy cyffredinol ac eithafol nag a gafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf - yn enwedig ym myd cyfalaf sefydlog, hynny yw, adeiladau a pheiriannau.